Yr olaf yn ein cyfres o flogiau gan Karen Chalk, Cyfarwyddwr ‘Circus Eruption’. Mae Karen yn myfyrio ar y fwrsariaeth arweinyddiaeth a gafodd gan CGGC ac ar y cynlluniau y gwnaeth COVID ymyrryd â nhw.
Ar ddiwedd 2019, roeddwn i’n llawn cyffro i ddechrau ar fy nhaith fwrsariaeth; roeddwn i wedi trefnu cwpwl o ymweliadau ar ddechrau 2020 a dechrau ymchwilio i opsiynau astudio. Roeddwn i wedi gobeithio defnyddio’r cyllid i gwblhau un cwrs a phedair taith yn y DU er mwyn ehangu fy ngorwelion a symud ‘Circus Eruption’ ymlaen.
Yn elusen gynhwysiant fechan a sefydlwyd ryw 30 o flynyddoedd ynghynt, roedden ni wedi bod yn datblygu ac yn tyfu’n raddol hyd nes roedden ni mewn sefyllfa i brynu adeilad am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2019. Roedd yr hen eglwys hon yn adeilad rhestredig Gradd II, a fyddai’n rhoi set hollol newydd o heriau a chyfleoedd newydd i ni!
Fy ngobaith oedd y byddai’r fwrsariaeth yn datgloi gorwelion newydd, yn cefnogi fy nysgu a’m dealltwriaeth o’r hyn a oedd yn bosibl ac yn helpu’r mudiad a finnau i symud ymlaen yn fwy hyderus mewn cyfnod o newid mawr i ni.
GWERSI GAN FUDIADAU ERAILL
Ym mis Ionawr 2020, gan yr oedden ni’n meddwl am ddatblygu ein hail le gyda mathau newydd o waith cynhwysiant, fe euthum ar daith ysbrydoledig i Birmingham i ymweld â Birget Kehrer yn ChangeKitchen. Bu hi’n ddigon hael i rannu ei stori a chefnogi ein taith, ac mae’r cyngor a’r arweiniad a gefais yn llywio ein hymgysylltiad presennol â rhaglen ‘Camau at Gynaliadwyedd’ yr Academi Mentrau Cymdeithasol yn fawr iawn.
Roeddwn i hefyd wedi dechrau edrych i mewn i ymweliad â mudiad yng Ngwlad Belg ac wedi bwcio i ymweld â phrosiect yn Llundain ar ddiwedd mis Mawrth 2020 – ond wrth gwrs, ni wnaeth yr un o’r rhain ddigwydd.
Fel pawb arall, cefais fy hyrddio i mewn i fyd anghyfarwydd. I mi, roedd hyn yn golygu gorfod dod o hyd i gyllid i adennill yr incwm roeddwn i wedi’i golli, ymgymodi â’r ffaith bod y grantiau cyfalaf ar gyfer adnewyddu ein hadeilad wedi dod i ben yn sydyn (roedd y caniatâd cynllunio wedi dod drwyddo ddiwedd mis Chwefror 2020), addysgu gartref a phopeth arall a aeth law yn llaw â’r cyfnod clo.
Yn amlwg, nid oedd teithio – rhan allweddol o’r fwrsariaeth a rhywbeth roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen ato – yn opsiwn.
FFYRDD NEWYDD O DDYSGU
Roedd amser hefyd yn brin iawn yn ystod 2020, ond fe gymerais ran yn ‘Common Purpose’ ar-lein, a oedd yn ddiddorol ac yn adeiladol. Roedd ‘action learning’ (dysgu gweithredol) yn arbennig o ddefnyddiol; yn hwn, bu grŵp bychan o arweinwyr o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat yn ymhél â phroblemau penodol yr oedd y grŵp yn eu hwynebu mewn modd adeiladol.
Cefais fentora hynod o ddefnyddiol drwy’r ‘Cranfield Trust’, ac yn ddiweddarach yn y pandemig, cawsom ni ein derbyn ar raglen ‘Pilotlight’, a arweiniodd at lunio cynllun strategol ffurfiol. Rwyf hefyd yn rhan o raglen Arweinwyr Profiadol Cymru Clore nawr a, gyda chydweithiwr, wrthi’n datblygu agweddau busnes cymdeithasol ein datblygiad ar y cwrs Camau at Gynaliadwyedd.
MYFYRIO GYDAG ARWEINWYR ERAILL
Er bod popeth ar-lein, mae cael pobl eraill i edrych yn fanwl ar y cyfleoedd a’r heriau roedden ni’n eu hwynebu wedi bod yn werthfawr a defnyddiol tu hwnt, ac mae’r gallu hwn i gamu y tu allan i’ch cyd-destun eich hun a myfyrio arno yn elfen dyngedfennol o’r dysgu yr oedd Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie yn bwriadu ei greu.
Rwy’n cofio un o’m cymheiriaid ar ‘Common Purpose’ yn dweud, ‘rwy’n credu bod pob un ohonon ni eisiau hoffi ein swyddi gymaint ag y mae Karen yn hoffi ei un hi.’ Daeth hyn ar adeg pan oeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi â heriau’r pandemig, ac roedd yn hyfryd clywed hynny’n cael ei atsain yn ôl! Rhoddodd rhaglen ‘Pilotlight’ fewnwelediadau i’n mudiad na fydden ni wedi’u gweld na gweithredu arnynt hanner mor gyflym heb y cymorth hwn.
CAMAU NESAF
Rwy’n bwriadu ymweld â grwpiau a mudiadau eraill, ac yn gobeithio y bydd hi’n bosibl manteisio ar y cyfleoedd hyn a ohiriwyd yn ystod 2022.
Gwnaeth y fwrsariaeth fy ysgogi i edrych o gwmpas a’m galluogi i wneud cysylltiadau a manteisio ar gyfleoedd sydd, heb os, wedi cynyddu fy sgiliau a’m gwybodaeth fy hun yn ogystal â gorwelion ‘Circus Eruption’.
Rydyn ni’n fudiad cydweithredol iawn ac roedd yn teimlo’n annifyr i roi sbotolau ar fy hun, ond os oes siawns y gallech chi ehangu gorwelion eich mudiad drwy gyfle o’r fath, fydden ni’n eich annog i fynd amdani!
YNGLŶN Â BWRSARIAETH ARWEINYDDIAETH
Derbyniodd Karen Chalk Fwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie 2019. Nod y fwrsariaeth gan CGGC yw helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.
Mae bwrsariaeth arweinyddiaeth ar agor nawr am geisiadau. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Fwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Chwefror 2022.
MWY GAN KAREN CHALK
Dycnwch a chreadigedd – neu, yr hyn a oedd eu hangen arnon ni i ddal ati!