Trafoda Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, gyllidebau Cymru a’r DU ar gyfer 2026/27 a’r goblygiadau i’r sector gwirfoddol.
Mae tipyn wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Gwnaethom ddal ein hanadl am isetholiad anarferol o bwysig, ystyried *adrannau anadnabyddus o Ddeddf Llywodraeth Cymru, a gwnaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) *ryddhau cyllideb y DU ar ddamwain. Mae rhagor i ddod, ond mae’n amser da i grynhoi prif ddatblygiadau’r gyllideb a’u rhoi nhw yng nghyd-destun y canfyddiadau o don gyntaf Baromedr Cymru.
YMLAEN GAN BWYLL YM MAE CAERDYDD
Cyrhaeddodd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn annodweddiadol o gynnar, yng nghanol mis Hydref, ac nid oedd yn cynnwys unrhyw beth annisgwyl – dim un peth, mae’r gyllideb bron yn gwmws yr un fath ag un y llynedd. Cynigiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyllideb ‘busnes fel arfer’, a oedd yn cynnwys cynnydd rhesymol cysylltiedig â chwyddiant ar wariant y llynedd. Ni chafodd y cynnydd chwyddiannol ei gymhwyso’n gyfartal ar draws pob portffolio; Tai a Llywodraeth Leol dderbyniodd y cynnydd mwyaf (2.13%), gyda Chyfiawnder Cymdeithasol yn derbyn y cynnydd lleiaf (1.98%).
Ar adeg cyhoeddi’r gyllideb ddrafft, rhagwelodd yr OBR y bydd chwyddiant ar 2.1% yn 2026. Ar ddiwedd mis Tachwedd, cyhoeddodd yr OBR *ragolwg newydd a oedd yn nodi y byddai chwyddiant 2026 yn 2.5%. Cydnabu dogfennau cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ail-ragolwg disgwyliedig yr OBR gan nodi bod eu proses gyllidebol ‘wedi’i chynllunio’n dda i gadw ansicrwydd o’r fath mewn cof, ac mae gennym hyblygrwydd i … darparu ar gyfer newidiadau yn y Gyllideb Derfynol’. Mae’n bwysig ein bod yn eu hatgoffa o hyn bob cyfle a gawn cyn y bleidlais derfynol ym mis Ionawr.
LLYWIO TRWY DDYFROEDD GARW
Er nad oedd unrhyw gyhoeddiadau mawr, mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cyflwyno ansicrwydd sylweddol. Gyda Llafur Cymru yn colli isetholiad Caerffili, mae angen i’r Llywodraeth gael cefnogaeth o leiaf dau aelod o’r gwrthbleidiau i basio eu cyllideb. Maen nhw wedi neilltuo £380 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu a fydd yn chwarae rôl allweddol gyda chefnogwyr posibl yn y trafodaethau. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, unig gynrychiolydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y Senedd, Jane Dodds AS, a’r aelod Annibynnol, Russell George AS, eisoes wedi cwrdd i drafod. Mae CGGC yn galw i’r cyllid heb ei ddyrannu gael ei ddefnyddio i gefnogi’r sector gwirfoddol.
Nid dyna ddiwedd yr ansicrwydd. Os na all Llywodraeth Cymru gael y ddwy bleidlais ychwanegol, byddant dim ond yn gallu dyrannu 75% o’r terfynau a gymeradwywyd yn y flwyddyn flaenorol. Bydd hyn yn arwain at doriad o 25% ar wariant, a fydd yn effeithio ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru a gallwn ddisgwyl i’r sgil effeithiau fod yn ddifrifol ar y sector gwirfoddol.
LLANAST SAN STEFFAN
I’r gwrthwyneb, gwelwyd ton o ansicrwydd, tybiaethau a thor cyfrinach cyn cyllideb Llywodraeth y DU.
Ymunodd CGGC ag elusennau o bob rhan o’r DU i *alw am gymelliadau i hybu rhoi, cyllid ar gyfer cyflwyno technoleg AI yn ddiogel yn y sector gwirfoddol ac, yn anad dim, *dim byd annisgwyl.
Ymhlith y llanast ar ddiwrnod y gyllideb, bu ychydig o newyddion da a drwg i’r sector. Roeddem yn falch o weld cyflwyniad *rhyddhad TAW newydd i nwyddau sy’n cael eu rhoi i elusennau gan fusnesau. Mae cael gwared ar y terfyn dau blentyn ar Gredyd Cynhwysol hefyd wedi’i groesawu’n eang ar draws y sector.
