Menyw a bachgen yn ei arddegau yn eistedd mewn ystafell gymorth yn cymryd rhan mewn sesiwn cymorth grŵp

Iechyd meddwl: ‘hawl ddynol i bawb’

Cyhoeddwyd: 09/10/23 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Simon Jones

Mae Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru, yn ein tywys drwy’r effaith anhygoel y mae’r sector gwirfoddol yn ei chael yn y maes iechyd meddwl.

DIWRNOD IECHYD MEDDWL Y BYD

Mae 10 Hydref 2023 yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw ‘mae iechyd meddwl yn hawl ddynol i bawb’. Ond er y camau breision rydyn ni wedi’u cymryd fel cymdeithas i ddod yn fwy agored a chysurus yn siarad am iechyd meddwl, mae gormod o lawer o bobl yn parhau i’w chael hi’n anodd lleisio eu profiadau neu, yn bwysicach fyth, cael gafael ar gymorth amserol.

Trwy ein gwaith fel sector, rydyn ni’n ymwybodol iawn o ba mor galed y mae rhai cymunedau a phobl yn gorfod ymladd i gael y cymorth y mae ganddyn nhw’r hawl iddo a bywyd sy’n rhydd o stigma a gwahaniaethu. Ar draws ein sector gwirfoddol iechyd meddwl, yn lleol ac yn genedlaethol, mae gennym ni bobl a mudiadau sy’n ymladd i sicrhau y gall pawb gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn modd sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddyn nhw.

CYMORTH GAN MIND CYMRU

Dros yr haf, cefais gyfle i dreulio ychydig o amser gyda phobl sydd wedi derbyn cymorth gan rai o’n mudiadau Mind lleol a mudiadau eraill, ac mae’r cymorth hwn wedi newid eu bywydau. Gwnaeth y cymorth a dderbyniodd y bobl hynny, a’r ffordd roedd gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr wedi gwrando ac ymateb i’w hanghenion unigol, gadarnhau i mi eto’r gwaith anhygoel sydd ar droed mewn cymunedau ym mhob cwr o’r wlad.

Clywais gan famau ym Mhowys am eu profiadau fel cyfranogwyr ar raglen a anelwyd at wella eu hiechyd meddwl mamol. Cawsant gymaint o fudd o’r cymorth a gawsant gan staff empathig a gwybodus fel yr ysgogwyd nhw i roi rhywbeth yn ôl a helpu i gynnal y cymunedau hyn drwy arwain rhaglen cymorth cymheiriaid eu hunain.

Yn Llanelli, clywais am ba mor werthfawr mae amrediad o raglenni wedi dod o ran creu cymuned gymorth bwerus, sy’n cynnig rhywun i estyn allan iddo pan fydd pethau’n mynd yn anodd a lle i ymgasglu a threulio amser yng nghwmni pobl eraill.

Yn Abertawe, mewn grŵp ffocws ar y cyd gyda Chymorth Iechyd Meddwl Cymunedol i bobl ddu ac ethnig leiafrifol, clywais sut roedd lle diogel wedi’i greu i bobl ddod ynghyd, rhannu eu profiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Yn aml, roedd y profiadau hyn yn ymwneud â sut roedd y cymorth a gynigiwyd yn gwneud rhagdybiaethau diwylliannol a’r angen am gymorth y tu hwnt i’r system iechyd meddwl i liniaru’r ffactorau cymdeithasol ehangach sy’n cyfrannu at iechyd meddwl gwael.

Nid enghreifftiau prin mo’r rhain, ond rhan o system o fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n cynnig cymorth cydgysylltiedig i bobl ledled Cymru o un flwyddyn i’r llall. Y thema gyffredin yma yw cymuned sy’n cael ei chreu i helpu i gefnogi ac amddiffyn iechyd meddwl pobl. Ni fyddai’n gorliwio i ddweud bod y cymorth hwn, ar brydiau, yn achub bywydau, ac yn cynnig datrysiadau pan fydd pethau’n anodd. Yn aml, caiff y cymorth hwn ei yrru gan bobl neu gymunedau sydd wedi cael anhawster cael cymorth eu hunain, neu sydd wedi cael siom gyda’r hyn a gynigiwyd iddyn nhw.

YR HYN YR YDYM YN EI WNEUD FEL SECTOR

Fel sector, rydyn ni’n cynorthwyo, cefnogi ac weithiau dim ond yn dal pobl yn ystod eu hamser caletaf. Ond ni chaiff y rôl hanfodol hon ei chydnabod weithiau, a gall syrthio y tu allan i’r cymorth rydyn ni wedi ein comisiynu neu ein cyllido i’w ddarparu. Rwy’n clywed yn feunyddiol am y mudiadau hynny, fel ein un ni a rhwydwaith lleol ehangach Mind, ledled Cymru sy’n ceisio llenwi’r bylchau hyn a diwallu’r angen hwn ag empathi, sgil a gofal.

Wrth i ni glywed am yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru a gweld y crych-effaith ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae diwrnodau fel heddiw yn gyfle i ni nid yn unig godi ymwybyddiaeth, ond i hefyd ystyried yr hyn rydyn ni’n ei werthfawrogi, er mwyn myfyrio ar y daith sydd wedi’i chymryd a’r ffordd o’n blaenau.

Felly, wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl yn y misoedd i ddod, mae cyfle go iawn i fyfyrio ar thema heddiw – iechyd meddwl fel hawl ddynol – ac i lunio dyfodol lle nad yw unrhyw un yn wynebu rhwystr i gael gafael ar y cymorth cywir pan fydd ei angen, ac i sicrhau bod y rôl hanfodol sydd gan y sector gwirfoddol o gefnogi amrywiaeth eang o gymunedau yn cael ei chydnabod yn well. Dim ond pan fydd hyn yn digwydd y bydd yr enghreifftiau rwyf wedi’u gweld yr haf hwn yn dod yn beth cyffredin i bawb.

AM FWY O WYBODAETH

I ddarganfod mwy ewch i Mind Cymru.