I gefnogi’r ymgyrch #DefnyddiaDyGymraeg, mae Catherine, Cyfarwyddwr Artistiaid a Phrif Swyddog Gweithredol Dawns i Bawb yn rhoi mewnwelediad i ni i ddawns drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dawns i Bawb yw’r mudiad Dawns Gymunedol ar gyfer Gogledd Cymru sy’n datblygu gweithgareddau dawns i bobl o bob oed a gallu ledled Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Mae ein Rhaglen yn dilyn ein chwe llinyn o Ddawns Gymunedol:
- Dawns ac addysg – Diwrnodau dawns i ysgolion
- Dawns, cydlyniant cymunedol ac ehangu ymgysylltiad – Dawnswyr Dre – 4-11 oed, Cwmni Dawns Ieuenctid – 12+ oed, Dawns Gynhwysol i oedolion anabl 16+ oed, Rhaglen Ddawns Gymunedol ar gyfer ardal Bangor a Bale i Oedolion
- Dawnsio ac Iechyd – Prosiect Straeon Bywyd, Cwmni Dawns i bobl sydd wedi’u heffeithio gan Ddementia, Rhaglen Ddawns mewn Cartrefi Gofal a Ffitrwydd Dawns i Oedolion
- Dawns a’r Gymraeg – Cefnogi pobl i ddysgu Cymraeg trwy ddawns
- Datblygiadau strategol ac artistig – Datblygu cyfleoedd gwaith i bobl sy’n wynebu rhwystrau wrth fynd i mewn i’r gweithle
- Perfformiadau – Sioe Aeaf Flynyddol, Perfformiad Rhyngweithiol ar gyfer Cartrefi Gofal
Dawns i Bawb yw un o’r unig fudiadau dawns yng Nghymru sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dros 90% o’n cymunedau yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Ein rôl ni yw ymateb i’n cymunedau a chynnig gweithgareddau ysbrydoledig, grymusol a phositif, felly mae’n hanfodol i ni ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg.
Yn aml iawn, rydym yn clywed pobl yn dweud nad yw iaith yn bwysig i ddawnsio gan fod dawns yn ffurf gelfyddydol ‘di-eiriau’. Rydym yn herio’r syniad hwn. Er mwyn i bobl allu dawnsio, mae’n rhaid cynnal proses a phrofiad creadigol. Agwedd bwysicaf proses greadigol yw cyfathrebu, ac er mwyn cyfathrebu mae angen iaith arnom, pa bynnag iaith y bo hynny. Rydym yn falch o allu cynnig y profiad i’n cymunedau o greu a dawnsio yn yr iaith y maen nhw’n siarad, meddwl, breuddwydio ac yn mynegi eu hunain, ac yn yr iaith y maen nhw’n byw eu bywydau.
CYNNIG PROFIAD DWYIEITHOG
Mae gan Dawns i Bawb bolisi iaith Gymraeg cryf. Mae ein holl waith marchnata yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, mae ein holl staff ac artistiaid dawns yn siaradwyr Cymraeg neu’n ddysgwyr ac mae ein holl sesiynau yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Rydym yn annog ein holl staff i ddefnyddio cerddoriaeth Gymraeg o fewn eu sesiynau.
MIGLDI MAGLDI
Mewn partneriaeth â Galeri, rydym yn cynnal sesiynau o’r enw Migldi Magldi – stori, dawns a chanu i blant 0-3 oed a’u hoedolion. Nod y sesiynau hyn yw cyflwyno’r Gymraeg i blant cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol mewn modd hwyliog a chynhwysol. Mae’r sesiynau hefyd yn gyfle gwych i rieni gymdeithasu ag eraill yn Gymraeg a dysgu Cymraeg ochr yn ochr â’u plentyn.
DOD Â PHAWB YNGHYD
Bob blwyddyn mae Dawns i Bawb yn cynnal cynhyrchiad Dawns Gymunedol blynyddol. Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys pob grŵp sy’n rhan o’n Rhaglen Ddawns Gymunedol – pobl rhwng 0 a 90+ oed gan gynnwys plant a phobl ifanc, ysgolion, cartrefi gofal, oedolion anabl a phobl sy’n byw gyda Dementia.
Mae’n gyfle gwych i ddathlu Dawns i Bawb a’n cymunedau. Perfformiad dawns Cymraeg yw’r perfformiad sy’n defnyddio testun, lluniau, cerddi a cherddoriaeth Gymraeg. Mae dros 100 o berfformwyr yn cymryd rhan bob blwyddyn mewn lleoliad sydd dan ei sang.
DATBLYGU ARWEINWYR CYMRAEG EU HIAITH
Ein her fwyaf yw dod o hyd i artistiaid dawns proffesiynol sy’n siarad Cymraeg. Mae prinder sylweddol o ddawnswyr Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru. Rydym wedi ymateb i’n heriau mewn modd cynhyrchiol ac arloesol drwy gynlluniau prentisiaeth Dawns Gymunedol Gymraeg greadigol.
Mae’r rhain yn cynnwys swyddi â thâl blwyddyn o hyd i ddawnswyr ddysgu sgiliau i ddod yn arweinwyr Dawns Gymunedol a datblygu hyder wrth arwain trwy’r Gymraeg. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i artistiaid dawns nad ydynt yn siarad Cymraeg ddysgu Cymraeg fel rhan o’r cynllun. Hyd yma mae Dawns i Bawb wedi hyfforddi dros chwe artist dawns gymunedol Cymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth am Dawns i Bawb, ewch i www.dawnsibawb.org.