Hwn yw’r arolwg dwyieithog cyntaf sydd wedi’i gynllunio i roi mewnwelediadau ymarferol a chryfhau ein llais cyfunol. Eglura’r Athro Daniel King FCIPD o Brifysgol Nottingham Trent pam ein bod ni mor gyffrous am Baromedr Cymru.
Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o’r Baromedr Cymru gyfan cyntaf ym mis Hydref.
PAM RYDW I MOR GYFFROUS YNGHYLCH BAROMEDR CYMRU
Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio Baromedr Cymru – yr arolwg dwyieithog, chwarterol cyntaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Bydd Baromedr Cymru yn casglu gwybodaeth reolaidd gan fudiadau ar hyd a lled y wlad, gan adeiladu sylfaen gyson o dystiolaeth sy’n olrhain newidiadau, yn dangos patrymau ac yn ein helpu ni i ddeall pwysau a chyfleoedd wrth iddynt ddod i’r amlwg. Mae’r math hwn o dystiolaeth hirdymor eisoes yn bodoli yn y sector busnes drwy faromedrau ac arolygon rheolaidd – a bydd Baromedr Cymru yn rhoi’r un cryfder llais a hygrededd i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
I mi, mae’n fwy na chasglu data. Mae’n golygu gweithio ochr yn ochr â phobl ledled Cymru i greu darlun o sut fywyd yw hi mewn gwirionedd i fudiadau gwirfoddol a gwneud yn siŵr bod y llun hwnnw’n glir, yn gywir ac yn ddibynadwy. Bydd y dystiolaeth y byddwn ni’n ei chreu gyda’n gilydd yn rhywbeth y bydd y llywodraeth ac arweinwyr y sector yn gallu ei defnyddio i lunio penderfyniadau gwell a chymorth cryfach.
ADNODD I GRYFHAU LLAIS EIN SECTOR
Bydd pob ton o’r arolwg yn bwydo i mewn i adroddiadau personol a dangosfyrddau rhyngweithiol, fel bod pob mudiad sy’n cymryd rhan yn cael mewnwelediadau ymarferol y gallant eu defnyddio. Byddwn yn gweld ei wir werth pan fydd yn casglu data cyson, hirdymor am yr hyn sy’n digwydd yn ein sector – data a fydd yn cryfhau mudiadau unigol a’r sector yn gyffredinol.
Rwy’n arbennig o falch o fod yn gweithio gydag CGGC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i wireddu hyn. Gyda’n gilydd, rydym ni’n creu adnodd sydd nid yn unig yn casglu data, ond sydd hefyd yn cryfhau lleisiau pobl ar draws y sector – gan sicrhau eu bod yn cael eu clywed gan gyllidwyr, penderfynwyr a chymunedau fel ei gilydd.
LLAI O FAICH, MWY O WERTH
Un o’r pethau rwy’n fwyaf balch ohono yw ein bod wedi dylunio Baromedr Cymru i wneud bywyd yn haws, nid yn galetach.
- Dim ond unwaith sydd angen i chi osod proffil eich mudiad – a’i ddiweddaru unwaith y flwyddyn.
- Pan fydd yr wybodaeth eisoes yn bodoli, fel gyda’r Comisiwn Elusennau, fe wnawn ni ei chofnodi ymlaen llaw i chi.
- Bob chwarter, y cwbl fyddwn ni’n gofyn amdano yw arolwg byr sy’n cymryd tua 10–15 munud.
A dyna ni. Ac yn gyfnewid am hyn, byddwch yn cael dangosfwrdd personol yn dangos sut mae eich mudiad yn cymharu ag eraill, ynghyd â gweld tueddiadau’r holl sector ledled Cymru.
ADRODDIADAU UNIGOL: MEWNWELEDIADAU Y GALLWCH CHI EU DEFNYDDIO
Pan rydw i’n siarad â phobl yn y sector, un o’r cwestiynau rwy’n ei glywed fynychaf yw: ‘Sut mae pobl eraill yn dod ymlaen?’ Gyda Baromedr Cymru, byddwch chi’n gallu gweld yn gwmws sut mae eich mudiad yn cymharu â mudiadau eraill ledled Cymru.
