Yn y nesaf o’n cyfres ar iechyd a lles gwell yng Nghymru, mae Cathy Madge,ac Anna Stielke yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn egluro pam mae mesur gwerth cymdeithasol yn hanfodol.
Mae gwerth cymdeithasol yn cyfeirio at y newidiadau ym mywydau a lles pobl sy’n deillio o weithgareddau, polisïau neu benderfyniadau mudiad, o safbwynt y bobl a effeithir.
Mae iechyd cyhoeddus yn creu buddion di-ri y tu hwnt i ddim ond gwella iechyd pobl. Mae canlyniadau fel iechyd meddwl positif a llesiant cymdeithasol yn dylanwadu’n fawr ar ein hiechyd cyffredinol, ond maen nhw’n anodd eu mesur, eu meintioli a’u prisio.
Wrth fesur eu gwerth economaidd, ni allwn gyflwyno’r canlyniadau hyn yn syth bin, ni allwn roi pris penodol arnyn nhw, h.y. nid ydynt yn ganlyniadau yn y farchnad. Oherwydd hyn, mae’n anodd eu cynnwys mewn cyfrifiadau ariannol ac wrth wneud penderfyniadau ar wariant a buddsoddiad.
Mae gwerth cymdeithasol yn ffordd o ddisgrifio buddion cymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol. Mae hyn yn golygu gwell iechyd, addysg, cyfleoedd cyflogaeth, cydlyniant cymunedol a chynaliadwyedd amgylcheddol, a dyma sut rydyn ni’n dangos effaith ymyriadau iechyd cyhoeddus.
DEALL ATAL DRWY LYGAID GWERTH CYMDEITHASOL
Mae cyrff iechyd a mudiadau eraill ledled Cymru yn blaenoriaethu dulliau ataliol ar gyfer iechyd a lles gan eu bod nid yn unig yn cynnig ffordd o leihau’r gost ariannol, ond eu bod hefyd yn fuddiol i bobl, cymunedau a’r blaned.
Gall methodolegau gwerth cymdeithasol helpu i ddangos effeithiau ehangach dulliau ataliol yn glir ac yn hawdd. Dengys y dystiolaeth bod pob £1 a fuddsoddir mewn ymyriadau iechyd yng Nghymru yn cynhyrchu £14 o elw, sy’n lleihau baich a chostau hirdymor anhwylderau ac yn galluogi adnoddau cyfyngedig i gael eu defnyddio’n fwy effeithlon.
Mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol mewn darparu gwasanaethau iechyd a gofal ataliol, o wasanaethau dementia i glybiau crefft. Mae’r adroddiad hwn yn dangos y cyfraniad economaidd y mae’r sector gwirfoddol yn ei wneud wrth leihau’r pwysau ar wasanaethau statudol fel y GIG.
DEFNYDDIO GWERTH CYMDEITHASOL YN Y SECTOR GWIRFODDOL
Ond er bod mudiadau’r sector gwirfoddol yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol drwy eu gwaith, nid oes ganddyn nhw’r gallu na’r arbenigedd i’w ddangos yn aml.
Wedi’i leoli o fewn Mantell Gwynedd, mae Social Value Cymru yn cynnig gwasanaethau cefnogi, cynghori ac ymgynghori ar werth cymdeithasol i fudiadau’r sector gwirfoddol ar draws Gwynedd a thu hwnt. Maen nhw wedi gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau cymdeithasol ac elusennau i ddangos eu gwerth cymdeithasol, gan gynnwys Barnardo’s, y Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol a Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.
Mae Social Value Cymru yn cynnig hyfforddiant ledled gogledd Cymru fel y bo’n addas i ofynion amrywiol ac wedi gweithio’n agos gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol a chyrff cyhoeddus yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.
Cathy Madge yw Arweinydd Rhaglen – Lles, Economi a Gwerth Cymdeithasol, ac Anna Stielke yw Uwch Swyddog Tystiolaeth a Pholisi Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhagor o wybodaeth:
- Economeg iechyd a gwerth cymdeithasol – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Mantell Gwynedd – Gwerth Cymdeithasol Cymru
- *Institute for Social Value
Am ragor o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ewch yma.
*Saesneg yn unig