Criw o staff a mynychwyr yn cael sgwrs yn ddigwyddiad gofod3 2024

Iechyd a gofal yng Nghymru a Chernyw

Cyhoeddwyd: 04/07/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Kate Mitchell

Gwnaeth Kate Mitchell cymryd rhan mewn sesiwn gofod3, ‘Gwerth a gwerthoedd y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal’. Gwnaethom ofyn iddi rannu eu myfyrdodau.

Roeddwn wrth fy modd i gael fy ngwahodd i ddiwrnod mor bywiog a phositif. Gallech chi deimlo’r egni cyn gynted ag yr oeddech chi’n camu i mewn, gyda mudiadau amrywiol yn dangos eu gwerth drwy sgyrsiau brwdfrydig, powlenni o siocledi atyniadol neu gemau rhyngweithiol.

Roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf cymaint o amrywiaeth o fentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol sydd yng Nghymru.

CYMRU A CHERNYW

Fi yw’r Prif Gomisiynydd ar gyfer gwasanaethau oedolion yn y sector cymunedol a gwirfoddol ym Mwrdd Gofal Integredig Cernyw ac Ynysoedd Scilly. Rydyn ni, fel chithau yng Nghymru, yn gwerthfawrogi ein sector gwirfoddol yn fawr iawn. Rydyn ni’n ei ymwreiddio mewn meysydd allweddol fel atal a arweinir gan gymunedau, cyllidebau iechyd personol, ail-alluogi cymunedol, cymorth ar ôl rhyddhau a hybiau cymunedol. Fodd bynnag, mae mwy gennym i’w wneud o hyd i sicrhau bod y sector yr un mor gysylltiedig yn y gwaith o gydgynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.

Ar y dechrau, roeddwn i’n teimlo fel tipyn o dwyllwr yn mynd i ddigwyddiad yng Nghymru a finnau’n dod o 200 milltir i ffwrdd yn Lloegr, ond mae llawer o bethau’n debyg ar draws ein cymunedau.

Mae gan Gymru a Chernyw boblogaethau tebyg sy’n heneiddio, ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol uchel, ynghyd ag ardaloedd arfordirol a gwledig sydd â’u heriau eu hunain o ran y gwasanaethau a ddarperir a thrafnidiaeth. Mae gan y ddwy ochr gymunedau bywiog, cryf sy’n parhau i wneud gwahaniaeth serch yr heriau yn y system iechyd a gofal.

Rydyn ni hefyd yn rhannu treftadaeth ac ieithoedd Celtaidd cryf. Fe euthum mor bell â gŵglo’r pethau a oedd yn debyg a chanfod bod cytundeb wedi’i lofnodi rhwng Cyngor Cernyw a Llywodraeth Cymru i weithio gyda’i gilydd ar feysydd o ddiddordeb cyffredin lle byddai buddion i’r ddwy ochr!

GWERTH Y SECTOR GWIRFODDOL

Holwyd i mi rannu fy marn ar bapur Comisiwn Bevan, ‘Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’.

Mae holl themâu’r papur yn fy atgoffa o’m mhrofiadau i. Roedd yn bapur onest ond calonogol, os wnaethoch chi ei ddarllen drwy lygaid ‘dyfodol positif’.

Mae’r papur yn cipio’r pum elfen roeddwn i eisiau eu rhannu fel prif feysydd dysgu a ffocws fy ngwaith yng Nghernyw. Gwnes i eu cynnig fel y pum ‘P’: people (pobl), place (lle), personalisation (personoli), partnerships (partneriaethau) a positivity (positifrwydd).

Gallwn fod wedi ychwanegu ‘P’ arall o bosibl, am perseverance (dyfalbarhad)!

PWYSIGRWYDD Y PUM ‘P’

Pobl

Pobl sy’n darparu ac yn comisiynu gwasanaethau, staff, gwirfoddolwyr a phobl sy’n derbyn gwasanaethau a chymorth, nawr ac yn y dyfodol. Rydyn ni’n unigolion unigryw a gallwn ddefnyddio ein cryfderau a’n hasedau i gydgynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau a chymorth.

Lle

Yn yr un modd ag y mae pobl yn unigryw, felly hefyd mae lleoedd a chymunedau. Efallai nad yw’r iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen mewn un ardal yr un fath ag ardal arall. Mae angen i ni fod yn hyblyg wrth deilwra gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol ac ymddiried mewn cymunedau a darparwyr lleol i ddeall.

Personoli

Personoli yw rhywbeth y mae’r sector gwirfoddol yn ei wneud yn dda iawn. Mae mudiadau yn cadw pobl yn ganolog i bopeth y maen nhw’n ei wneud a gallant ymateb mewn modd ystwyth a hyblyg. Gall y sector gael sgwrs â phobl ynghylch ‘beth sy’n bwysig i chi’ yn hytrach na ‘beth sy’n bod arnoch chi?’ a gall hyn, yn ei dro, arwain at ddatrysiadau a chanlyniadau gwahanol.

Partneriaethau

Mae’r sector yn magu cryfder pan mae’n sefyll fel un i ddangos beth ellir ei gyflawni drwy gydweithio. Nid yw bob amser yn hawdd os yw’r amgylchedd yn gystadleuol, ond gall partneriaethau cryf gyflawni mwy o lawer a bod yn gefn i’w gilydd pan fydd pethau’n anodd.

Positifrwydd

Gall gweithio mewn sector lle mae adnoddau’n brin fod yn heriol a theimlo’n ynysig i unigolyn neu unig fudiad – dyna pam mae partneriaethau yn helpu. Mae amgylchynu eich hun â’r bobl sy’n ‘gallu gwneud’ ac yn ‘mynd i wneud’ sy’n fodlon rhoi cynnig ar rywbeth mewn amgylchedd dysgu y gellir ymddiried ynddo yn gwneud gwahaniaeth mawr.

COMISIYNU’N WAHANOL

Yn y pen draw, mae pob newid a gwelliant da i wasanaethau yn seiliedig ar feithrin cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt. Mae newid yn wirioneddol ddatblygu ar gyflymder ymddiriedaeth a chydberthnasau. Pan fyddwch chi wedi deall y gallwch chi wneud newidiadau dros nos, ac yn credu, er nad yw’n berffaith heddiw, y bydd yn well yfory. Ac os na fydd, byddwch chi’n dysgu, yn addasu ac yn rhoi cynnig ar rywbeth arall gan ddefnyddio’r dull pum P.

Cefais rai sgyrsiau hyfryd ar ôl y digwyddiad a myfyriais ar sut rydyn ni wedi gallu comisiynu mewn ffordd wahanol yng Nghernyw. Yn ogystal â’r dull uchod, rwyf wedi dysgu y gallwn gomisiynu er mwyn cydweithio ac nid i gystadlu.

Mae adeiladu amgylcheddau dysgu y gellir ymddiried ynddynt drwy bartneriaethau yn ffordd fwy effeithiol o gyflwyno newid i wasanaeth neu wasanaeth newydd ymatebol na phresgripsiynu mewn manyleb neu gontract. Mae defnyddio grantiau, dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, memoranda o gytundebau a gweithio trwy werthoedd a rennir ac egwyddorion cytunedig yn llawer mwy effeithiol. Yn bwysicach oll, mae’n fwy o hwyl!

RHAGOR O WYBODAETH AM HYN

Am ragor o wybodaeth am waith y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal, ewch i’n tudalen prosiect iechyd a gofal.