Mae Lynne Connolly, Rheolwr Helplu Cymru, yn myfyrio ar sesiwn a gynhaliwyd yn nigwyddiad blaenllaw CGGC, gofod3.
Cynhaliodd Prosiect Iechyd a Gofal CGGC sesiwn yn gofod3 yn Stadiwm Dinas Caerdydd i drafod papur newydd Comisiwn Bevan: Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r papur yn edrych ar y cyd-destun presennol o ran iechyd a gofal ledled y wlad, a sut gellid cynyddu rôl y sector gwirfoddol i’r eithaf er budd pawb.
Roeddwn i, fel y Rheolwr Helplu Cymru newydd, wrth fy modd i fynd i gofod3 am y tro cyntaf a chymryd rhan yn y sesiwn hon. Roedd yr ystafell yn fwrlwm o egni wrth i’r panel a’r gynulleidfa edrych ar heriau a buddion argymhellion yr adroddiad, o safbwynt y sector statudol a’r sector gwirfoddol.
YR ANGEN AM NEWID
Yng Nghymru, mae cryn dipyn wedi’i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gyda chymorth gweithlu medrus. Ond mae’r system o dan bwysau ac mae’n amlwg nad yw ychwanegu mwy o arian a staff yn ddigon yn ei hun – mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gydweithio a gwneud gwelliannau. Mae newid sut rydym yn gwneud pethau wrth i ni wynebu llai o gyllid, poblogaeth sydd ar gynnydd ac yn heneiddio a chostau byw uwch yn hanfodol.
Yn naturiol, mae gweithio ar draws sectorau gwahanol yn cyflwyno heriau gwahanol. Ond, rwy’n awyddus i ganolbwyntio ar dri maes allweddol sy’n codi’n aml yn ein trafodaethau fel rhai â’r potensial i gael effaith sylweddol drwy gydweithio’n effeithiol: comisiynu, rhannu data a gwneud y defnydd gorau o’n seilwaith.
DIWYLLIANT CONTRACTIO YN ERBYN DULLIAU CYDGYNHYRCHU
Nodwyd comisiynu fel rhwystr i gydweithio effeithiol. Mae’r sector statudol yn wynebu heriau mewn caffael, rheoleiddio a gwerthuso ansawdd gwasanaeth. Yn y cyfamser, mae mudiadau gwirfoddol yn wynebu rhwystrau fel:
- Cystadlu am dendrau yn hytrach na derbyn cyllid grant
- Ymdrin â chyllid prosiect tymor byr (sy’n arwain at drosiant staff uchel a gwasanaethau anghynaladwy)
- Diffyg strategaeth ymadael pan gaiff gwasanaethau newydd eu datblygu (fel dod o hyd i ffynonellau cyllido eraill neu drosglwyddo gwasanaethau hanfodol i bartner newydd)
- Ddim yn cael eu cynnwys yn ddigon cynnar mewn prosesau comisiynu
Trafodwyd pryderon ynghylch y ffaith nad oes gan y sector gwirfoddol fawr o lais mewn comisiynu.
Gwnaeth Kate Mitchell, y Prif Gomisiynydd ar gyfer gwasanaethau oedolion yn y sector cymunedol a gwirfoddol ym Mwrdd Gofal Integredig Cernyw ac Ynysoedd Scilly, rannu sut mae gweithio gyda’r sector gwirfoddol ar gomisiynu cydweithredol wedi arwain at ffyrdd newydd o weithio a chanlyniadau gwell yn hybiau cymunedol Cernyw. Cafodd y prosiect hwnnw ei werthuso gan Helpforce, a *gellir gweld rhagor o wybodaeth am ei fuddion a’i ganlyniadau yma.
Pe bai’r dull comisiynu cydweithredol hwn yn cael ei gymhwyso’n ehangach, gallai leddfu’r pwysau ar wasanaethau statudol, gwella llesiant pobl a chryfhau cydberthnasau rhwng sectorau.
CREU DIWYLLIANT RHANNU DATA
Mae gwybodaeth yn bwerus, ac mae rhannu data rhwng sectorau yn bwysig gan ei fod yn caniatáu i ni wybod beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio. Os mai dim ond un rhan o’r pos data rydyn ni’n ei weld, sut gallwn ni fynd ati i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd teulu cyfan neu system gyfan?
