Gwirfoddolwr yn dosbarthu siopa

‘Mae gwirfoddoli yn rhan gynhenid o’r wlad hon ac rwy’n falch o hynny’

Cyhoeddwyd: 23/07/21 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Peredur Owen Griffiths MS

Yr wythnos hon, mae Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a Llafur Cymru yn llunio blogiau am eu gweledigaeth ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Daw’r gyfres hon i ben heddiw drwy flog gan Peredur Owen Griffiths AS, Plaid Cymru wrth iddo bwysleisio’r cyfle i adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd gan y sector yn ystod y frwydr yn erbyn pandemig Covid-19.

Un peth arbennig am fyw yng Nghymru yw’r ymdeimlad toreithiog o gymuned a pherthyn mewn bron pob man. Fel mab i weinidog Presbyteraidd Cymru, rwyf wedi byw mewn nifer o wahanol rannau o’r wlad yn ystod fy mywyd ac mae’r ymdeimlad hwn o gymuned wedi bod yn amlwg ym mhob man.

Yn aml, y cwestiwn cyntaf y gofynnir i chi wrth gwrdd â rhywun am y tro cyntaf yng Nghymru yw ‘O le rydych chi’n dod?’ nid ‘Beth yw’ch swydd chi?’. Mae’r awydd cynhenid hwn i greu cysylltiadau yn seiliedig ar ymdeimlad o le yn un o nodweddion ein gwlad ac o’r bobl sy’n byw yma.

Mae traddodiadau Plaid Cymru o fod yn blaid lawr gwlad yn gweddu â’r nodwedd genedlaethol ddwys. Heb feddu ar gefnogwyr cyfoethog ein cystadleuwyr gwleidyddol, rydyn ni’n dibynnu’n gryf ar ewyllys da ein haelodau i wirfoddoli eu hamser er mwyn i ni gyflwyno ein negeseuon a siarad â’r bobl yn ein cymunedau. Nid yw hynny’n rhywbeth fy mod byth yn ei gymryd yn ganiataol. Mae dibynnu ar wirfoddolwyr yn golygu bod ein plaid yn wirioneddol yn gwerthfawrogi gwerth a chyfraniad gwirfoddolwyr.

Nid yw ein gwirfoddoli wedi’i gyfyngu i ddiddordebau gwleidyddol y blaid. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi profi aelodau o Blaid Cymru’n trefnu ymdrechion gan wirfoddolwyr i gynorthwyo â’r cymorth wedi’r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf gan gasglu a rhoi bwyd, dillad ac arian i’r bobl yr effeithiodd Storom Dennis arnynt. Mae cynlluniau gwastraff bwyd a gynhaliwyd gan wirfoddolwyr Plaid Cymru fel y rhai yn y Rhondda ac ym Mangor wedi arwain at filoedd o dunelli o gynnyrch a oedd yn mynd i’r safle tirlenwi yn cael ei roi i bobl yng Nghymru y mae llawer ohonynt yn profi angen brys. Yn gynharach eleni, roeddwn i’n hapus i fod yn rhan o ymdrech casglu sbwriel gan wirfoddolwyr yng Nglyn Ebwy, Brynmawr a Chaerffili lle y mae sbwriel wedi amharu ar wedd y gymuned. Wrth gwrs, gwelodd pandemig Coronafeirws wirfoddoli ar lefel newydd wrth i bobl gamu i’r adwy i fynd i siopa ar gyfer cymdogion yr oedd angen iddynt hunan-ynysu neu a oedd yn gwarchod.

Cyfle

Pan fo cymaint o awydd i gymunedau wella bywydau’r bobl o’u hamgylch, nid yw maint y sector gwirfoddol yng Nghymru yn peri syndod. Mae Hyb Data’r Sector Gwirfoddol CGGC yn nodi bod dros 49,000 o fudiadau sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnig sylfaen gadarn y gellir cefnogi gwaith y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru oddi arni. Fodd bynnag, teimlaf fod cyfle i adeiladu ar hyn ac, efallai, gyflawni gwaith o ran cyfeirio darpar wirfoddolwyr i brosiectau lleol er mwyn iddynt allu cymryd rhan ynddynt.

Mae’r consensws niweidiol cyni a ddaeth o wleidyddiaeth yn San Steffan wedi newid bywyd cyhoeddus yng Nghymru mewn cynifer o ffyrdd y mae’n amhosib eu rhestru nhw i gyd yma. Ar ben cenhedlaeth o dangyllido yng Nghymru, mae effaith Brexit a cholli cyllid yr Undeb Ewropeaidd heb ei theimlo’n llawn hyd yma. Mae hwn yn brif bryder ac yn bryder uniongyrchol ar gyfer y sector gwirfoddol. Mae’n rhaid iddo gael ei atgyfnerthu a’i gyllido er mwyn ei alluogi i helpu ein cymunedau a’n pobl i wynebu’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu. Os ydym yn mynd i gyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) mae gan y sector gwirfoddol rôl allweddol i’w chwarae – gwelaf fod y rôl hon yn cael ei chyflawni mewn cydweithrediad â’r sector cyhoeddus. Os ydyn ni’n mynd i oresgyn bygythiadau cyni, Coronafeirws a Brexit, mae angen i ni i gyd ddod ynghyd yn awr yn fwy nag erioed o’r blaen. Un o’r pethau y dangosodd y pandemig i ni oedd yr hyn y gall undod ymhlith ein pobl ei gyflawni yn wyneb bygythiad anferthol a chostus.

Mae gwirfoddoli yn rhan gynhenid o’r wlad hon ac rwy’n falch o hynny. Rwy’n hyderus y bydd unrhyw weledigaeth gan Blaid Cymru ar gyfer Cymru yn sicrhau bod cymunedau lleol wedi’u grymuso a gall dinasyddion yn ein gwald chwarae rôl gyflawn yn eu cymunedau a chânt eu cefnogi os byddant yn dewis gwneud hynny.

DARLLEN MWY

Gwirfoddolwyr yw’r glud amhrisiadwy sy’n dal ein cymunedau at ei gilydd gan Jane Hutt AS

Mae angen i ni groesawu cyd-gynhyrchu, gan symud y tu hwnt i’r rhethreg… gan Mark Isherwood AS