Bydd £505 miliwn yn cael ei ddyfarnu i Gymru mewn symiau canlyniadol Barnett, ond roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn *gyflym i egluro y bydd y rhan fwyaf o’r arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i sefydlu cronfa bontio ar gyfer ailbrisio cyfraddau busnes.
Mae’r *cynnydd uwch na’r disgwyl yn y Cyflog Byw Cenedlaethol yn bolisi y mae llawer o fudiadau gwirfoddol o’i blaid mewn egwyddor, ond gall beri problemau i gyflogwyr elusennau sydd eisoes yn wynebu anawsterau ariannol. Yn ogystal â hyn, mae *cap blynyddol newydd o £2 mil ar gyfraniadau aberthu cyflog heb dreth yn newyddion drwg i’r holl elusennau hynny sydd wedi cyflwyno cynlluniau aberthu cyflog i liniaru ychydig ar y cam i gynyddu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr (CYGC) y llynedd. Y peth da amdano yw nad yw’n dod i rym tan 2029.
Datgelodd ton gyntaf Baromedr Cymru fod 68% o’r mudiadau a arolygwyd yn credu bod eu sefyllfa ariannol wedi’i heffeithio’n negyddol gan y camau y llynedd i gynyddu’r CYGC a’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a dywedodd 27% ohonynt fod yr effaith yn negyddol iawn.
COST GYFLENWI WIRIONEDDOL
Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi pwysau ar bob corff cyhoeddus i gynyddu grantiau a chontractau cyhoeddus yn ddigonol. Er mai cynhyrchu incwm yw pryder mwyaf 90% o’r mudiadau a arolygwyd, dim ond 14% ohonynt nododd bod grantiau a chontractau cyhoeddus wedi caniatáu iddynt adennill eu costau llawn ar bob adeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nododd mwy na hanner (54%) nad oeddent wedi derbyn unrhyw arian ychwanegol o gwbl yn ystod y 12 mis diwethaf, a dim ond 3% ddywedodd fod eu holl grantiau a chontractau wedi’u cynyddu. Hyd yn oed ymhlith y mudiadau a dderbyniodd fwy o arian, nododd y mwyafrif ohonynt (63%) fod y chwyddiannau hyn dim ond wedi talu rhan o’r gwir gost o gyflenwi’r gwasanaethau.
Nid yw’n syndod felly bod y mwyafrif (69%) o’r 56% o fudiadau a ddefnyddiodd arian wrth gefn i dalu costau gweithredu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud hynny i lenwi bylchau cyllido, a bod mwy na chwarter (26%) yn defnyddio’u harian wrth gefn i sybsideiddio contractau llywodraethol.
A ALLWN NI BARHAU I WNEUD BUSNES FEL ARFER MEWN GWIRIONEDD?
Ar yr olwg gyntaf, nid yw cyllidebau eleni wedi bod ymhlith y gwaethaf. Ond am ba hyd allwn ni barhau i gael y cyllid arferol a gollwng ochenaid o ryddhad pan nad yw pethau mor ddrwg ag y gallent fod wedi bod?
Rwyf eisoes wedi rhannu rhai canfyddiadau o don gyntaf ein harolwg chwarterol newydd – Baromedr Cymru. Dyma rai eraill:
- Nododd 74% o fudiadau bod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu yn sgil costau cynyddol
- Nododd 65% nad oedd digon o gapasiti i ateb y galw yn ystod y tri mis nesaf
- Nododd 64% gynnydd yn y galw am wasanaethau
- Mae 27% yn disgwyl i’w sefyllfa ariannol ddirywio yn ystod y tri mis nesaf
- Mae 14% yn disgwyl i’w gweithlu â thâl leihau yn ystod y tri mis nesaf
Mae’n amlwg nad yw’r sector gwirfoddol yn ffynnu. Er ein bod yn croesawu rhai o gyhoeddiadau’r gyllideb a bod cysur mewn gwybod beth i’w ddisgwyl, rydym yn poeni na fydd hyn yn ddigon yn yr hirdymor. Mae etholiad y Senedd yn prysur agosáu ac rydym yn herio’r holl bleidiau gwleidyddol i roi partneriaeth â’r sector gwirfoddol wrth wraidd eu maniffestos.
Byddwn ni a’r VCSE Observatory yn cynnal digwyddiad ar y cyd ar 15 Rhagfyr i edrych yn fanylach ar ganlyniadau ein harolwg diweddaraf. Cofrestrwch i ddysgu mwy ac ymuno â’r drafodaeth.
Porwch drwy ddangosfwrdd Baromedr Cymru a chofrestrwch i gymryd rhan yn ein harolygon yn y dyfodol.
*Saesneg yn unig