‘Mae ein gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg yn gwbl hanfodol …’

‘Mae ein gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg yn gwbl hanfodol …’

Cyhoeddwyd: 10/03/21 | Categorïau:
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home2/wcva/ET0KZV18/htdocs/wcva2021/wp-content/themes/designdough/single-view.php on line 62
Awdur: Siân Regan

Mae Siân Regan, Swyddog Datblygu ar gyfer yr NSPCC yng Nghymru, yn rhannu sut mae eu gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg wedi’u helpu nhw i wella ac ehangu eu gwasanaeth.

Mae gan bawb sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc gyfrifoldeb i’w cadw’n ddiogel. Yn yr NSPCC, rydyn ni’n helpu unigolion a mudiadau i wneud hyn.

Gwirfoddolwyr yw curiad calon yr NSPCC. Hebddyn nhw, ni fyddem yn gallu helpu’r plant sydd ein hangen. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli yn yr NSPCC. Un enghraifft o wasanaeth sydd gennym lle mae gwirfoddolwyr yn hanfodol yw Cofia Ddweud, Cadwa’n Ddiogel. Rhaglen ddiogelu i blant rhwng 5-11 oed yw Cofia Ddweud, Cadwa’n Ddiogel. Mae ar gael i bob ysgol gynradd yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau bod negeseuon pwysig y rhaglen yn cyrraedd cymaint â phosibl o blant ledled Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i gyflwyno’n gwasanaethau a gweithdai Cofia Ddweud, Cadwa’n Ddiogel yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r rhaglen yn helpu plant i ddeall:

  • camdriniaeth o bob math a sut i adnabod arwyddion o gam-drin
  • nid y plentyn sydd ar fai am gamdriniaeth ar unrhyw adeg a bod ganddyn nhw’r hawl i fod yn ddiogel
  • o ble i gael help a’r ffynonellau o gymorth sydd ar gael iddyn nhw, gan gynnwys ein gwasanaeth Childline.

Mae gennym ni nifer o wirfoddolwyr ymroddgar a brwdfrydig sy’n siarad Cymraeg sy’n gallu cyflwyno Cofia Ddweud, Cadwa’n Ddiogel mewn ysgolion Cymraeg, gan sicrhau bod mwy o blant yn gallu derbyn y rhaglen yn eu mamiaith ac yn iaith yr addysg.

Rydyn ni bob amser yn awyddus i recriwtio mwy o wirfoddolwyr â sgiliau Cymraeg i’n helpu ni i gyrraedd ein nod o gadw mwy o blant yn ddiogel. Rydyn ni wedi gweithio gyda Thîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, ac wedi hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli i siaradwyr Cymraeg mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Gwneud yn siŵr bod ein deunyddiau recriwtio ar gael yn ddwyieithog, ac ychwanegu’r logo Cymraeg oren
  • Cael stondinau mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod ac Eisteddfod yr Urdd
  • Hyrwyddo ein gwaith drwy gyfryngau Cymraeg
  • Targedu mudiadau fel Mentrau Iaith, adrannau Cymraeg Prifysgolion a cholegau AB, undebau addysgu Cymraeg ac ati, gan bostio gwybodaeth am ein cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg.

Gall pob un o’n gwirfoddolwyr gael hyfforddiant drwy’r rhaglen Cymraeg Gwaith a redir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Byddwn ni’n parhau i hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn ein helpu ni i amddiffyn cenhedlaeth o blant drwy eu dysgu nhw sut i gofio dweud a chadw’n ddiogel os oes angen help arnyn nhw.