Yn cau’r #WythnosCyfalafCymdeithasol cyntaf, mae Pennaeth Buddsoddi Cymdeithasol Cymru Alun Jones yn esbonio sut y gall buddsoddwyr cymdeithasol helpu i gynhyrchu cyfalaf cymdeithasol cynaliadwy.
Mae’r term ‘buddsoddiad cymdeithasol’ yn cael ei ddefnyddio’n aml a gall olygu llawer o wahanol bethau i lawer o wahanol bobl. Yma yn CGGC, yr is-bennawd ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) yw ‘Rhoi arian ar waith mewn cymunedau’. I ni, mae buddsoddiad cymdeithasol yr un peth â buddsoddiad cymunedol – uchelgais i wneud cymunedau’n lleoedd cryfach a mwy bywiog i fyw a gweithio ynddynt. Mewn geiriau eraill, adeiladu gallu cymunedol gyda chyfalaf cymdeithasol cryf.
Mae unrhyw fuddsoddiad, waeth a yw’n grant neu’n fenthyciad, yn cyflwyno disgwyliad i gael rhywbeth yn ôl, ac yn achos buddsoddwyr cymdeithasol, mae hyn bob amser yn gysylltiedig â chanlyniadau cymdeithasol a gwelliannau y gellir eu gweld yn y cymunedau y caiff y buddsoddiad ei wneud. Mae’n gweithio’r ddwy ffordd ac yn fargen deg i bawb.
Y ffordd rydyn ni’n penderfynu buddsoddi
Yn anochel, mae’r canlyniadau hyn yn gysylltiedig â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a waeth pa mor anodd neu fel arall yw hi i fesur cyflawniad y nodau hyn, maen nhw’n rhoi mewnolwg da i feddwl unrhyw fuddsoddwr cymdeithasol a’i safbwynt tebygol ar dyfu cyfalaf cymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o wir o ran yr egwyddorion gweithredu sy’n gysylltiedig â’r ddeddf, yn enwedig y rhai sy’n ymdrin â chydweithio a chynnwys, sydd nid yn unig yn ganolog ‘i’r ffordd rydyn ni’n gweithio’, ond hefyd ‘y ffordd rydyn ni’n penderfynu buddsoddi’.
Nid yw buddsoddiad cymunedol yn gydberthynas unionlin, syth, oherwydd i fod yn llwyddiannus, rhaid cael cyfraniadau gan bawb sy’n gysylltiedig ag ef – y term hwnnw a gaiff ei gamddefnyddio’n aml, ‘rhanddeiliaid’. Mae llawer gormod o hanes o gymunedau’n ‘cael pethau wedi’u gwneud iddynt’ yn hytrach na chael eu grymuso i gymryd yr awenau, ac mae hyn yn rhywbeth y mae buddsoddwyr cymdeithasol yn ymwybodol iawn ohono. Bydd y math hwn o fenter bob amser wedi’i chondemnio i fethu oherwydd y diffyg ymrwymiad gan y buddiolwyr cydnabyddedig. A dyma pam fod cydweithio a chynnwys yn elfennau hanfodol ar restr ddymuniadau pob buddsoddwr cymdeithasol.
Mae gan bob cyfrannwr rôl, ond gyda’r rolau hyn, daw cyfrifoldeb. Mae’r holl gyfranwyr hyn yn fuddsoddwyr cymdeithasol yn eu ffordd eu hunain, hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt a gaiff ei gydnabod felly fel arfer. Yn syml, byddai’r grwpiau cyfranwyr yn edrych tebyg i hyn: –
Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Un maes sy’n gallu dangos yr hyn y mae tyfu cyfalaf cymdeithasol yn ei olygu’n ymarferol yw dychwelyd adeiladau i fod dan berchnogaeth cymunedau trwy drosglwyddo asedau’n ffurfiol neu’n syml, trwy brynu’r adeiladau hyn.
Yn aml, gall cael unrhyw gynnig o’r fath i hyd yn oed ddechrau chwilio am gyllid fod yn waith hirfaith a chostus. Mae bwlch amlwg yn y farchnad gyllido ar hyn o bryd ar gyfer y gwaith cyfnod cynnar hwn, sy’n anodd dod o hyd iddo. Gan fod yr adeiladau hyn yn dechrau dan berchnogaeth awdurdodau lleol yn aml, gallant hwy chwarae rhan fawr mewn darparu mynediad hawdd at wybodaeth ynghylch pob agwedd ar yr adeiladu hyn – teitl cyfreithiol, arolygon o’r cyflwr ac ati – rhywbeth tebyg i lyfr lòg adeilad. Yn yr un modd, mae gweithio gyda’r gymuned leol yn ystod y camau cychwynnol yn hanfodol. Nid yw cyhoeddi bod angen cael gwared ar adeilad gydag ond ychydig o fisoedd o rybudd a disgwyl i’r gymuned fod mewn sefyllfa i ddod yn berchennog hygred, heb unrhyw brofiad, ar gymaint o fyr rybudd yn ddigon da.
Rhaid cydnabod mai’r rheswm pam fod cymaint o’r adeiladau hyn yn cael eu gwaredu yw am nad yw’r gweithrediad sy’n cael ei wneud o’u mewn ar hyn o bryd yn gynaliadwy mwyach. I ddechrau, rhaid i’r gymuned fod yn realistig ynghylch yr hyn y mae’n mynd i’w wneud yn wahanol (efallai’n gwbl wahanol), oherwydd ni fydd newid perchnogaeth yn ei hun yn ddigon i achub yr adeilad. Mae’r dynfa emosiynol am, er enghraifft, ‘achubwch ein llyfrgell’ yn amlwg yn gryf, ond mewn oes lle mae arian yn fwyfwy prin, beth yw’r model cyflenwi amgen sy’n gwneud i hynny weithio? Pur anaml y bydd buddsoddwyr cymdeithasol, a hyd yn oed cyllidwyr grant, eisiau ‘prynu’ cyfnod cyflenwi’n unig. Yr hyn y maen nhw am ei wneud mewn gwirionedd yw helpu i greu etifeddiaeth gynaliadwy.
