Dynes yn dal bil â llaw dros ei hwyneb mewn trallod

‘Mae angen i ni ymladd yn erbyn cyflog isel yn y sector gwirfoddol’

Cyhoeddwyd: 16/11/21 | Categorïau: Cyllid,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Tessa White

Gan ei bod hi’n Wythnos Cyflog Byw 2021, edrycha Tessa White, Pennaeth Grantiau a Gwiriadau Corff Cyfryngol CGGC, ar pam mae talu Cyflog Byw gwirioneddol i gyflogeion mor bwysig, yn enwedig heddiw.

Dyma ddiweddariad o erthygl a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020.

Mae’n Wythnos Cyflog Byw yr wythnos hon.

Rydyn ni’n dathlu’r 8,000 o gyflogwyr a mwy ledled y DU sydd wedi ymroi i dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol i’w cyflogeion.

Mae’r Cyflog Byw yn cael ei gyfrifo’n annibynnol i adlewyrchu’r gwir gost o fyw, a chaiff ei ddiweddaru bob blwyddyn. Nid oes cyfradd is i gyflogeion iau – oherwydd nid oes cost byw is i gyflogeion iau.

Gallwch chi weld y cyfraddau newydd a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd ar wefan Cynnal Cymru neu ar wefan y Living Wage Foundation (Saesneg yn unig).

PAM MAE TALU’R CYFLOG BYW YN BWYSICACH NAG ERIOED

Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu cymaint mae’r wlad yn dibynnu ar weithwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, a allai fod dim ond yn cael eu talu’r isafswm cyflog cenedlaethol ac o bosibl yn hawlio budd-daliadau hefyd wrth weithio mewn perygl er mwyn cadw ysbytai, cartrefi gofal, archfarchnadoedd a gwasanaethau cymunedol i fynd.

Mae tlodi mewn gwaith yn parhau i gynyddu, felly mae nifer y plant sy’n byw mewn tlodi hefyd yn cynyddu. Caiff rhai grwpiau o bobl eu heffeithio’n waeth nag eraill: menywod, pobl o gymunedau leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ifanc; a chaiff rhai sectorau eu heffeithio’n waeth nag eraill, gan gynnwys y sector gofal, y celfyddydau, lletygarwch a’r sector gwirfoddol.

Mae tendrau cystadleuol am gontractau a dyfarniadau sy’n seiliedig ar y gost rataf y pen yn cyfrannu at y ‘ras i’r gwaelod’ i dalu gweithwyr y cyflogau isaf bosibl: ond, mae’r cyflogwyr hynny sy’n talu’r Cyflog Byw gwirioneddol wedi canfod bod y gwelliannau o ran cadw staff, moral, ansawdd gwaith, enw da a chynhyrchiant wedi gwneud hyn yn werth chweil.

CYFLOG BYW YN Y SECTOR GWIRFODDOL

Mae angen i ni ymladd yn erbyn cyflog isel yn y sector gwirfoddol a’r syniad bod cadw cyflog staff mor isel â phosibl yn mwyafu gweithgareddau elusennol rywsut. Mewn gwirionedd, yr hyn sy’n digwydd yw bod effeithiau cyflog isel yn gallu peri i wahanol weithgarwch orfod mynd i’r afael â hyn wedyn: banciau bwyd, cymorth i blant mewn tlodi, gwasanaethau iechyd meddwl ac ati.

Ledled y DU, dim ond 28% o gyflogwyr y sector gwirfoddol sy’n gyflogwyr Cyflog Byw, ond mae’n dda gwybod bod 34% o gyflogwyr y sector gwirfoddol yn gyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru yn unig. Yn CGGC, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gyfrannu at hyn drwy fod yn Gyllidwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i annog y mudiadau rydyn ni’n eu cefnogi drwy gyllid i dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol, er enghraifft, drwy ein cynlluniau Cronfeydd Ewropeaidd: y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol a’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol.

Mae llawer o gyllidwyr eraill – gallwch weld y rhestr lawn yma (Saesneg yn unig) – ac o’r cyfanswm o 54, mae tri o’r rhain ar gyfer Cymru yn unig: CGGC, Interlink RCT ac Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.

Po fwyaf o gyflogwyr a chyllidwyr fydd yn ymrwymo i dalu a chefnogi’r Cyflog Byw gwirioneddol, mwya’n byd fydd yn dod yn beth cyffredin ac yn cyfrannu at leihau tlodi.

WYTHNOS CYFLOG BYW

Mae’r Wythnos Cyflog Byw yn cael ei chynnal rhwng 15-21 Tachwedd 2021 eleni. Cefnogir y Cyflog Byw yng Nghymru gan chwaer-fudiad CGGC, Cynnal Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru neu os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â bethan@cynnalcymru.com.

Gallwch chi ddilyn a chefnogi’r Wythnos Cyflog Byw ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #LivingWageWeek ac #WythnosCyflogByw.