Yma, mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector CGGC, yn siarad am heriau’r presennol a phwysigrwydd edrych tuag at y dyfodol.
Mae COVID-19 a’r ymateb y mae wedi gofyn amdano ym mhob cwr o’r byd yn creu aflonyddwch na welwyd ei fath o’r blaen. Mae wedi effeithio – yn gyflym ac weithiau’n ddifrifol – ar bron bob agwedd ar ein bywydau. Gallai’r effaith fod yn drychinebus i rai grwpiau neu sectorau.
Mae’r argyfwng yn galw am ymateb brys, gan ganolbwyntio, a hynny’n briodol gywir, ar amddiffyn bywydau a llesiant pobl yn gyntaf.
Rydyn ni wedi gweld ymateb rhyfeddol gan bobl sydd eisiau cefnogi ei gilydd yn wirfoddol. Mae hyn yn cynnwys ymatebion gan gymdogion ac ymatebion a arweinir gan y gymuned, sydd wedi lleddfu baich y GIG a gwasanaethau eraill ac achub bywydau. Mae pobl yn trefnu mewn gwahanol ffyrdd ac rydyn ni’n clywed sut mae pobl ifanc yn chwarae rhan ganolog yn yr ymateb hwn.
Mae lliaws o gymunedau ar-lein wedi’u sefydlu’n wirfoddol. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn ffyrdd anhygoel – yn helpu pobl i gadw’n heini, i ddysgu neu, y balm orau i’r galon, i chwerthin gyda’n gilydd. Mae elusennau sefydledig fel amgueddfeydd a theatrau yn agor eu drysau led y pen yn rhithwir. Mae hyn yn cefnogi iechyd emosiynol a meddyliol pobl a gallai arwain at ffyrdd newydd o bresgripsiynu cymdeithasol.
Ar yr un pryd, mae llawer o elusennau wedi gweld eu hunain mewn argyfwng ariannol yn sydyn iawn. Mae ffrydiau incwm wedi sychu dros nos. Mae digwyddiadau a gweithgareddau codi arian traddodiadol fel marathonau wedi’u canslo a siopau ar gau.
Gallai llawer o elusennau, bach a mawr, orfod cau mewn mater o fisoedd, os nad wythnosau. Mae NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) wedi amcangyfrif y bydd elusennau’r DU yn colli £4 biliwn o incwm dros gyfnod o 12 wythnos. Yn ôl Y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, nid oes gan chwarter yr elusennau â llai na miliwn o incwm unrhyw gyllid wrth gefn. Mae Cymru’n genedl o elusennau bach sy’n debygol o fod â llai o wydnwch ariannol.
Mae’r Llywodraeth yn darparu cymorth mawr ei angen nawr. Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £24 miliwn o gyllid i gynorthwyo angen brys ac i helpu mudiadau i ddal ati. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi pecyn cyllid o £750 miliwn a fydd yn cyflwyno cyllid canlyniadol i Gymru. Yn anffodus, ni fydd yn ddigon i gau’r bwlch.
Mae hyn o bwys oherwydd mae cymaint ohonom yn dibynnu ar eu gwaith. Mae’r elusennau hynny sy’n wynebu dinistr ariannol yn cynnwys y rheini â gwasanaethau sydd eu hangen yn daer ar hyn o bryd. Mae Barnardos, Tenovus, Cymorth i Ferched Cymru a Tŷ Gobaith, canolfannau cymunedol, mudiadau ieuenctid, yr Ymddiriedolaeth Natur ac amgueddfeydd lleol i gyd mewn perygl.
Nid yw’r mudiadau gwirfoddol hyn yn ychwanegiad dewisol, ond yn fudiadau sydd wedi’u hymwreiddio’n ddwfn yng ngwead ein cymdeithas. Mae perygl go iawn na fyddant yno – naill ai i gefnogi pobl a chymunedau drwy’r argyfwng hwn neu i ailadeiladu ar ôl hyn.
Er ei bod yn teimlo fel tasg amhosibl, rydyn ni eisiau cadw llygad ar y dyfodol am ein bod ni ar bwynt tyngedfennol. Wrth i ni symud drwy’r argyfwng ofnadwy hwn, a fyddwn yn manteisio ar gyfleoedd i symud ymddygiadau er mwyn cefnogi byd mwy caredig, teg a chynaliadwy? Neu a fydd anghydraddoldeb a dadrymuso yn cael eu hymwreiddio’n ddyfnach?
Bydd lleisiau mudiadau gwirfoddol a lywir gan werth yn hanfodol i’n helpu ni i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer y Cymru sydd ei heisiau ar bobl. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd rydyn ni’n gwybod, er bod COVID-19 yn effeithio ar bawb, bydd yn effeithio waethaf ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed.
Mae CGGC yn gweithio gyda llawer o rai eraill i gefnogi’r ymateb gwirfoddol anhygoel rydyn ni’n ei weld i’r argyfwng, yn ogystal â helpu mudiadau i gadw’u drysau ar agor i bobl a chymunedau. Rydyn ni hefyd eisiau gweithio gydag eraill i gadw llygad ar lunio dyfodol gwell gyda’n gilydd yn sgil yr argyfwng. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, cysylltwch â ni drwy e-bost neu Twitter.