Cwpl hŷn yn loncian mewn parc

Iechyd Gwell: gweithio gyda’n gilydd am Gymru iachach

Cyhoeddwyd: 30/03/26 | Categorïau: Gwirfoddoli,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Louisa Petchey

Yn y gyntaf o’n cyfres gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ‘Iechyd a llesiant gwell yng Nghymru’, mae Dr Louisa Petchey yn siarad â ni am eu blaenoriaethau a’u gobeithion am y dyfodol.

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu’r cyfle i fyw bywyd hir ac iach. Mae iechyd da yn ymwneud â mwy nag unigolion yn ffynnu; hwn yw’r sylfaen ar gyfer cymunedau cryfach, cymdeithas decach a GIG gwydn, ynghyd â Chymru fwy ffyniannus.

Dyma’r dyfodol y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio tuag ato. Ac rydyn ni’n gwybod nad ydym yn ei wneud ar ein pennau ein hunain. Ar hyd a lled Cymru, mae sector gwirfoddol amrywiol a brwdfrydig yn creu dyfodol iachach a thecach ac mae llawer o’n blaenoriaethau ni a rhai CGGC yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys lleihau anghydraddoldeb, hybu iechyd a lles trwy gymorth cynharach a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Wrth i ni edrych ymlaen at Senedd newydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi pum maes polisi blaenoriaethol lle gallai gweithredu canolbwyntiedig wneud y gwahaniaeth mwyaf i iechyd a lles. Mae pob un yn rhoi pwyslais ar atal, gan fynd i’r afael ag achosion iechyd gwael, nid y canlyniadau’n unig.

PUM BLAENORIAETH POLISI IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni wedi cyflwyno cynigion polisi seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnig camau ymarferol, cyraeddadwy tuag at iechyd gwell. Mae’r achos economaidd yn glir: mae buddsoddi mewn atal yn talu ar ei ganfed. *Mae pob £1 a fuddsoddir mewn atal yn dychwelyd £14 i’r gymdeithas trwy alluogi bywydau iachach, economi gryfach a GIG cynaliadwy.

CENHADAETH AR Y CYD I GYMRU

Rydyn ni’n gweld effaith iechyd gwael bob dydd, ac rydyn ni’n gwybod faint o hyn y gellir ei osgoi.

Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn profi rhwystrau annheg i iechyd da yng Nghymru. Mae gwahaniaeth o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes iach menywod yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a’r cymunedau mwyaf cefnog, a gwahaniaeth o 16 mlynedd ymhlith y dynion. Mae tua un rhan o dair o blant yn cael eu magu mewn tlodi, a bron 1 o bob 3 o’u cartrefi yn cyflwyno risg iechyd.

Gan edrych tua’r dyfodol, disglwylir i 50,000 yn fwy o bobl ddatblygu diabetes yn y degawd nesaf, a gallai llygredd aer gostio bron £1 biliwn y flwyddyn i Gymru mewn costau iechyd a chynhyrchiant. Ysmygu sy’n parhau i achosi’r mwyaf o farwolaethau y gellid eu hosgoi; mae’n gyfrifol am fwy nag un o bob deg marwolaeth pobl dros 35.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos graddfa’r broblem a pham mae atal yn bwysig. Mae mudiadau’r sector gwirfoddol yn gweld hyn yn feunyddiol, boed hynny drwy gynorthwyo teuluoedd mewn tlodi, helpu cymunedau i gael bwyd iach neu geisio trechu tai gwael a llygredd amgylcheddol.

Maen nhw hefyd yn gyrru’r newid hwn drwy’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu a’r newidiadau polisi y maen nhw’n ymgyrchu drostynt. Mae llawer o’r polisïau y gelwir amdano yn alinio’n agos â’n pum blaenoriaeth:

  • I roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, mae angen i ni ystyried lles y plentyn ym mhob penderfyniad polisi a chasglu data cynhwysol ar iechyd y plentyn er mwyn hysbysu’r penderfyniadau hyn.
  • O ran llesiant ariannol, mae angen i ni gefnogi pobl â heriau iechyd i gael gwaith, aros yn y gwaith neu ddychwelyd i waith.
  • Er mwyn gwneud mannau bob dydd yn iachach yn ddiofyn, rydyn ni eisiau gweld mwy o gartrefi iach a fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol, a safonau uwch mewn tai rhentu preifat. Mae hefyd angen i ni leihau gwelededd ac argaeledd cynhyrchion afiach, fel tybaco, fêps a bwydydd llai iachus.
  • Er mwyn cydgysylltu’r gofal, rydyn ni’n pwysleisio cysylltu iechyd a gofal cymdeithasol â gwasanaethau cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol, er mwyn cefnogi’r unigolyn cyfan.
  • I gael planed iach, amlygwn bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a fforddiadwy a diogelu cymunedau rhag y newid yn yr hinsawdd.

BETH ALLWN NI EI WNEUD NESAF?

Mae newid parhaol, go iawn yn digwydd pan rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Mae iechyd cyhoeddus a mudiadau’r sector gwirfoddol yn rhannu ymrwymiad i atal ac iechyd gwell i bawb. Gyda mwy na 46,000 o fudiadau gwirfoddol ledled Cymru, a mwy nag un rhan o dair o oedolion yn gwirfoddoli, rydyn ni mewn sefyllfa dda i gyfuno ein cryfderau a chyflawni’r uchelgeisiau cyffredin hyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i gryfhau ein gwaith agos gyda’r sector gwirfoddol, cyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Gan edrych i’r dyfodol, rydyn ni eisiau:

  • Dyfnhau cydweithio ar draws sectorau, nodi blaenoriaethau a rennir a chydlynu’r gweithredu ar atal.
  • Sefyll ochr yn ochr â’r sector gwirfoddol i ymgyrchu dros fwy o fuddsoddiad mewn atal, gyda chefnogaeth tystiolaeth o effaith a chymorth cyhoeddus.
  • Sicrhau bod pob polisi yn mynd ati’n weithredol i gynorthwyo pobl i gadw’n iach, gan gydnabod bod atal yn gyfrifoldeb i bawb a bod y sector gwirfoddol ar flaen y gad yn y maes hwn.
  • Chwyddo lleisiau cymunedol fel bod polisïau a dyluniad gwasanaethau yn adlewyrchu profiadau bywyd.

Mae gan Gymru lwybr clir tuag at ddyfodol iachach, tecach a mwy ffyniannus ac mae’n dibynnu ar ymrwymiad parhaus i atal. Os byddwn ni’n gweithredu nawr, ac yn gweithredu gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael ag achosion craidd iechyd gwael a chreu newid parhaol i genedlaethau i ddod.

Mae Dr Louisa Petchey yn Uwch Arbenigwr Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

I weithio gyda ni ar gefnogi atal yng Nghymru, e-bostiwch phw.advocacy@wales.nhs.uk

Darganfyddwch fwy am waith CGGC mewn iechyd a gofal.