Ym mlog nesaf ein cyfres gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ‘Iechyd a Llesiant Gwell yng Nghymru’, mae Dr Ashra Khanom yn edrych yn fanwl ar sut mae data da yn effeithio ar iechyd cymunedol.
Mae elusennau a mudiadau cymunedol ledled y byd yn darganfod pŵer data iechyd y boblogaeth ar raddfa fawr. Mae’n ein helpu ni i ddeall iechyd a lles pobl a’r cyflyrau sy’n llunio eu bywydau.
I fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, nid rhifau ar daenlen yn unig mo’r data hwn. Mae’n adnodd sy’n gallu helpu i ddylunio gwasanaethau gwell, cyrraedd y rhai mwyaf anghenus a phledio achos dros gyllid.
Mae data ar iechyd y boblogaeth yn cynnwys gwybodaeth am gyfraddau cyflyrau hirdymor fel diabetes neu asthma, lles meddyliol, ansawdd tai neu fynediad at fannau gwyrdd a phwy sy’n defnyddio gwasanaethau neu fell arall. Y gyfrinach yw gwneud mwy na chael y data’n unig; mae angen ei ddefnyddio i wella bywydau pobl.
RHYNGWLADOL A LLEOL
Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos gwerth data. Yn y Ffindir, mae mudiadau yn y sector gwirfoddol yn chwarae rôl hanfodol mewn cysylltu pobl â gwasanaethau cymunedol, lleihau ynysu a chefnogi’r rheini na allai o bosibl gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus yn hawdd. Mae hyn yn adlewyrchu gwaith llawer o elusennau yng Nghymru sy’n cyflwyno cymorth i gymheiriaid, prosiectau llesiant diwylliannol neu gynlluniau cyfeillio.
Mae Cymru hefyd yn elwa ar dystiolaeth genedlaethol a gasglir trwy Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bob blwyddyn, mae oddeutu 12,000 o oedolion yn rhannu gwybodaeth am eu hiechyd, ffyrdd o fyw, eu llesiant a’u profiadau o wasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall anghydraddoldebau, nodi grwpiau agored i niwed a llunio polisïau a gwasanaethau.
Adnodd allweddol arall yng Nghymru yw’r garfan ‘Born in Wales’ (Ganwyd yng Nghymru). Mae Ganwyd yng Nghymru yn casglu data ar bob plentyn sydd wedi’i eni yng Nghymru ers 2011. Mae’n cynnwys data anhysbys ar fwy na 400,000 o blant ar hyn o bryd, gyda genedigaethau newydd yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn, ac mae’n cysylltu cofnodion mamolaeth, newyddenedigol, addysg a gofal cymdeithasol.
Mae’r dystiolaeth gan Ganwyd yng Nghymru wedi dangos bod gordewdra mamolaeth yn gysylltiedig â risgiau uwch yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth, gan gynnwys mwy o debygolrwydd o ymyrraeth feddygol. Mae’r mewnwelediadau hyn wedi hysbysu sgyrsiau cefnogol cynharach am bwysau iach yn ystod beichiogrwydd, ochr yn ochr â chanllawiau eglurach ac atgyfeiriadau i gymorth lles yn y gymuned, y math o weithredu ataliol y mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol mewn sefyllfa dda i’w gyflawni.
Mae hwn yn adnodd pwerus i ddeall datblygiad plentyn, anghydraddoldebau yn gynnar mewn bywyd a llesiant hirdymor.
DATA CYSYLLTIEDIG
Cafodd data anhysbys iechyd a gofal cysylltiedig hefyd ei ddefnyddio’n effeithiol yn ystod pandemig COVID‑19.
Defnyddiwyd setiau data cysylltiedig i nodi grwpiau poblogaeth ag iselder a oedd wedi’u hynysu a’u cysylltu â gweithgareddau cymdeithasol, grwpiau ar-lein neu dimau presgripsiynu cymdeithasol. Mae hyn yn dangos sut gellir defnyddio data ar y boblogaeth i deilwra ymyriadau mewn modd sy’n wirioneddol ddiwallu anghenion pobl.
Mae data hefyd wedi’i ddefnyddio i fynd i’r afael ag anghydradoldebau cymhleth sy’n gorgyffwrdd a brofir gan grwpiau hiliol, ethnig, hunaniaeth rhyw ac iaith lleiafrifol.
Trwy ddefnyddio data iechyd, bu modd targedu cymorth, gwella mynediad a lleihau gwahaniaethau. I fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy’n gweithio gyda phobl sy’n profi anfanteision lluosog, mae’r math hwn o fewnwelediad yn amhrisiadwy.
BETH MAE HYN YN EI OLYGU I GYMRU?
Yn gyntaf, mae data ar iechyd y boblogaeth yn rhoi tystiolaeth gref ar gyfer ceisiadau am gyllid. Mae’n caniatáu i fudiadau fynd ati’n glir i ddangos graddfa’r broblem y maen nhw’n mynd i’r afael â hi, pwy a effeithir fwyaf a sut mae eu gwaith yn llenwi bylchau mewn darpariaeth statudol.
Yn ail, mae’n helpu i lunio gwasanaethau o amgylch angen go iawn. Gall data amlygu tueddiadau fel cynnydd yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty, lefelau uchel o unigrwydd mewn ardal benodol neu grwpiau sy’n colli allan ar wasanaethau ataliol.
Mae data ar iechyd y boblogaeth hefyd yn cryfhau cydberthnasau rhwng partneriaid gwirfoddol a statudol. Mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio fwyfwy o ddata i lywio penderfyniadau cynllunio a buddsoddi. Pan fydd mudiadau gwirfoddol yn gwneud yr un peth, mae’n alinio’r iaith, yn gwella cydweithrediad ac yn ei gwneud hi’n haws dylanwadu ar bolisïau.
SUT GALL MUDIADAU DDECHRAU?
Dechreuwch gyda ffynonellau data sydd ar gael yn gyhoeddus, fel Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, StatsCymru, Baromedr Cymru, Porth Data’r Sector Gwirfoddol ac Asesiadau Llesiant lleol. Mae’r rhain yn cynnig mewnwelediadau hygyrch a dibynadwy i anghenion cenedlaethol a lleol.
Ewch ati i feithrin cydberthnasau â dadansoddwyr a phobl academaidd. Mae gan lawer o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, prifysgolion a thimau Iechyd Cyhoeddus Cymru arbenigedd sy’n gallu cynorthwyo â dehongli a chymhwyso data.
Yn olaf, gwnewch y data’n weladwy. Gall adnoddau sy’n creu mapiau, siartiau neu ddangosfyrddau helpu timau, ymddiriedolwyr a chyllidwyr i ddeall y dystiolaeth yn gyflym a’i defnyddio i lywio’r gweithredu.
Nid oes angen i’r data ar iechyd y boblogaeth fod yn frawychus. Mae mudiadau gwirfoddol ar hyd a lled y bydd yn dangos bod defnyddio data mewn modd moesegol, creadigol a chydweithredol yn helpu i adeiladu cymunedau tecach ac iachach.
Yng Nghymru, mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rôl mor hanfodol mewn atal, llesiant a gwydnwch cymunedol, ac mae defnyddio data’n dda yn golygu mwy o gymorth effeithiol i’r bobl sydd ei angen mwyaf.
CYSYLLTWCH Â NI
Cwblhewch yr arolwg byr hwn i ddweud wrthym ni am unrhyw anghenion hyfforddiant neu gymorth sydd gennych chi neu eich mudiad o ran y pynciau a godwyd yn y blog hwn.
Mae Dr Ashra Khanom yn gweithio yn Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhagor o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal.