Yn y nesaf o’n cyfres ar ‘Iechyd a Llesiant Gwell yng Nghymru’ mae Dr Julie Peconi a Jeremiah Nwaeke yn edrych ar beryglon mewid hinsawdd i iechyd y cyhoedd ledled Cymru.
Gyda *Diwrnod Amgylchedd y Byd 2026 ar ddod, nid yw llawer o bobl Cymru yn sylweddoli mai’r newid hinsawdd yw un o heriau mwyaf ein hoes i iechyd y cyhoedd.
Mae ei effeithiau yn ymestyn ymhell tu hwnt i ddifrod amgylcheddol a gall gynnwys perygl i’n hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol. O dymereddau uwch i ddigwyddiadau tywydd eithafol amlach a ddaw yn sgil y newid hinsawdd, mae’r effeithiau’n gymhleth, yn bellgyrhaeddol ac yn anghyfartal dros ben.
Dyma pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), yr asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol, wedi gwneud newid hinsawdd yn un o’i chwe blaenoriaeth strategol o fewn Strategaeth Hirdymor ICC 2023–2035. Mae’r ymrwymiad hwn yn adlewyrchu angen clir i gyflymu ein gwaith ar liniaru ac addasu i’r hinsawdd, cryfhau cydweithio ar draws sector a sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn cefnogi iechyd a lles pawb yng Nghymru.
I wneud hyn yn effeithiol, rhaid i ICC ddeall y bylchau ymchwil newid hinsawdd ac iechyd y cyhoedd mwyaf dybryd yn llwyr – fel y gellir canolbwyntio’r ymdrechion ar ble mae eu hangen mwyaf.
NEWID HINSAWDD AC ANGHYDRADDOLDEBAU IECHYD
Yma yng Nghymru, mae ein daearyddiaeth, ein cymunedau a’n poblogaeth yn golygu bod effeithiau’r newid hinsawdd yn cael eu profi’n wahanol ledled y wlad. Yn aml, y rheini sydd eisoes o dan anfantais sy’n cael eu heffeithio mwyaf. Gall pethau fel oedran, incwm, ethnigrwydd, ansawdd tai, iaith a chyflyrau iechyd presennol ddylanwadu ar allu rhywun i baratoi ar gyfer, addasu i, neu adfer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â’r hinsawdd.
Mae ICC yn cydnabod bod yn rhaid i ni ddeall y cydraddoldebau hyn a’r ffactorau sy’n cyfrannu atynt os ydyn ni am ddiogelu iechyd cenedlaethau heddiw ac yfory. Felly, rydyn ni wedi gwneud mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a waethygir gan newid hinsawdd yn un o’n prif flaenoriaethau ymchwil.
Bydd ymwreiddio tegwch ym mhob darn o waith ymchwil ar iechyd hinsawdd yn ein galluogi i:
- Weld pwy sydd mewn mwyaf o berygl
- Deall pam mae rhai grwpiau yn profi mwy o niwed nag eraill
- Datblygu ymagwedd wedi’i thargedu sy’n amddiffyn ac yn grymuso cymunedau
- Gwerthuso a yw polisïau presennol yn lleihau neu’n ehangu anghydraddoldebau
CYNNWYS POB LLAIS
Mae gan gymunedau amrywiol Cymru gyfoeth o wybodaeth, safbwyntiau a phrofiadau byw unigryw. Mae sicrhau bod y lleisiau hyn yn cael eu cynrychioli ar bob cam o’r broses ymchwilio’n hanfodol ar gyfer creu datrysiadau hinsawdd ac iechyd effeithiol a theg sy’n berthnasol i ddiwylliannau.