Mae rhai o’r rhwystrau cyffredin i rannu data ar draws sectorau yn cynnwys:
- Pryderon bod rhannu data yn torri cyfrinachedd neu reolau GDPR
- Dim fframwaith na chytundebau cyfreithiol ar gyfer rhannu data rhwng mudiadau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol
- Mesurau cofnodi a defnyddio data heb eu hintegreiddio mewn prosiectau o’r cychwyn cyntaf
- Adnoddau cyfyngedig a chymhlethdod systemau yn ei gwneud hi’n anodd datblygu dulliau rhannu data
- Diffyg ymddiriedaeth, hyfforddiant a chanllawiau
Mae rhannu data yn hanfodol i gydweithio. Hebddo, mae’n anoddach profi buddion gweithio gyda’n gilydd ac argymell mwy o bobl i gefnogi hyn. Argymhella’r papur y dylai cyrff cyhoeddus gasglu data i ddangos sut mae’r sector gwirfoddol yn cyfrannu at wasanaethau hanfodol.
Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu i greu diwylliant o rannu data:
- Dechreuwch annog rhannu data dienw a thueddiadau iechyd rhwng sectorau
- Ewch ati i drefnu neu gynnal digwyddiadau dysgu amlasiantaeth a rhannwch ddata ar broblemau neu ffrydiau gwaith penodol
CYSYLLTU A CHYDWEITHIO AR DRAWS Y SEILWAITH
Pan fydd yr amodau cywir ar gyfer cydweithio yn eu lle, mae gweithwyr proffesiynol a mudiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio’n dda gyda’i gilydd tuag at nodau cyffredin.
Gyda rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac adnoddau ar gyfer cydweithio effeithiol eisoes wedi’u sefydlu, sut gallwn ni wneud y defnydd gorau o’r hyn sydd gennym a’u datblygu ymhellach orau?
Yn gofod3, amlygwyd nifer o gynhwysion allweddol ar gyfer cydweithio llwyddiannus, er enghraifft:
- Dealltwriaeth ac ystyriaeth well o anghenon ein gilydd ar draws sectorau
- Pwysigrwydd ymgysylltu cynnar a chynhwysiant
- Pŵer cydberthnasau effeithiol a dibynadwy ar draws sectorau
Weithiau, mae bylchau mewn dealltwriaeth. Er enghraifft, efallai na fydd mudiadau gwirfoddol bob amser yn gwybod am ofynion statudol, ac efallai na fydd cyrff statudol yn deall heriau cyllid tymor byr a’r diffyg cysylltiad cynnar â’r sector gwirfoddol.
Amlygodd y drafodaeth ganlyniadau cysylltiad cynnar annigonol a diffyg ymgynghori mewn prosiectau. Dangosodd enghreifftiau y gall peidio â chynnwys yn gynnar arwain at oediadau a chymhlethdodau. Heb ddyddiadau cau realistig, caiff cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol anawsterau cyson wrth gasglu adborth gan elusennau amrywiol, gan ei gwneud hi’n fwy heriol i greu datrysiadau lleol effeithiol.
I wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae’n hanfodol dod o hyd i ffyrdd o gysylltu, cyfathrebu a chydweithio ar draws sectorau. Mae llawer o bartneriaethau llwyddiannus eisoes yn bodoli. Mae Adran 10 y papur yn amlygu nifer o astudiaethau achos sy’n dangos eu heffeithiolrwydd.
CYMRYD PERCHNOGAETH O NEWID
Caiff pobl yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol eu cymell gan eu tosturi dros eraill, ac mae’r ymroddiad hwn i ofalu yn ein cymell i oresgyn heriau.
Gall dod o hyd i amser a chyllid fod yn her, ond gallwn ni barhau i wneud cynnydd drwy ganolbwyntio ar newidiadau bach cyraeddadwy sydd o fewn ein cyrraedd. Dyma’r tri peth mwyaf yr hoffwn i ganolbwyntio arnynt:
- Gwella eich dealltwriaeth o’r heriau a wynebir gan bob sector ac addasu dulliau gweithio yn unol â hynny.
- Blaenoriaethu a meithrin cydberthnasau gweithio dibynadwy ar draws sectorau gwahanol
- Edrych ar yr argymhellion o’r papur a rhoi newidiadau bach, cyraeddadwy ar waith
MYND GAM YMHELLACH
Beth ydych chi’n ei feddwl o’r argymhellion yn y papur a pha newidiadau byddwch chi’n ei wneud i wella cydweithio? Gallwch chi ddweud wrthym drwy anfon e-bost i iechydagofal@wcva.cymru, neu anfon neges atom ar X, LinkedIn neu Facebook.
Mae croeso i chi rannu ein papur o fewn eich rhwydweithiau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen prosiect Iechyd a Gofal CGGC.
*Saesneg yn unig