Bydd pob mudiad sy’n cymryd rhan yn derbyn ei adroddiad unigol ei hun ar ôl pob ton chwarterol. Mae’r adroddiadau hyn yn cyfuno eich ymatebion i’r arolwg a data’r sector ehangach fel y gallwch weld:
- sut mae profiadau eich mudiad yn cymharu â mudiadau eraill o faint, lleoliad neu ffocws tebyg
- a yw’r heriau rydych chi’n eu hwynebu – fel cynnydd mewn galw, anawsterau gyda gwirfoddolwyr neu bwysau ariannol – yn cael eu teimlo ar draws y sector hefyd
- sut mae dangosyddion allweddol, fel hyder ynghylch y dyfodol, yn newid dros amser
Sut mae pobl eraill yn dod ymlaen? Mae Baromedr Cymru yn rhoi’r ateb i chi.
DEFNYDDIO EICH ADRODDIAD
Dyma dim ond rhai o’r ffyrdd y gallech ddefnyddio eich adroddiad:
- Trafodaethau bwrdd ac ymddiriedolwyr: cyflwynwch ddata cadarn mewn sgyrsiau am flaenoriaethau, risgiau a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- Ceisiadau am gyllid: cryfhewch eich achos gyda thystiolaeth sydd nid yn unig yn dangos eich profiad eich hun, ond sut mae’n cyd-fynd â thueddiadau’r sector ehangach
- Myfyrio a chynllunio tîm: defnyddiwch y data i weld a yw’r hyn rydych chi’n ei brofi yn unigryw i’ch mudiad chi neu’n rhan o symudiad ehangach
- Sgyrsiau â phartneriaid a rhanddeiliaid: rhowch gyd-destun a hygrededd wrth siarad ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd neu gyllidwyr
Yn hytrach na dibynnu ar storïau neu deimladau, bydd gennych chi ddata cyfredol, cymharol sy’n gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd i’ch mudiad o fewn darlun ehangach y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Ac wrth i’r setiau data gynyddu ton ar ôl ton, dim ond cynyddu bydd gwerth yr adroddiadau hyn – gan ein helpu ni i gyd i weld beth sy’n newid, beth sy’n gweithio a beth sydd angen sylw.
BETH FYDDWCH CHI’N EI GAEL
Trwy fod yn rhan o Baromedr Cymru, bydd eich mudiad yn cael:
- Mewnwelediadau ymarferol y gallwch chi eu defnyddio ar unwaith mewn ceisiadau am gyllid, adroddiadau ymddiriedolwyr a chynllunio
- Tystiolaeth reolaidd i olrhain sut mae pethau yn newid i chi a’r sector
- Adroddiadau unigol bob chwarter, sy’n rhoi data eich mudiad mewn cyd-destun
- Llais cyfunol cryfach, sy’n gwneud yn siŵr bod y llywodraeth, cyllidwyr a phenderfynwyr yn deall beth sy’n digwydd ar lawr gwlad
Nid ymchwil serch ymchwil mo hwn – ei nod yw troi’r profiadau rydym ni’n eu rhannu yn dystiolaeth â diben.
DEWCH I NI EI ADEILADU GYDA’N GILYDD
Yr hyn sy’n fy nghyffroi i fwyaf yw mai ond megis dechrau ydym ni. Po fwyaf o bobl sy’n ymuno, cryfa’n byd fydd Baromedr Cymru, a bydd yn dod yn fwyfwy defnyddiol i ni. Bydd yn lleihau dyblygu, yn caniatáu i ni rannu mewnwelediadau ac yn gwneud yn siŵr bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu gweld, eu clywed a’u deall.
Felly rwy’n gofyn i chi fod yn rhan o’r don gyntaf erioed. Gosodwch eich proffil, cymerwch ran yn yr arolwg cyntaf, a helpwch ni i lunio adnodd a fydd yn ddefnyddiol i’r holl sector am flynyddoedd i ddod.