Yn y nesaf o’n cyfres, Iechyd a Llesiant gwell yng Nghymru, mae cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod yr heriau a’r datrysiadau i’r sector o ran tegwch iechyd.
Mae tegwch iechyd yn golygu bod gan bawb gyfle teg i fod mor iach â phosibl, waeth beth fo’u hil, incwm, ble maen nhw’n byw neu amgylchiadau cymdeithasol.
Mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn her barhaus yng Nghymru (ac ar draws y byd). Ond er bod yr anghydraddoldebau sy’n deillio o hynny yn eang, nid ydynt yn anochel. Maen nhw’n deillio o gymysgedd cymhleth o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, fel cyflogaeth, addysg, tai a chymorth cymdeithasol. Mae mynd i’r afael â nhw yn gofyn am weithredu cydgysylltiedig ar draws pob sector.
I fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae hyn yn berthnasol iawn. Yn aml, mudiadau gwirfoddol yw’r agosaf at gymunedau sydd o dan anfantais fwyaf ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn llunio canlyniadau iachach, mwy teg.
Fodd bynnag, gall trosi’r ddealltwriaeth hon yn weithredu ymarferol fod yn heriol heb fynediad at dystiolaeth ac adnoddau clir a hygyrch.
PORTH I DYSTIOLAETH A DATA
Mae Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru yn borth ar-lein i dystiolaeth, adnoddau polisi, adnoddau arloesol a data rhyngweithiol. I’r sector gwirfoddol yng Nghymru, mae’n cynnig adnodd ymarferol i gefnogi gwaith eirioli, dylunio gwasanaethau a gwaith partneriaeth. Trwy ddod â mewnwelediadau sy’n dod i’r amlwg ac enghreifftiau go iawn ynghyd, mae’n amlygu’r hyn sy’n gweithio wrth leihau anghydraddoldebau ac yn helpu mudiadau i gryfhau eu heffaith o fewn cymunedau.
Mae’r llwyfan yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo adnoddau yn ôl camau o’r cylch datblygu polisi. Mae hyn yn galluogi mudiadau gwirfoddol i wneud chwiliadau mwy targedig, cael gwell dealltwriaeth o sut mae polisïau’n cael eu gweithredu yng Nghymru, a sicrhau bod eu gwaith yn cefnogi atal ac yn cadw pobl yn iach.
Ynghyd â hyn, mae categorïau fel ‘bregusrwydd’ ac ‘angen nas diwallwyd’ yn cynorthwyo mudiadau i godi lleisiau cymunedau, gan sicrhau bod y gwaith o ddylunio polisïau a gwasanaethau yn adlewyrchu profiad bywyd.
Trwy flogiau, gweminarau, adnoddau wedi’u curadu a dangosfyrddau data a gaiff eu diweddaru’n rheolaidd, mae’r llwyfan yn helpu defnyddwyr i gadw’n gyfredol â’r heriau tegwch iechyd a’r datrysiadau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Mae wedi’i gynllunio nid yn unig ar gyfer llunwyr polisi a gweithwyr iechyd proffesiynol, ond hefyd ar gyfer mudiadau cymunedol, broceriaid gwybodaeth, a’r rheini sy’n gweithio ar reng flaen newid cymdeithasol.
MAE CYDWEITHIO YN ALLWEDDOL
I leihau anghydraddoldebau iechyd mae angen cydweithrediad cryf ar draws sectorau. Mae’r dull cydweithredol hwn yn cael ei adlewyrchu yn y cytundeb partneriaeth diweddar rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru ac CGGC, sy’n dwyn ynghyd arbenigedd iechyd cyhoeddus a rhwydweithiau’r sector gwirfoddol i rannu gwybodaeth, cryfhau ymdrechion atal, a chael yr effaith fwyaf bosibl ar draws cymunedau yng Nghymru.
Mae’r Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd yn cefnogi cydweithio gan ei fod yn cynnig tystiolaeth hygyrch a chanllawiau ymarferol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gefnogi’r gydymdrech hon – gan helpu i lywio gweithredu, dylanwadu ar bolisi, ac yn y pen draw gwella iechyd a lles i’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
CYSYLLTWCH Â NI
Os oes gennych fewnwelediadau i’w rhannu, enghreifftiau o waith rydych chi’n falch ohono, cwestiynau rydych chi’n eu hystyried neu syniadau ar gyfer cydweithio, byddai’n braf clywed gennych chi. P’un a ydych chi’n gweithio ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol, mae eich safbwynt yn bwysig. Cysylltwch â ni i:
- Rannu ymarfer, ymchwil, neu brofiad bywyd
- Amlygu prosiectau neu bartneriaethau arloesol
- Awgrymu pynciau ar gyfer blogiau i ddod
- Edrych ar gyfleoedd i weithio gyda’n gilydd
Gallwch gysylltu â ni yn solutionsplatform@wales.nhs.uk. Dewch i ni ddal ati i siarad a gweithio gyda’n gilydd i leihau anghydraddoldebau iechyd.
A fyddech gystal â chwblhau arolwg byr i ddweud wrthym ni os oes gennych unrhyw anghenion dysgu a chymorth o ran y materion a godwyd yn y blog hwn?
Am ragor o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ewch yma.