Fodd bynnag, nid yw blaenoriaethau ymchwil bob amser wedi’u datblygu’n gynhwysol ac mae lleisiau llawer o gymunedau, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, yn aml wedi’u hesgeuluso. Mae nifer o rwystrau wedi’u nodi, gan gynnwys:
- Diffyg ymddiriedaeth yn sgil profiadau o docenistiaeth, profiadau yn y gorffennol neu allgau
- Rhwystrau iaith a dim mannau ymchwil diwylliannol ddiogel
- Ymagweddau ymchwil anhyblyg nad ydynt wedi’u dylunio gan ystyried cymunedau
- Dim digon o adborth, os o gwbl, ar sut mae cyfraniadau yn dylanwadu ar ganlyniadau
- Dim digon i gyd-gynhyrchu, sy’n golygu na all datrysiadau, o bosibl, adlewyrchu’r anghenion go iawn
Mae’r heriau hyn yn amlygu pam mae’n rhaid blaenoriaethu ymgysylltiad ystyrlon os yw gwaith ymchwil ar yr hinsawdd ac iechyd yn mynd i gynrychioli pawb y mae’n ceisio ei wasanaethu.
DYFODOL GWAITH YMCHWIL AR NEWID HINSAWDD AC IECHYD Y CYHOEDD YNG NGHYMRU
I sicrhau bod blaenoriaethau ymchwil Cymru yn gwbl adlewyrchol o’r hyn sy’n bwysig i lunwyr polisi, ymarferwyr, pobl academaidd a’r cyhoedd, mae angen gwaith cydgysylltiedig i oresgyn y rhwystrau hyn. Mae angen i grwpiau ethnig lleiafrifol wneud mwy na dim ond cyfrannu at waith ymchwil – dylent elwa’n uniongyrchol arno. I gyflawni hyn, bydd angen:
- Cynnwys cymunedau o gyfnod dylunio i gyfnod cyflawni prosiect
- Sicrhau bod canfyddiadau’n berthnasol, yn uniaethu â diwylliannau ac yn gallu cael eu rhannu
- Cyd-greu datrysiadau sy’n cryfhau effaith ac sy’n berthnasol
- Gweithio mewn partneriaeth i yrru newidiadau polisi
- Cydnabod cymunedau fel partneriaid cyfartal, nid ‘testunau agored i niwed’’
I gefnogi hyn, mae ICC wedi sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, rhwydwaith sy’n dod ag ymchwilwyr, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a chyrff cyhoeddus ynghyd i gryfhau ymateb Cymru i’r her hinsawdd iechyd.
Nod y Rhwydwaith yw adeiladu cymuned ymchwil hinsawdd ac iechyd cysylltiedig, traws sector a chreu platfform cynhwysol ar gyfer dysgu a gweithredu a rennir, gan ddatblygu a blaenoriaethu gwaith ymchwil ar yr hinsawdd ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae Rhwydwaith Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cael Grant Diwylliant Ymchwil yn ddiweddar i gefnogi hyn.
SUT GALL Y SECTOR GWIRFODDOL HELPU
Gall mudiadau gwirfoddol chwarae rôl hanfodol mewn sicrhau bod ymchwil ar iechyd hinsawdd yn deg, yn gynrychiadol ac yn effeithiol. I gefnogi’r gwaith hwn, anogwn ni chi i:
- Symud y tu hwnt i edrych ar gymunedau ethnig lleiafrifol fel rhai ‘mewn perygl’ yn unig a chydnabod yr arbenigedd, mewnwelediad diwylliannol a phrofiad bywyd y maen nhw’n eu cyflwyno.
- Cefnogi ymdrechion i gael pobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil trwy helpu i gysylltu ymchwilwyr â chymunedau a chreu mannau ymgysylltu croesawgar.
- Defnyddio eich rhwydweithiau – fel y mae Diwrnod y Ddaear 2026 yn ein hatgoffa ni: ‘Mae pob llais yn bwysig a phob gweithred yn cyfrif’.
I gymryd rhan yn Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, cysylltwch â Julie Peconi, Iechyd Cyhoeddus Cymru: phw.research@wales.nhs.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â Jeremaih Nwaeke, cwmni buddiant cymunedol Green Voices – greenvoicescic@gmail.com – i edrych ar fentrau hinsawdd ac iechyd a arweinir gan y gymuned.
Wrth i ni ddathlu *Diwrnod Amgylchedd y Byd 2026, mae’r neges yn glir: Nid yw cynnydd yn digwydd mewn tawelwch. Mae’n digwydd pan mae pobl yn camu ymlaen ac yn gweithredu.
Rhagor o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal.
*Saesneg yn unig