Eglura Kerys Sheppard, Pennaeth Codi Arian Shelter Cymru ac ymddiriedolwr Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, pam y gallai fod twll siâp codwr arian ar eich Bwrdd.
Byddai pawb yn cytuno bod cynhyrchu incwm elusennol wedi bod yn fwyfwy heriol yn ystod y misoedd diwethaf. Teimlodd y sector gwirfoddol effaith ariannol y pandemig bron dros nos, gan orfodi llawer o achosion ardderchog i ddefnyddio arian wrth gefn roedden nhw wedi treulio blynyddoedd yn ei adeiladu. Mae rhai wedi, ac yn parhau i fod, yn wynebu’r posibilrwydd real iawn o orfod cau heb arian ychwanegol. Taflodd Covid-19 oleuni llachar ar yr angen i godi arian, a bu’n rhaid i ymddiriedolwyr a chodwyr arian fel ei gilydd ganolbwyntio’n daer ar liniaru colledion anochel.
ARWYDDION BOD ANGEN CODWR ARIAN AR EICH BWRDD
Rydyn ni wedi gweld arferion da a gwael mewn llywodraethu strategol ar hyd a lled y sector yn ddiweddar. Y farn gyffredinol yw bod cyfarfodydd Bwrdd wedi dod yn fwy effeithiol o lawer. Mae byrddau’n cwrdd yn rhithiol; caiff cyfarfodydd eu cynnal yn amlach; mae agendâu yn symlach a chaiff penderfyniadau eu gwneud yn gyflymach. Ar y llaw arall, rydyn ni wedi gweld tystiolaeth o ddiffyg dealltwriaeth ymhlith lleiafswm o ymddiriedolwyr elusennau o swyddogaeth a diben codi arian.
Gadewch i fi ei egluro fel hyn: nid yw dirprwyo cyfrifoldeb dros lenwi bwlch ariannol mewn mudiad a achoswyd gan bandemig byd-eang nas ragwelwyd yn broblem y gall, neu y dylai unrhyw godwr arian, ei datrys ei hun. Ddrwg gen i’ch siomi. Wedi clywed straeon mor dorcalonnus, mae un peth wedi dod yn amlwg iawn i mi; nid oes gan yr ymddiriedolwyr hyn gymar codi arian ar eu Bwrdd. Oherwydd pe bai ganddyn nhw unigolyn o’r fath, bydden nhw’n gwybod y tri pheth hyn:
- Gallwch chi gael y tîm codi arian gorau yn y byd, ond os nad yw diwylliant y mudiad yn un sy’n cydnabod y rhan y mae ein proffesiwn yn ei chwarae o ran galluogi elusen i fodloni ei diben, bydd yn methu. Heb gydweithio mewnol ar bob lefel, nid oes gan godwr arian y sicrwydd hanfodol sydd arno ei angen i gael cymaint â phosibl o incwm – pobl.
- Mae codwyr arian yn alluogwyr. Rydyn ni’n frwd dros ein hachos. Rydyn ni’n cefnogi ein cydweithwyr. Rydyn ni’n amddiffyn ac yn cynnal ein brand. Rydyn ni’n dathlu llwyddiant sefydliadol, waeth beth yw hwnnw. Mae gennym ni gydberthnasau â rhai o’r rhanddeiliad pwysicaf sydd gan elusen. Rydyn ni’n angerddol am wneud gwahaniaeth a chyflwyno newidiadau, rhywbeth na ellir ei ddysgu. Ac nid ydyn ni’n rhy ffôl am gynhyrchu incwm chwaith.
- Serch ymdrechion lu i ddod o hyd i’r goeden aur hud y cyfeirir ato’n aml mewn argyfyngau, nid yw’n bodoli.
CAEL Y BOBL GYWIR AR EICH BWRDD
Bydd Bwrdd da yn recriwtio ymddiriedolwyr sy’n galluogi’r corff llywodraethu i feddu ar yr amrediad o sgiliau sy’n berthnasol i’r math o fudiad y mae ganddo gyfrifoldeb cyfreithiol amdano. Trwy fanteisio ar brofiadau’r tîm ehangach, gall ymddiriedolwyr weithio gyda’i gilydd i gyflwyno budd llawer ehangach. Os oes angen i fudiad gynhyrchu incwm gwirfoddol er mwyn cadw’i ben uwchlaw’r dŵr, gall codwr arian profiadol fod o werth aruthrol i’r Bwrdd. Fel codwr arian ac ymddiriedolwr fy hun, rwyf wedi canfod cyffredinedd gwirioneddol yn yr Ystafell Fwrdd, a allai eich synnu.
Yn bendant, mae elfen o wybodaeth emosiynol yn gysylltiedig â ffynnu yn y naill rôl a’r llall. Mae bod yn hunanymwybodol, yn hunanreoleiddiol, yn uchel eich cymhelliant a dangos empathi a’r gallu i reoli cydberthnasau’n effeithiol yn briodoleddau dynol sy’n galluogi Bwrdd i lunio syniadau ac ymddygiadau, yn ogystal â strategaeth. Y Byrddau gorau rwyf wedi gweithio gyda nhw – a gweithio ar eu cyfer – yw’r rheini sydd wedi gwneud diben a phobl yn greiddiol i’w bodolaeth.
Rôl ymddiriedolwr yw bod yn ffrind beirniadol; rhywun sy’n gallu helpu i osod y cyfeiriad strategol ond nad yw’n cymryd rhan yn ochr weithredol y busnes. Dylai ymddiriedolwr sydd wedi’i baru’n dda herio, hyrwyddo a newid y mudiad er gwell. Mae codwr arian yn gwneud yn gwmws yr un peth. Rydyn ni’n gofyn cwestiynau, rydyn ni’n cefnogi datblygiad gwasanaeth ac rydyn ni’n codi’r arian sydd ei angen i gyflawni pethau. Ac rydyn ni’n gadael y gwaith o gyflenwi’r prosiect i’r arbenigwyr gwybodaeth.
PAM DDYLAI CODWYR ARIAN GEISIO BOD YN YMDDIRIEDOLWYR
Rwy’n credu’n gryf mewn ‘rhoi a chael’ (fel y mwyafrif o godwyr arian), a thrwy roi o’m hamser i Fwrdd achos sy’n agos at fy nghalon, rwy’n cael cymaint yn ôl. Rwy’n ychwanegu gwerth, gan fod fy mhrofiad o uwch-reoli a’m gwybodaeth am y sector yn golygu fy mod mewn sefyllfa dda i wybod yr hyn y gellir ac na ellir ei gyflawni, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Yn hynny o beth, rwy’n newid o fod yn godwr arian i fod yn ‘ffrind beirniadol’ y codwr arian. Rwyf hefyd yn cael cyfle i weld pob agwedd ar y mudiad, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd o roi’r buddiolwr yn gyntaf, wrth gysylltu â rhai pobl ddawnus tu hwnt a dysgu oddi wrthynt.
Byddwn yn annog unrhyw godwyr arian proffesiynol i fynd ati i chwilio am gyfleoedd i fod yn ymddiriedolwr. Mae gan Gymru dros 8,000 o elusennau cofrestredig a thros 24,000 o fudiadau gwirfoddol eraill, felly mae digon o gyfleoedd i ddod o hyd i’r mudiad cywir a datblygu eich sgiliau strategol. Byddwn hefyd yn gofyn i ymddiriedolwyr y 32,000 o fudiadau hyn i edrych o amgylch yr Ystafell Fwrdd (neu’r Bwrdd-zoom) yn eich cyfarfod nesaf a gofyn i chi’ch hun a oes codwr arian yn eich plith. Ac os nad oes un, pam? Mae codwyr arian yn gwneud ymddiriedolwyr gwych. FFAITH.
GWIRFODDOLI CYMRU
Gallwch chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn sector gwirfoddol Cymru, gan gynnwys rolau ymddiriedolwyr, drwy gofrestru ar volunteer-wales.net.