Menyw yn siarad â grŵp o bobl, yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar iechyd a gofal

Iechyd a gofal: Pam mae’r sector gwirfoddol yn bwysig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: David Cook

Mae Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal CGGC, David Cook, yn crynhoi rhai o’r pwyntiau allweddol ynghylch pam mae gwaith y sector yn y maes iechyd a gofal mor bwysig.

Yn nigwyddiad gofod3 CGGC ar ddechrau’r Haf, cynhaliodd y Prosiect Iechyd a Gofal ddwy sesiwn wahanol. Roedd y rhain yn clymu i mewn â phapur Helplu Cymru a Chomisiwn Bevan ar gael cydweithrediad rhwng y sector gwirfoddol a’r sector statudol er mwyn darparu iechyd a gofal yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi lansio papur cydymaith ar bam mae’r sector gwirfoddol yn bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, (i adael y gath o’r cwd, mae’n bwysig iawn). Mae llawer o drafod wedi bod ers cyhoeddiad y ddau bapur gwahanol yma yn amlygu’r rôl hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae yn yr ecoleg iechyd a gofal yng Nghymru.

EDRYCH YN HIR AC EDRYCH YN EANG

Roedd y trafodaethau’n amrywiol dros ben. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd yr angen i edrych yn ‘bell’ ac edrych yn ‘eang’ ar wasanaethau iechyd a gofal y sector. Gallai edrych yn bell gynnwys meddwl yn fwy hirdymor am bryderon o ran llwybr gwasanaethau iechyd (cynnydd mewn galw yn digwydd ar yr un pryd â gostyngiad mewn adnoddau), a gallai edrych yn eang ymwneud â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd (e.e. tlodi, addysg ac ati) yn hytrach na chanlyniadau gwirioneddol gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r sector gwirfoddol, gyda’i amrywiaeth a’i gyfoeth o fudiadau sy’n rhwym wrth werthoedd cyffredin, mewn sefyllfa dda i effeithio ar y penderfynyddion cymdeithasol hyn a rhaid ei gynnwys mewn sgyrsiau a gwasanaethau sy’n ymwneud â nhw.

Un o’r pynciau allweddol oedd yr angen i gynnwys cymunedau’n well mewn penderfyniadau amdanynt.

Gallai hyn gynnwys:

  • Dod â lleisiau’r gymuned i gynllunio, a defnyddio’r lleisiau hyn i greu map o asedau cymunedol yr ardal (gan gynnwys cyfleusterau ffisegol, sgiliau a phrofiad), gyda rôl ar gyfer cymorth Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)
  • Defnyddio datblygiadau seiliedig ar asedau i nodi cryfderau lleol ac adeiladu arnynt
  • Meithrin mwy o ymddiriedaeth rhwng mudiadau trydydd sector er mwyn helpu i weld cyfleoedd i gydweithio – e.e. rhwydweithio, cynigion cyllido ar y cyd
  • Meithrin mwy o gydweithio ar draws sectorau er mwyn galluogi gweithredu cymunedol gwell a mwy buddiol

HERIO PŴER I NEWID DIWYLLIANT

Yn rhywle arall, gwnaeth y drafodaeth grŵp hefyd gyffwrdd â’r angen i’r sector gwirfoddol allu herio pŵer i newid diwylliant, ac amlygwyd pa mor allweddol oedd hi i allu codi llais y sector yn gydweithredol. Nodwyd fod rhai mudiadau’r sector gwirfoddol yn gweinyddu cyllid yn ogystal â’i dderbyn, ac ystyriwyd hyn yn destun gwrthdaro posibl – sy’n cyfeirio’n ôl at y pwynt cynharach ynghylch ymddiriedaeth.

Yn olaf, gwnaeth trafodaeth ddiddorol o ran mesur effaith godi rhai cwestiynau diddorol – sut gallwn ni fesur cymunedau yn dod yn fwy dyfeisgar? Pa egwyddorion gellir eu copïo o un profiad i’r llall? A pha gyfleoedd sydd i fesuriadau cyfunol – e.e. mesuriadau y gellid eu rhannu ledled holl CVCs Cymru? Mae mesuriadau effeithiol yn caniatáu i’r sector egluro’n gwmws beth y mae’n ei wneud a pham mae’n bwysig, yn ogystal â magu hyder penderfynwyr – ac yn hanfodol, ein cymunedau – ynghylch gallu’r sector i wella iechyd a lles ym mhob cwr o’r wlad.

Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallai CGGC fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r argymhellion a danlinellwyd yn y papur yng ngham nesaf ein prosiect.

CYSYLLTWCH Â NI

Byddem wrth ein boddau o glywed eich syniadau am ble gallem wneud gwahaniaeth positif. I wneud hynny, cysylltwch â ni yn iechydagofal@wcva.cymru.