Waliau San Steffan

Llais sector gwirfoddol Cymru yn San Steffan

Cyhoeddwyd: 01/10/20 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: David Cook

Mae ein Pennaeth Polisi Ben Lloyd yn esbonio’r hyn rydyn ni’n ei wneud i sefyll dros mudiadau gwirfoddol Cymru yn San Steffan ers y pandemig coronafeirws.

Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos pa mor bwysig yw mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr i gymunedau yng Nghymru, ac ar draws y DU. Drwy gydol y cyfnod anodd hwn, mae mudiadau gwirfoddol wedi ymateb i fwy o galedi ledled Cymru – boed yn gysylltiedig ag iechyd, arwahanrwydd, tlodi, neu ddarparu mynediad at y celfyddydau a hamdden o bell.

Mae #NawrFwyNagErioed yn glymblaid o elusennau yn y DU – y mae CGGC yn aelod ohoni – sydd wedi ceisio tynnu sylw at yr heriau ariannol sy’n wynebu elusennau. Mae’r Independent wedi rhoi sylw i’r nifer fawr o elusennau ledled y DU sy’n wynebu toriadau ac ar fin cau.

Ac er bod y sector gwirfoddol yn bwriadu addasu ei wasanaethau yn wyneb argyfwng iechyd cyhoeddus hir, a dirwasgiad yn sgil hynny, dim ond os oes ganddo’r arian i wneud hynny y bydd yn llwyddo yn y pen draw.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd nifer o elusennau, gan gynnwys CGGC, at Lywodraeth y DU i amlinellu beth gallai ei wneud i gefnogi elusennau ar hyn o bryd. Mewn perthynas â’r Adolygiad Cynhwysfawr presennol o Wariant, gofynnodd y grŵp hwn am y canlynol.

Polisi i ‘lefelu’ anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd.

Fe wnaethom ofyn i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin fuddsoddi mewn rhaglenni cyflogaeth a sgiliau sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd o fewn a rhwng cymunedau. Gofynnwyd hefyd i’r Gronfa gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru. At hyn, fe wnaethom ofyn am ymrwymiad i gynnal blaenoriaethau datblygu rhyngwladol ac i gynyddu cyllid llywodraeth leol (er bod hwn yn fater datganoledig).

Datgloi asedau segur ar gyfer adfywio cymunedau.

Rydym eisiau gweld Llywodraeth y DU yn rhyddhau arian o asedau segur i gynllun cyllid cymunedol (a fyddai’n cael ei ddatganoli i Gymru), ac yn rhyddhau arian o’r Gronfa Genedlaethol ddarfodedig i elusennau’r DU.

 

Yn y gorffennol, rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth y DU yn cynnig dewis arall yn lle’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, yn ogystal â phecyn Rhyddhad mewn Argyfwng – Rhodd Cymorth.

Byddai’r cynigion hyn yn sicrhau bod cymorth ariannol ychwanegol ar gael i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn ystod y cyfnod nesaf o ansefydlogrwydd. Fodd bynnag, byddai hefyd yn creu ffynonellau cynaliadwy o incwm newydd. Yn achos y Gronfa Ffyniant Gyffredin a defnyddio asedau segur, byddai hefyd yn galluogi’r sector gwirfoddol i ddefnyddio’i sgiliau i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, sy’n gallu mynd yn angof weithiau mewn rhaglenni cyffredinol.

Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae’r sector gwirfoddol a chymunedol wedi dangos cymaint o wahaniaeth y gall ei wneud – a sut gall gefnogi ein cymunedau drwy gyfnodau anodd. Bydd y gefnogaeth hon yn lleihau os caiff elusennau eu gorfodi i gau neu leihau eu maint, ond gellir ei chynnal gyda phartneriaethau priodol gyda’r sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Bydd CGGC yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU.