Steve with arm around Alice at conference

‘Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’n sector’

Cyhoeddwyd: 21/01/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Korina Tsioni

Korina Tsioni yw Swyddog Datblygu Nod Ansawdd CGGC. Yma, mae hi’n siarad â BulliesOut ar ôl iddyn nhw adnewyddu’r nod ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yn ddiweddar, a pham dylai sefydliadau eraill gymryd rhan.

Sefydlwyd BulliesOut ym mis Mai 2006, ac mae’n un o elusennau gwrth-fwlio mwyaf ymroddedig ac uchelgeisiol y DU. Mae eu gwaith sydd wedi ennill gwobrau yn cael ei ddarparu ledled y DU, ac wrth weithio gydag ysgolion, colegau a lleoliadau ieuenctid a chymunedol, maent yn addysgu, hyfforddi a chefnogi miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn.

Mae BulliesOut yn defnyddio eu profiad, eu hegni a’u brwdfrydedd yn eu gweithdai a’u rhaglen hyfforddiant arloesol a rhyngweithiol i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth, atal, meithrin empathi a pherthnasau cadarnhaol â chyfoedion. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol i greu amgylchedd anogol lle gall pobl ifanc a staff ffynnu.

Mae BulliesOut wedi llwyddo i adnewyddu’r wobr am y trydydd gwaith ac maen nhw’n tyfu’n gryfach gyda’u tîm o 20 o wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o swyddi. Siaradais â Linda James MBE, Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol BulliesOut, am daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (liV) y sefydliad:

Beth fu manteision cyffredinol cyflawni’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?

‘Yn BulliesOut, drwy wasanaethau mentora, gweithdai ymgysylltu a rhaglenni hyfforddiant, rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â bwlio. Mae cyflawni’r wobr yn dangos faint rydyn ni’n gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr gwych a’r rhan bwysig maen nhw’n ei chwarae yn yr elusen.’

‘Dim ond un gweithiwr rhan-amser sydd gennym, felly heb ein tîm o wirfoddolwyr ymrwymedig, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaethau hanfodol i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan fwlio.’

Sut byddech chi’n disgrifio unrhyw heriau a wyneboch ar y daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  

‘Nid yw’r daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr golygu llawer o waith ychwanegol i’r sefydliad, ond fe gymerodd amser i ni allu trefnu’r diwrnod asesu olaf.’  

Sut mae’r rhaglen Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi effeithio ar eich gwirfoddolwyr?  

‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi gweld bod ein brwdfrydedd i gyflawni’r wobr am y tro gyntaf ac yna i ddal ati i’w chyflawni’n bwysig iawn i ni fel sefydliad, ac rydyn ni’n awyddus i fuddsoddi yn y gwirfoddolwyr ac yn yr hyn mae’n ei gymryd i gyflawni’r wobr.’

‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi teimlo’n rhan o’r daith ac rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi o ganlyniad i hynny.

Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw’r safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i’ch sector?  

‘Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’r sefydliadau yn ein sector.’

‘Mae’n arddangos y gwerth clir a chynhenid sy’n cael ei roi ar y cyfraniadau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud at sefydliad, ac mewn nifer o achosion, mae’n dangos sut na fyddai sefydliadau yn bodoli nac yn ffynnu heb eu gwirfoddolwyr.’

image

Yr hyn sy’n cymell BulliesOut yw eu gweledigaeth i rymuso ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i oresgyn bwlio a chyflawni eu llawn potensial. Eu nod yw cefnogi unigolion, ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol sydd wedi delio â bwlio.

Oes gennych chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill am sut i wneud y mwyaf o’u taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  

‘Ein cyngor i unrhyw sefydliad arall sy’n ystyried Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fyddai ymchwilio i’r safon ansawdd ymlaen llaw i wneud yn siŵr pan fyddwch chi’n penderfynu ymgymryd â’r daith, eich bod chi wedi rhoi’r cyfle gorau posib i chi’ch hun gyflawni’r safon.’

Byddai’n dda rhoi sylw i unrhyw arferion arloesol ymysg y sefydliadau sydd wedi cyflawni’r wobr. Gallwch chi rannu un neu fwy o enghreifftiau o arferion da/arloesol sydd ar waith nawr o ganlyniad i’ch taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?

‘Ein henghraifft gorau o arfer da yw cyfathrebu’n dda ag unrhyw ddarpar wirfoddolwyr ar ddechrau eu taith.’

‘Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod eu disgwyliadau yn cael eu rheoli a’u bod nhw’n llwyr ymwybodol o’r hyn y disgwylir iddyn nhw ei wneud os byddan nhw’n penderfynu ymuno â’r tîm.’  

Rydych chi wedi cael yr achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers blynyddoedd – sy’n ymdrech arbennig. Pam benderfynoch chi adnewyddu eich gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  

‘Rydyn ni’n credu’n gryf y byddai peidio ag ystyried dal ati i gyflawni’r safon yn gam yn ôl ar ôl ymdrechu i gyflawni’r safon yn y lle gyntaf.’

‘Hefyd, rydyn ni’n credu bod ail-gyflawni’r wobr yn dangos ein hymrwymiad i’n tîm arbennig o wirfoddolwyr. Mae’r wobr yn ein galluogi ni i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau ac i ddiweddaru popeth yn rheolaidd.’

Hoffem wybod pa fentrau creadigol gyda gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith sylweddol ar fynd i’r afael â phroblem/mater yn eich cymuned leol.  

‘Ein menter fwyaf creadigol gyda gwirfoddolwyr yw’r Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc wirfoddoli gyda’r Elusen.’

‘Cafodd y rhaglen ei datblygu ar ôl sawl cais gan bobl ifanc a oedd eisiau cymryd rhan yn ein gwaith. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael hyfforddiant seiliedig ar sgiliau ac i weithio at wobr sy’n cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol.’

Cliciwch yma os hoffech ragor o wybodaeth am BulliesOut a chymryd rhan! https://bulliesout.com/get-involved/

Dysgu mwy am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a chysylltu â Korina yn ktsioni@wcva.cymru neu @korinations os oes gennych unrhyw gwestiynau a/neu syniadau.