Mae Charles Whitmore, cydlynydd prosiect Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar y cyd CGGC a Phrifysgol Caerdydd, yn trafod cyfranogiad sector gwirfoddol Cymru yn y cyrff llywodraethu sy’n sail i gydberthynas y DU a’r UE.
Mor gynhennus ag y mae ymadawiad y DU o’r UE wedi bod, mae’r rhan fwyaf o bobl yn siŵr o gytuno mae un agwedd sydd wedi deillio ohono yw ansicrwydd. Wedi dweud hynny, mae gennym ni ddarlun mwy clir nawr o rai newidiadau ac effeithiau sydd wedi digwydd – er enghraifft, ar fewnfudo a’r economi (gwefannau Saesneg yn unig)
Fodd bynnag, am amryw resymau – bydd ansicrwydd yn debygol o barhau mewn llawer o feysydd. Yn wir, mae rheolaethau llawn ar y ffin o ran masnach yn parhau i gael eu cyflwyno’n raddol; mae strwythurau cyllido, gan gynnwys y rheini ar gyfer symud ieuenctid, gwirfoddoli dros y ffin a phartneriaethau strategol yn wahanol iawn nawr ac, yn fwy cyffredinol, nid yw rhanddeiliaid wedi addasu’n llawn eto i’r newidiadau hyn na newidiadau eraill.
Fel cytundebau modern eraill yr UE, mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA), y testun y mae cydberthynas newydd y DU a’r UE yn seiliedig arno, yn caniatáu i gyrff sefydliadol statudol dros grwpiau gwahanol o randdeiliaid drafod a chodi materion ynghylch rhoi’r gydberthynas hon ar waith.
Caiff CGGC ei gynrychioli ar ddau gorff o’r fath – y Grŵp Cynghori Domestig (DAG) a’r Fforwm Cymdeithas Sifil (CSF). Rydym yn cynnal digwyddiad ar-lein ar 5 Hydref rhwng 10am ac 11.30am i roi cyfle i bobl glywed mwy am y strwythurau hyn, ac i fudiadau leisio unrhyw sylwadau, faterion neu themâu y credant y gallai fod yn ddefnyddiol i’w codi yn y trafodaethau hyn (cofrestru a rhagor o wybodaeth yma).
Pa strwythurau sy’n bodoli i glywed llais cymdeithas sifil yn y gydberthynas?
Mae’r TCA yn seiliedig ar strwythur sefydliadol cymharol syml (mae gan y Senedd ganllaw ardderchog yma i’r rheini sy’n chwilio am drosolwg mwy cynhwysfawr):
- Ar y brig – mae cyngor partneriaeth ar gyfer gweithrediaethau’r DU a’r UE.
- Mae’r craidd yn cynnwys pwyllgorau amrywiol ar faterion masnachol ac anfasnachol (fel cydgysylltiad nawdd cymdeithasol er enghraifft), a gall Llywodraeth Cymru arsylwi ar rai o’r trafodion.
- Ochr yn ochr â’r craidd mae:
- Cynulliad Partneriaeth Seneddol (gwefan Saesneg yn unig) er mwyn i Seneddau’r DU a’r UE drafod a chyhoeddi argymhellion i’r cyngor partneriaeth. Eto, mae rôl y Senedd wedi’i gyfyngu i statws sylwedydd, gyda’r hawl i gymryd rhan mewn unrhyw ystafelloedd trafod.
- Dau gorff ar gyfer cymdeithas sifil: y DAG a’r CSF.
Mae’r DAG yn rhoi cyfle i gymdeithas sifil y DU siarad â Llywodraeth y DU a’r gymdeithas gyfatebol yn Ewrop (DAG yr UE), a’r llall yn rhoi cyfle i gymdeithas sifil y DU a’r UE sgwrsio ar y cyd â gweithrediaethau’r DU a’r UE (er ei fod ar agenda mwy cyfyngedig na’r DAG ar hyn o bryd).
Dros yr haf, mae DAG y DU wedi sefydlu is-grwpiau i edrych ar nifer o themâu: cydweithrediad rheoleiddiol a’r maes chwarae cytbwys, y newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol, masnach a thollau, symudedd, yn ogystal â materion rhanbarthol a datganoledig.
Ble rydyn ni nawr a beth nesaf?
Dros yr haf, rhoddodd CGGC dystiolaeth yn y Senedd ar weithrediad y strwythurau hyn hyd yma, gan nodi bod cylch cyntaf y DAG a’r CSF wedi canolbwyntio ar broses ac, yn ddieithriad, wedi’i effeithio gan y tensiynau gwleidyddol a ddeilliodd o Brotocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon.
Mae hyn wedi arwain at ffocws eithaf cul ar fasnach, heb adael rhyw lawer o le i drafod buddiannau’r sector gwirfoddol sy’n canolbwyntio mwy ar gryfhau’r cydweithrediad rhwng y DU a’r UE mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin. Daeth yr her o gael adnoddau i’r sector gymryd rhan yn y cyrff hyn i’r amlwg hefyd, ynghyd â’r angen am gydgysylltiad, ymgynghoriad a strategaeth ar lefel Cymru.
Gwnaethom hefyd ddysgu bod yr ail CSF blynyddol yn cael ei arwain gan y DU y tro hwn a’i fod yn cael ei gynnal ar fformat hybrid yn Llundain ar 7 Tachwedd 2023. Mae croeso i fudiadau fynegi diddordeb mewn cymryd rhan neu arsylwi a bydd CGGC yn dosbarthu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd yn dod i law.
Yn y cyfamser, mae Prosiect Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru CGGC a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, gyda chyfranogiad cydweithwyr sydd ynghlwm â’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn y Senedd, yn cynnal trafodaeth ar-lein anffurfiol i fudiadau yng Nghymru glywed mwy am y strwythurau hyn ac i gasglu safbwyntiau a allai lywio gwaith yr is-grŵp datganoli (sy’n agored i fudiadau nad ydynt yn aelodau o’r DAG gymryd rhan).
Mae gan y DAG gylch gwaith sylweddol – yr holl TCA. Felly mae llawer o bynciau eisoes wedi’u codi, a llawer y gellir eu codi o hyd: o gyfraith yr UE a ddargedwir, rheoli gwahaniaethau a hawliau dynol i orwelion Ewrop, hawliau cyflogaeth, artistiaid teithio, symudedd ieuenctid, rheoliadau ynni a newid hinsawdd ac ati …
Yn y cyfnod mwy hirdymor, bydd hi’n bryd cyhoeddi adolygiad trosfwaol cyntaf y TCA yn 2025-2026, ond ai gwiriad ysgafn neu rywbeth dyfnach fydd hwn? Mae hyn eto – heb syndod – yn ansicr. Gydag etholiad cyffredinol ar ddod yn y DU, efallai y bydd y DU yn awyddus i gynnal ymarferiad mwy cynhwysfawr. Ond, nid yw’n eglur eto a fydd gan yr UE ddiddordeb mewn dilyn y trywydd hwn.
Os hoffech wybod mwy am y strwythurau a’r cyfleoedd hyn, ymunwch â’r cyfarfod ar 5 Hydref rhwng 10am ac 11.30am – gallwch gofrestru yma.