Yr wythnos hon, mae Plaid Cymru, Ceidwadwyr Cymreig a Llafur Cymru, yn llunio blogiau i ni am eu gweledigaeth ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Heddiw, mae Mark Isherwood AS Ceidwadwyr Cymreig yn trafod yr angen i roi digon o adnoddau i’r sector a pha mor hanfodol bwysig yw croesawu ffyrdd cyd-gynhyrchiol o weithio.
Mae gan Gymru hanes hirsefydlog o wirfoddoli, o gyd-gymorth, ac o weithredu gwirfoddol, yn enwedig ar lefel gymunedol. Yn ôl CGGC, mae dros 4900 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru ac mae 6,500 ohonynt yn elusennau.
Mae’r sector yng Nghymru yn llawn elusennau bach ac elusennau micro ac mae Cymru’n meddu ar y gyfradd uchaf o elusennau micro yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r pandemig wedi cael effaith drychinebus ar godi arian gan adael llawer o elusennau ar fin cyllell a rhai eraill yn colli eu presenoldeb yng Nghymru.
Fodd bynnag, ers dechrau’r pandemig, rydym yn ymwybodol bod niferoedd di-rif o bobl yng Nghymru wedi rhoi o’u hamser i helpu pobl eraill yn eu cymunedau wrth i degau o filoedd o bobl wirfoddoli i helpu i gefnogi’r GIG a’r ymateb i argyfwng ehangach.
Mae’r sector gwirfoddol hefyd wedi chwarae rôl hanfodol yn ystod y pandemig o ran rhannu negeseuon â chymunedau a’r bobl y maent yn eu cefnogi.
Nododd adroddiad Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol, a Chymunedau y Senedd ym mis Chwefror, ‘Soniwyd am gynifer o enghreifftiau da o’r sector gwirfoddol yn mynd cam ymhellach i gefnogi unigolion a gwasanaethau cyhoeddus a oedd yn profi straen sylweddol. Mae’n glir y byddai’r ymateb i’r pandemig wedi bod yn llawer gwannach naill ai pe na bai’r sector gwirfoddol wedi ymateb neu wedi’i atal rhag ymateb yn y ffordd yr ymatebodd’.
Adnoddau a chefnogaeth
Fel y nododd CGGC yn ei ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion cyllideb drafft Llywodraeth Cymru, ‘Mae’n rhaid i’r sector gwirfoddol gael ei gefnogi a derbyn yr adnoddau angenrheidiol er mwyn cyflawni ei rôl ganolog o ran adfer ar ôl effeithiau’r pandemig’ ac ‘Mae’n rhaid i gyd-gynhyrchu chwarae rôl allweddol wrth ddylunio a chyflenwi gwasanaethau ataliol’.
Hefyd, nododd bydd y sector yn ‘Parhau i angen mwy o adnoddau er mwyn ymateb i alw cynyddol am ei wasanaethau’ a bod ‘Gan y sector nifer o grwpiau a mudiadau sydd wedi datblygu er mwyn mynd i’r afael â phroblemau penodol neu eu hatal rhag gwaethygu’.
Felly, mae angen sicrhau bod ein sector elusennau a’n sector gwirfoddol yn derbyn adnoddau priodol am eu bod hefyd yn rhwystro pwysedd ariannol ychwanegol anferthol ar wasanaethau iechyd cyhoeddus a gwasanaethau gofal. Mewn geiriau eraill, heb y buddsoddi ychwanegol angenrheidiol, bydd yn costio llawer mwy i’r Trysorlys a Changhellor y Trysorlys yng Nghymru nag y byddai ei angen i atal y galw hwnnw rhag cael ei greu. Dyna pam nad yw polisïau dros dro yn ddigon da – mae angen i ni ddod o hyd i’r achosion sylfaenol a gweithredu er mwyn mynd i’r afael â nhw.
Mae ataliaeth yn hollbwysig os bydd pobl a mudiadau yng Nghymru yn mynd i’r afael â’r heriau mawr rydyn ni’n eu hwynebu ac yn mynd i’w hwynebu – cymryd camau gweithredu ymarferol i atal y problemau rhag codi yn y man cychwyn.
Felly, mae angen i ni fynd y tu hwnt i fodelau presennol o ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a chyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus gyda defnyddwyr a chymunedau er mwyn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus gwell i boblogaeth sy’n heneiddio, i bobl sy’n wynebu salwch ac anabledd, i’r bobl sy’n anweithredol yn economaidd, ac i’r rhai sy’n byw mewn ynysigrwydd cymdeithasol – gan gydnabod bod pawb yn bartner hafal.
Y tu hwnt i rethreg
Mae angen i ni groesawu cyd-gynhyrchu yn llawn gan symud y tu hwnt i’r rhethreg a’r ymgynghori i wneud pethau’n wahanol wrth weithredu, trwy weithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, a’u cymunedau yn gweithio ochr yn ochr i roi atebion.
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol, ac entrepreneuriaid cymdeithasol eraill a’u grymuso er mwyn helpu i ddarparu’r atebion i’r problemau hirdymor yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Bydd y sector gwirfoddol yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi’r byd ar ôl pandemig Covd-19 lle y mae’r broses adfer yn cyflwyno cyfle i ailffurfio ein gwasanaethau cyhoeddus a’r ffordd y cyflenwir gwasanaethau cyhoeddus gan weithio â chefnogaeth ac arbenigedd y sector gwirfoddol i adeiladu ‘Cymru sy’n galluogi’ lle y caiff pobl eu grymuso a sefydlir datblygu cymunedau sy’n seiliedig ar asedau fel prif egwyddor.
DARLLEN MWY
Gwirfoddolwyr yw’r glud amhrisiadwy sy’n dal ein cymunedau at ei gilydd gan Jane Hutt AS
Mae gwirfoddoli yn rhan gynhenid o’r wlad hon ac rwy’n falch o hynny gan Peredur Owen Griffiths AS