Mater o dristwch mawr oedd canslo’r digwyddiad y llynedd oherwydd y pandemig ond rydym wrth ein boddau i ddod â gofod3 yn ôl eleni.
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd gofod3 yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd, ond mae’r fformat nawr wedi newid i gydymffurfio â chyfyngiadau Covid, ac yn digwydd ar-lein dros gyfnod o bum niwrnod.
Rhaid diolch i’n noddwyr, Darwin Gray, Keegan & Pennykid a’r Brifysgol Agored, am eu cymorth – am y cymorth ariannol ac am gynnal digwyddiadau perthnasol. Fel y dywed partner Darwin Gray, Fflur Jones: ‘Mae’r pynciau y byddwn yn eu trafod yn fwy perthnasol nag erioed wrth i ni gael ein rhyddhau wedi blwyddyn dan glo, gweithio o adref, ac un o’r cyfnodau mwyaf cyfnewidiol y mae’r sector gwirfoddol wedi’i weld mewn blynyddoedd.’
Mae Rheolwr Parnteriaethau y Brifysgol Agored, Darren Jones, yn esbonio rhesymau’r sefydliad wrth gefnogi’r digwyddiad eleni: ‘Rydym yn falch iawn o gefnogi gofod3 gan ein bod yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn ei wneud i helpu pobl i fyw bywydau gwell.’
Fel CGGC rydym yn awyddus felly i dynnu sylw at ddigwyddiadau’r noddwyr dros yr wythnos hon.
DYDD LLUN 28 MEHEFIN
Diweddariad cyffredinol ar adnoddau dynol ar gyfer 2021
10am: Seminar gan arbenigwyr Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol Darwin Gray, a fydd yn trafod – wrth i ni ddechrau dod yn ôl i realiti – statws brechu a phrofion firws yn y gweithle, rheoli gwyliau ar ôl y cyfyngiadau symud, cwarantîn a gweithio ystwyth / hyblyg.
Y Brifysgol Agored – OpenLearn a dod yn Hyrwyddwr OpenLearn
10am: Seminar yn olrhain y cyrsiau ac adnoddau am ddim y Brifysgol Agored yng Nghymru ar eu gwefan OpenLearn ar gyfer datblygiad personol ac ar gyfer gwirfoddolwyr.
Yswiriant cyffredinol – beth sydd angen i chi ei wybod
10am: Bydd y sesiwn yma gan Keegan & Pennykid yn edrych ar brif fathau o yswiriant, o ddiogelu asedau, colli incwm, atebolrwydd cyfreithiol, indemniad proffesiynol ayyb. Digwyddiad hanfodol yn y cyfnod ansicr hwn.
Bwio ac aflonyddu yn y gweithle – beth i’w wneud a pheidio â’i wneud
2pm: Ymunwch â Darwin Gray ar y cwrs yma i’ch atgoffa am egwyddorion gwarchod Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y gweithle, ac osgoi honiadau o Aflonyddu.
DYDD MAWRTH 29 MEHEFIN
12pm: Sesiwn gan Y Brifysgol Agored ar bwysigrwydd dysgu gydol oes er mwyn i fudiadau addasu’r ffordd maen nhw’n gweithio, i wella sgiliau staff, ac i gadw doniau.
Rheoli risg ac yswiriant – gweithio gyda’i gilydd
12pm: Bydd y sesiwn yma gan Keegan & Pennykid yn edrych ar y cysylltiad rhwng meysydd amrywiol rheoli risg, a sut maen nhw’n berthnasol i drefnu yswiriant. Sesiwn angenrheidiol arall i’r rhai sy’n poeni am effaith Covid-19.
DYDD MERCHER 30 MEHEFIN
Yswiriant Seiber – a yw’n bodoli?
10am: Bydd y sesiwn yma gan Keegan & Pennykid yn edrych ar fygythiadau seiber, a’r datrysiad yswiriant sydd ei angen i ddiogelu mudiad rhag costau drud sy’n dod i’r amlwg yn gyflym wrth ddelio â digwyddiad.
DYDD IAU 1 GORFFENNAF
Llywodraethu da – beth ydyw, a sut i’w gyflawni
10am: Ymunwch â Fflur Jones o Darwin Gray mewn cyflwyniad gwibdaith i oblygiadau Ymddiriedolwyr o dan gyfraith elusennau, a dyletswyddau cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau cyfyngedig drwy warant.
12pm: Dysgwch am gyrsiau mynediad, tystysgrifau Addysg Uwch, a rhaglenni gradd nyrsio y Brifysgol Agored yng Nghymru, a chewch glywed gan un o’u darlithwyr am sut gwnaeth dysgu fel oedolyn eu helpu nhw i hyfforddi i ddod yn nyrs.
Indemniad ymddiriedolwyr – pwysicach nag erioed
12pm: Waeth beth yw strwythur cyfreithiol mudiad, mae ei Ymddiriedolwyr/aelodau Bwrdd yn dal i fod yn agored i honiadau posibl yn eu herbyn am gamwedd honedig. Mae’r sesiwn yma gan Keegan & Pennykid yn edrych ar ddarpariaethau yswiriant, ac yn trafod enghreifftiau o honiadau i ddangos y math o gyhuddiadau a all godi.
Diogelu iechyd meddwl gweithwyr yn y gweithle
2pm: Mae’r pandemig wedi arwain at lawer o newidiadau a heriau i bob gweithlu, ac ar ôl addasu i weithio o gartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n ddealladwy sut gall dychwelyd i’r swyddfa fod yn heriol i rai ohonon ni. Sesiwn gan Darwin Gray.
Fel y dywed June Pennykid, Rheolwr Gyfarwyddwr Keegan & Pennykid (Insurance Brokers) Ltd: “Mewn blwyddyn sydd wedi ein herio ni i gyd ac ar adeg pan mae angen y sector arnom mwy nag erioed, mae’n briodol ein bod yn gallu dod gyda’n gilydd, hyd yn oed arlein, i rannu syniadau, profiadau a gwybodaeth i’n helpu trwy’r misoedd nesaf.”
Ni allem gytuno’n fwy. Ymunwch a ni arlein am wythnos o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai cyffrous. Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma’ch gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Archwiliwch y raglen lawn i weld beth sydd ar gael, gan gynnwys dros 60 o ddigwyddiadau AM DDIM.