Gan barhau â’n cyfres ar ‘Iechyd a Llesiant Gwell yng Nghymru’, mae Dr Charlotte Grey o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrthym ni pam mae’n bwysig i bawb bod mentrau iechyd yn cael eu gwerthuso’n effeithiol.
Mae gwaith Iechyd y Cyhoedd wedi’i wreiddio yn y gred y gallwn wella bywydau, lleihau anghydraddoldebau a chreu dyfodol iachach i’n cymunedau a’n poblogaethau. Nod pob menter, waeth a yw’n ymyrraeth leol fechan neu’n bolisi cenedlaethol, yw creu newid ystyrlon sy’n cyfrannu at ddisgwyliad oes iach. Ond i ddeall a yw ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth, mae angen mwy na bwriadau da arnom ni, mae angen gwerthuso.
Gwerthuso yw’r mecanwaith sy’n gyrru gwelliant parhaus, gan roi’r eglurder a’r mewnwelediad sydd ei angen arnom i gryfhau ein gwaith iechyd y cyhoedd a gwneud penderfyniadau gwell. Mae’n cynhyrchu argymhellion sy’n amlygu lle gellir gwneud gwelliannau er mwyn cael canlyniadau gwell.
Mewn tirwedd lle mae adnoddau’n brin a heriau’n gymhleth, mae gwerthuso yn helpu i sicrhau bod ein gweithrediadau nid yn unig yn effeithiol, ond hefyd yn deg ac yn effeithlon.
GWERTH GWERTHUSO
Anaml iawn y mae mentrau iechyd y cyhoedd yn datblygu mewn modd syml neu ragweladwy. Maen nhw’n cael eu cyflawni o fewn cyd-destunau go iawn a lywir gan amodau cymdeithasol, sefydliadol, diwylliannol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol, yn ogystal â datblygiadau annisgwyl.
O ganlyniad, caiff ymyriadau eu deall orau fel ‘digwyddiadau mewn systemau’, sy’n rhyngweithio’n barhaus â’u hamgylchiadau ac yn cael eu dylanwadu’n barhaus ganddynt. Mae gwerthuso yn ein helpu ni i lywio’r cymhlethdod hwn drwy roi adnoddau i ni ddeall a yw ymyrraeth yn gweithio, sut a pham y mae’n gweithio, i bwy ac am ba bris.
Nid yw gwerthuso yn ymwneud â chwilio bai na cheisio canmoliaeth – mae’n ymwneud ag atebolrwydd – cefnogi prosesau penderfynu tryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gwerthuso sy’n creu’r dysgu sy’n gwella gwaith iechyd y cyhoedd. Mae’n taflu goleuni ar y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud a’r gwahaniaeth y gallem ni ei wneud. Trwy ddal ein hunain yn atebol i’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddangos, rydyn ni’n cryfhau ein gallu i gael effaith ystyrlon.
Gwnaeth gwerthuso’r *Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddangos sut gallai mewnwelediad a gwybodaeth y sector gwirfoddol am gymunedau wella’r ffordd y mae gwasanaethau yn cyrraedd pobl mewn ardaloedd difreintiedig. Gwnaeth defnyddio’r hyn a ddysgwyd helpu partneriaid i addasu’r ddarpariaeth, gwella’r mynediad at wasanaethau atal a chymorth cynnar a chyfrannu at iechyd a llesiant gwell dros amser.
Gwnaeth Gwerthusiad o Prehab2Rehab ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro helpu i fireinio sut oedd cymorth cynnar yn cael ei ddarparu ar gyfer cleifion canser yng Nghymru, mewn partneriaeth â chanolfannau hamdden lleol a mudiadau gwirfoddol. Gwnaeth hyn wella parodrwydd pobl i gael llawdriniaeth a chefnogi canlyniadau adfer a llesiant gwell, gan gefnogi cyflwyniad ehangach o’r rhaglen.
Mae’r gwerthusiadau mwyaf effeithiol yn cael eu cynllunio o’r dechrau, ac yn helpu i osod nodau, canlyniadau a disgwyliadau clir. Mae hyn yn ein helpu ni i ddiffinio beth rydym ni’n ei ystyried yn llwyddiant, deall yr anghenion rydym ni’n mynd i’r afael â nhw, datblygu theori newid i lywio’r ddarpariaeth ac olrhain cynnydd ystyrlon.
GWERTHUSO – RHANNU CYFRIFOLDEB
Weithiau, gall gwerthuso deimlo fel maes i arbenigwyr, ond mewn gwirionedd, mae’n fusnes i bawb. Mae llawer o gydweithwyr eisoes yn chwarae rôl hanfodol mewn gwerthuso yn eu gwaith bob dydd, yn edrych ar y dystiolaeth i ddod i benderfyniadau, monitro gweithgareddau a chanlyniadau, gwrando ar adborth, myfyrio ar yr hyn a ddysgir a rhannu’r dysgu hwnnw â phartneriaid.
Daw gwerthuso’n gryfach pan fydd amrywiaeth o leisiau, profiadau a safbwyntiau yn rhan o’r sgwrs, gan gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion a’u cynnwys mewn modd ystyrlon. Mae hyder pawb o dan sylw’n cynyddu pan fydd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi i ofyn cwestiynau gwerthuso ac edrych ar ddata heb ofni cael eu beirniadu.
Pan fyddwn ni’n creu diwylliant lle caiff dysgu ei werthfawrogi, mae gwerthuso yn dod yn rhan naturiol o arferion bob dydd iechyd y cyhoedd.
Yn ei hanfod, mae’n ymwneud â mabwysiadu safbwynt chwilfrydig ac ymholgar ynghylch ein gwaith mewn iechyd y cyhoedd. Mae’n ein gwahodd ni i oedi a gofyn: ‘Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni? Sut byddwn ni’n gwybod os ydym ni’n gwneud cynnydd? Beth allwn ni ei ddysgu a sut gallem ni wella?’
DYSGU, GWELLA A CHYFLAWNI CANLYNIADAU GWELL
Mae gwerthuso dim ond yn werthfawr pan gaiff y dysgu y mae’n ei gynhyrchu ei ddefnyddio. Dyna pam mae’n bwysig bod yn glir o’r dechrau ynghylch i bwy mae’r gwerthusiad, pa benderfyniadau fydd yn ei hysbysu a sut bydd yn arwain at weithredu.
Dylai’r mewnwelediadau rydym ni’n eu creu ennyn myfyrdod a llywio cynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys amlygu’r hyn a weithiodd yn dda, ond hefyd cydnabod yr heriau a’r meysydd lle na weithiodd y dulliau gweithredu gystal. Mae’r ddau ddull dysgu’n hanfodol ar gyfer gwelliant.
Pan fydd canfyddiadau yn cael eu rhannu’n agored, maen nhw’n cryfhau dyluniad y rhaglen, yn cefnogi polisi cytbwys, yn gwella tegwch a mynediad, yn lleihau dyblygu ac yn adeiladu cof y mudiad.
Yn y pen draw, mae gwerthuso yn ein helpu ni i ddangos gwerth mentrau iechyd y cyhoedd, nid yn unig trwy ganlyniadau mesuradwy, ond hefyd drwy eu tegwch, effeithlonrwydd a’u cynaliadwyedd yn y cyfnod mwy hirdymor.
Rhagor o wybodaeth am werthuso yn *iechyd y cyhoedd. Mae rhagor o gymorth ac adnoddau hefyd.
Canfyddwch fwy am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal.
*Saesneg yn unig