Caiff y cynaliadwyedd hwnnw ei greu gan gymuned sy’n gwerthfawrogi (h.y. yn defnyddio) yr hyn y mae’n ei greu – dim diddordeb, dim i’w ddangos. Rhaid gwneud dewisiadau; efallai bydd yn rhaid i batrymau prynu newid. Rwyf wedi gweld cangen banc yn cau, nid am nad oedd yn cael ei ddefnyddio digon ar gyfer talu arian i mewn a thynnu arian allan, ond am nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau a oedd yn gwneud arian i’r banc- benthyg arian. Pan gwestiynwyd pam nad oedd unrhyw un yn cael benthyciad personol o’u cangen leol, yr ateb oedd ‘Gallwn ni ei gael yn rhatach gan ddarparwyr eraill ar y rhyngrwyd’. A allai’r gangen honno o’r banc arallgyfeirio i ddod o hyd i ffrydiau incwm eraill i’w wneud yn gynaliadwy os oedd yn nwylo’r gymuned? Pwy a ŵyr? Ond bydd wastad rhywbeth rhatach yn rhywle arall, ac anaml iawn y bydd ras rhwng darparwyr i gynnig y pris isaf yn diwedd yn dda. Mae penderfyniadau prynu cymunedol yn effeithio ar gyfalaf cymdeithasol. Ond pan fydd cyllidebau ar eu hisaf, mae’r penderfyniadau a wneir ar gostau cyfle ar eu hamlycaf.
Beth amdano’r sector preifat?
Mae gan fusnesau’r sector preifat ran i’w chwarae hefyd o ran cofleidio eu cyfrifoldebau fel dinasyddion corfforaethol. Ar wahân i’w gweithgareddau amlwg, sut maen nhw’n gwneud eu penderfyniadau prynu? Oes yna gyflenwr lleol y gellir ei flaenoriaethu? A all rhywfaint o’r gyllideb farchnata gael ei defnyddio i wrthbwyso unrhyw wahaniaeth mewn pris, gan fod stori dda i’w hadrodd i bawb dan sylw?
Rydym wedi gweld lleoedd penodol yn edrych ar restrau cyflenwyr cwmni ar y cyd, a lle nad oes darparwr lleol, maen nhw wedi sefydlu un, efallai fel menter gymdeithasol gydag ymrwymiad gan gwmnïau eraill y byddant yn prynu oddi wrthynt. Y cwbl sydd ei angen ar fuddsoddwr cymdeithasol i gefnogi busnes o’r math hwn yw ychydig o hyder yn y gwerthiannau maen nhw’n debyg o’u cyflawni, a chyda chydweithrediad priodol, gellir dangos hyn.
Mae caffael yn y sector preifat yn hawdd o’i gymharu â’r peryglon yn y sector cyhoeddus, ond gall pob rhan o’r sector cyhoeddus chwarae ei rhan mewn tyfu cyfalaf cymdeithasol yn y lleoedd y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae digon o gwmpas yn y rheolau caffael i gyflawni hyn, ac mae digonedd o ganllawiau a chymorth ar gael drwy wasanaeth Cyswllt Busnes Cymdeithasol Canolfan Cydweithredol Cymru.
Y ‘na-araf’
Mae rhoi’r holl gynlluniau ar waith yn dod â phopeth yn ôl at ddrws y buddsoddwyr cymdeithasol, sy’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi mentrau da, newydd. Yr her iddyn nhw yw gwneud eu prosesau mor gyfeillgar â phosibl i’r ymgeisydd ac mor amserol â phosibl. Mae cyflymder a gonestrwydd yn briodweddau pwysig mewn cyllidwr – d’oes yr un ohonon ni’n hoffi’r ‘na araf’.
Mae angen i bob ochr fod yn agored i ffyrdd gwahanol o feddwl. Yn SIC, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn dechrau gyda dalen lân o bapur ac yn mowldio sut olwg fydd ar ein cyllid cymaint â phosibl er mwyn diwallu anghenion cymunedau. Nod ein Cronfa Tyfu Busnes Gymdeithasol a’n Cronfa Datblygu Asedau Cymunedol arloesol yw adeiladu cyfalaf cymdeithasol a dangos sut gall cyllid fod yn wirioneddol gydweithredol gyda risgiau a gwobrwyon a rennir.
Mae’n hanfodol, fodd bynnag, ein bod ni fel endid cyfunol yn buddsoddi mewn cyfalaf arall hefyd, fel cyfalaf cymdeithasol sy’n trosi’r gwerth o gysylltiadau cymdeithasol, cydberthnasau, arferion, rhwymedigaethau cyffredin a hunaniaeth yn lle i gyflawni canlyniadau y gellir cael eu gwireddu i bawb. Fel arall, ni fydd unrhyw swm o fuddsoddiad ag ymwybyddiaeth gymdeithasol yn gwireddu ei botensial llawn.
Fel mae mudiad cenedlaethol, enwog, arall yn hoff o’i ddweud a’i brofi – ‘yn gryfach gyda’n gilydd’. A d’oes unman yn fwy perthnasol i ddweud hyn nag ym myd cyfalaf cymdeithasol.