Kickstart neu Gynhwysiant Gweithredol?

Kickstart neu Gynhwysiant Gweithredol?

Cyhoeddwyd: 26/03/21 | Categorïau:
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home2/wcva/ET0KZV18/htdocs/wcva2021/wp-content/themes/designdough/single-view.php on line 62
Awdur: Tessa White

Mae CGGC yn cynnig dwy ffordd o gynorthwyo mudiadau gwirfoddol sydd eisiau cynnig cyfleoedd cyflogaeth ar hyn o bryd. Yma, mae Tessa White o’n tîm Cynhwysiant Gweithredol yn egluro’r gwahaniaeth.

Mae cynllun Kickstart Llywodraeth y DU wedi bod yn boblogaidd iawn gyda chyflogwyr y sector gwirfoddol, a llawer ohonynt wedi cael mynediad ato drwy wasanaeth ‘porth’ CGGC. Ond mae CGGC yn rhedeg cynllun lleoliad gwaith hefyd drwy ei grantiau Cynhwysiant Gweithredol, gyda chefnogaeth cyllid Ewropeaidd. Felly pa un sy’n iawn i chi?

SWYDDI Â CHYMHORTHDAL I BOBL IFANC

Os ydych chi’n gallu cynnig un lleoliad neu ragor i bobl ifanc sy’n barod i gael eu cyflogi, mae Kickstart yn haws ac yn fwy syml. Mae ganddo broses ymgeisio eithaf syml a chaiff y gost o gyflogi’r unigolyn ifanc – am o leiaf 25 awr yr wythnos am chwe mis ar yr isafswm cyflog priodol – ei had-dalu’n llawn.

Ynghyd â hyn, bydd gennych chi fynediad at £1,500 ychwanegol i gefnogi ei gostau datblygu a hyfforddi.

CYNORTHWYO POBL SY’N WYNEBU RHWYSTRAU I GYFLOGAETH

Fodd bynnag, os hoffech chi gynnig lleoliad i rywun 25 oed neu’n hŷn; neu rywun o unrhyw oed gwaith sydd eisiau gweithio llai na 25 awr yr wythnos – neu fwy – neu rywun sydd angen llawer o gymorth ychwanegol cyn y bydd yn barod i gychwyn ar leoliad gwaith â thâl, dylech chi ystyried Cynhwysiant Gweithredol.

Ie, mae’n ‘gyllid Ewropeaidd’, felly bydd angen i chi gadw cofnodion manwl, o’ch cyfranogwyr a’ch gwariant, a bydd angen i chi ddarparu rhwng 10% a 40% o gyllid cyfatebol, yn dibynnu ar y grwpiau oedran rydych chi’n eu cefnogi a’r ardal rydych chi’n gweithredu o’i mewn – ond os nad yw Kickstart yn addas i chi, beth am gysylltu â’r tîm Cynhwysiant Gweithredol i siarad amdano ar activeinclusion@wcva.cymru?

Gall Cynhwysiant Gweithredol gynnig cyllid prosiect ‘Cyflawni’ – ar gyfer lleoliadau gwaith â chymorth yn unig – cyllid ‘Cynnwys’ ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu sy’n helpu i baratoi pobl ar gyfer cyflogaeth; a chyllid ‘Cyfunol’ ar gyfer mudiadau sydd eisiau cynnig cymysgedd o’r ddau – sy’n ddelfrydol ar gyfer cefnogi pobl drwy’r daith, o’r dechrau i’r diwedd, ar eu cyflymder eu hunain.

EWCH AMDANI HEDDIW

Ni fydd yr un o’r ddau gynllun gyda ni am byth, felly os oes gennych chi syniad am brosiect neu leoliad, cysylltwch ag activeinclusion@wcva.cymru neu ffoniwch ni ar 0300 111 0124 ac fe wnawn ni drefnu i rywun siarad â chi dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar dudalennau Cynllun Kickstart  a Chronfa Cynhwysiant Gweithredol ein gwefan.

Ceir mynediad at y ddau hyn, ynghyd â’n holl gronfeydd eraill, drwy MAP, ein porth ymgeisio amlbwrpas – felly os ydych chi eisiau gwneud cais am unrhyw fath o gyllid gan CGGC, cofrestrwch ar MAP yn https://map.wcva.cymru.