Grŵp amrywiol o bobl yn eistedd ac yn sefyll ar fws

Mae dyfodol trafnidiaeth Cymru yn eiddo i bob un ohonom ni

Cyhoeddwyd: 10/01/25 | Categorïau: Dylanwadu,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Gemma Lelliott

Yma, mae Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru Cymdeithas Cludiant Cymunedol, yn edrych ar pam mae’r Bil Gwasanaethau Bws newydd mor dyngedfennol i gymunedau ar hyd a lled Cymru.

Ein gweledigaeth yn *Cymdeithas Cludiant Cymunedol yw am fyd lle gall pawb yn eu cymunedau gael gafael ar gludiant sy’n diwallu eu hanghenion. Wrth i ni agosáu at gyflwyniad ‘Bil Gwasanaethau Bws’ newydd i Gymru yn 2025, ni fydd y rhan gyntaf o’r DU i weld a allai’r weledigaeth honno gael ei gwireddu.

Fel gydag unrhyw newid mawr i bolisi a/neu ddeddfwriaeth, rydym wedi bod yn aros yn hir am hwn. Mae’r Bil Gwasanaethau Bws newydd wedi bod ar waith ers 2018, gyda fersiwn gynharach wedi’i chladdu oherwydd COVID-19. Ers hyn, rydym wedi cael y Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021), y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (2022), papur gwyn ar ddiwygio o’r enw ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn’ (hefyd yn 2022) a’r Map Ffordd i Fasnachfreinio (2024).

Disgwylir i’r fersiwn newydd o’r bil, a ddyluniwyd i gyflwyno’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithredu masnachfreinio fel y nodwyd yn y papurau polisi hyn, ddod gerbron y Senedd i graffu arno yn ystod gwanwyn 2025. Bydd hon yn ddeddfwriaeth sylfaenol, a bwriedir cyflwyno is-ddeddfwriaeth i’w gefnogi cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

HERIAU TRAFNIDIAETH

Mae Trafnidiaeth yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol. Mae 40% o bobl Cymru yn byw mewn aneddiadau o 10,000 o bobl neu lai. Ledled Cymru wledig rhwng 2018 a 2023, cafodd y rhwydwaith bysiau cyhoeddus ei leihau 45%, gan arwain llawer o gymunedau bach at gael eu hynysu – gyda chyfleoedd cymdeithasol a hamdden, gofal iechyd, swyddi ac addysg y tu hwnt i’w cyrraedd.

Er bod 80% o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yn cael eu gwneud ar fysiau, mae 80% o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trafnidiaeth yn mynd ar drenau. Yn y cyfamser, mae’r cyllid ar gyfer bysiau a Chludiant Cymunedol wedi aros yr un fath ers dros ddegawd, gan ynysu cymunedau ymhellach, wrth i realiti cyllidebau llonydd ar adeg pan mae costau’n cynyddu olygu tynnu rhwydweithiau yn ôl.

Ynghyd â hyn, mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar benderfyniadau pobl ynghylch a ddylent deithio neu beidio. Er enghraifft, canfu Sefydliad Bevan yr effaith y bobl yn cael eu gwthio i mewn i galedi difrifol gan y costau byw cynyddol – er enghraifft, dywedodd 13% o’r ymatebwyr eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud ‘teithiau hanfodol’ fel *teithio i’r gwaith neu apwyntiadau meddygol.

Yn yr un modd, adroddodd Anabledd Cymru fod pobl anabl yn profi fwyfwy o ynysu cymdeithasol oherwydd y diffyg mynediad at, neu gost uchel, trafnidiaeth. Mae llawer o bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru yn dweud bod natur dameidiog, ddrud ac anhygyrch y system trafnidiaeth gyhoeddus yn cyflwyno rhwystr mawr i gael addysg, hyfforddiant a gwaith.

GALW CYNYDDOL

Mae’r galw am wasanaethau yn tyfu’n gyflymach nag y gall y sector trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru dyfu i’w ateb, gyda rhai gweithredwyr yn nodi eu bod yn gorfod gofyn i’w teithwyr archebu gwasanaethau fwy nag wythnos ymlaen llaw.

Gyda theithwyr yn mynd ar fwy na 750,000 o deithiau’r flwyddyn, a mwy na 60% o’r rhain yn deithiau i gyrchfannau iechyd, ac ymwybyddiaeth genedlaethol fod trafnidiaeth yn rhan hanfodol o’r ‘seilwaith porth’ sy’n galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau a chyfleusterau ac yn eu *helpu i gadw mewn cysylltiad, mae’n hollbwysig i’n llesiant fel cenedl bod y gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, hygyrch a fforddiadwy hwn yn cael ei gefnogi.

Pan mae gennym bobl yn dweud wrthym am yr effaith y mae prinder prosesau penderfynu cydgysylltiedig a chysylltedd gwael yn y rhwydwaith trafnidiaeth prif ffrwd yn ei chael ar y byd go iawn, rydym yn clywed am unigrwydd, ynysigrwydd ac iechyd corfforol a meddyliol sy’n gwaethygu. Gwnaeth un claf ysbyty ddweud wrth aelod o’r CTA yn ddiweddar, cyn iddi gael ei chyfeirio atynt am help, ei bod wedi ‘penderfynu y byddai’n well ganddi farw o ganser na gorfod gwneud y daith’.

Mae’r storïau hyn yn gywilyddus ac, yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin. Yn y bôn, credwn fod y ddeddfwriaeth newydd hon yn cyflwyno cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i geisio ail-lunio’r rhwydwaith trafnidiaeth i ddiwallu anghenion mwy o bobl.

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Byddem yn dwli gweithio gydag CGGC, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a phartneriaid eraill o’r sector gwirfoddol ledled Cymru i wireddu hyn, trwy graffu ar y bil hwn a’r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig gyda’n gilydd a’u herio, ac ymhél yn uniongyrchol â sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid a arweinir gan dimau rhanbarthol ar hyd a lled Cymru.

Rydym yn gwybod nad yw’r rhwydwaith trafnidiaeth, fel y mae ar hyn o bryd, yn addas i’r diben. Er ein bod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n llunio’r bil gynnwys geiriad sy’n ymwneud â chyd-gynhyrchu a’r rhwymedigaeth statudol i ymgysylltu â chymunedau mewn modd ystyriol, nid ydym yn gwybod a yw hyn wedi’i gynnwys. Rydym yn gweld hyn fel cyfle pwysig i fudiadau’r sector, maen nhw wedi’u hymwreiddio yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, yn arbenigwyr ar y cymunedau hyn ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw, felly byddent mewn sefyllfa ddelfrydol i hwyluso hyn.

CYSYLLTWCH Â NI

Gyda chymaint o bobl a rhannau o Gymru wedi’u hallgau o’r rhwydwaith trafnidiaeth prif ffrwd ar hyn o bryd, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cael yr un cyfle i fod yn rhan o’r penderfyniadau allweddol i ddod. Mae dyfodol trafnidiaeth Cymru yn eiddo i bob un ohonom ni – cysylltwch os hoffech wybod mwy am sut i gymryd rhan ynddi a’i lunio.

Am ragor o wybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.

*Saesneg yn unig