Dau weithiwr proffesiynol ifanc yn cael trafodaeth mewn cynhadledd

Hyrwyddo DU â safonau uchel

Cyhoeddwyd: 05/12/22 | Categorïau: Dylanwadu,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Charles Whitmore

Yma, mae Charles Whitmore, Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, yn adrodd yn ôl o gynhadledd cymdeithas sifil y DU.

Mae cymdeithasau cymdeithas sifil o bob rhan o’r DU wedi dod ynghyd eto, ar ôl tair blynedd. Mae’n gyfle i rannu mewnwelediadau, meithrin cysylltiadau a thrafod rhai o’r prif heriau sy’n effeithio ar y sector gwirfoddol yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE a phandemig COVID-19.

Y gynhadledd hon oedd yr ail o’i math. Cafodd yr un gyntaf ei chynnal yn Belfast yn 2019, lle y cafodd ei chyllido gan ‘The Legal Education Foundation’ a’i threfnu ar y cyd gan CGGC a phrosiect Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru Canolfan Llywodraethiant Cymru. Mae hyn mewn partneriaeth â chymheiriaid cyfatebol y fforwm mewn rhannau eraill o’r DU (Y Gynhrair Cymdeithas Sifil (Saesneg yn unig) a phrosiectau a redir gan y Consortia Hawliau Dynol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban (gwefannau Saesneg yn unig)).

Cafodd y gynhadledd, a enwyd yn ‘Championing a High Standards UK’ (Hyrwyddo DU â Safonau Uchel) ei chynnal yng Nghaeredin rhwng 10-11 Tachwedd 2022 a daeth â mwy nag 80 o gynrychiolwyr ynghyd, gydag oddeutu 20 o’r rhain yn teithio o Gymru, o feysydd cymdeithas sifil, academaidd a gwleidyddol.

MYFYRIO AR Y GORFFENNOL – EDRYCH I’R DYFODOL

Gwnaeth y gynhadledd roi cyfle gwerthfawr i edrych yn ôl ac ymlaen, gan fyfyrio ar y cyfleoedd a’r problemau sydd wedi codi i’r sector gwirfoddol ledled y DU yn y gorffennol, y rheini sy’n eu hwynebu nawr a’r rheini a fydd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Yn 2019, wrth i bobl barhau i ymgodymu â’r telerau y byddai’r DU yn ymadael â’r UE oddi tanynt, myfyriodd casgliadau’r gynhadledd ar sut y byddai angen i’r ffocws droi yn hwyr neu’n hwyrach at ddylanwadu ar y dirwedd a fyddai’n ymddangos ar ôl hynny. Pa fath o gymdeithas ydyn ni eisiau i’r DU fod ar ôl Brexit? – gwnaeth y cynrychiolwyr fyfyrio â diddordeb pwyllog.

Nawr, mae’r cwestiwn braidd yn broffwydol – wrth i gynrychiolwyr a phanelwyr cynhadledd 2022 drafod materion, cyfleoedd, newidiadau a chydweithrediadau ar draws themâu amrywiol a oedd yn ymwneud â’r union bwnc hwn. Crybwyllwyd llawer o’r rhain yn 2019, ond roedd mudiadau mewn sefyllfa nawr i drafod eu profiadau â’r newidiadau hyn a’u hymdrechion i ddylanwadu arnynt.

Er enghraifft – mae’r pryderon cynt y gallai Brexit achosi i safonau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ostwng wedi’u cadarnhau nawr wrth i fudiadau gydweithio ar hyd a lled y DU i stopio, lliniaru a dylanwadu ar Fil Hawliau niweidiol y DU. Byddai hwn, clywodd y gynhadledd, yn cael ei adfywio’n fuan. Gwnaeth prif banel gyda Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol dros Gymru, Christina McKelvie MSP, Gweinidog Cydraddoldeb a Phobl Hŷn yn yr Alban a Naomi Long MLA o Ogledd Iwerddon adleisio pryder sylweddol ynghylch hyn a chyhoeddi galwad i weithredu trawiadol o unedig.

GWNAETH TRAFODAETHAU GRŴP LLAI ARWAIN AT SGYRSIAU TEBYG EHANGACH

Cafodd yr hyn a oedd unwaith yn ansicrwydd ynghylch yr arian a fyddai’n disodli cyllid yr UE ei archwilio o’r newydd mewn gweithdy ar godi’r gwastad, a chanfuwyd fod llawer o’r sector gwirfoddol yn byw ar y dibyn bellach. Nid yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi’i dosbarthu eto – hyd yn oed wrth i brosiectau gau eu drysau.

Gwnaeth eraill edrych eto ar hawliau dinasyddion yr UE, sut mae datganoli yn cael anhawster addasu i’r trefniadau cyfansoddiadol newydd hyn, hawliau amgylcheddol a chyflogaeth, a sut mae mudiadau wedi gallu profi’r cylch cyntaf o gymryd rhan mewn strwythurau ffurfiol o dan y gydberthynas rhwng y DU a’r UE.

Gwnaeth panel arall ar ddiwrnod un edrych ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd dim ond wedi’i gyflwyno i mewn i Senedd y DU yn ddiweddar ond sy’n peri cryn bryder i fudiadau gwirfoddol ar draws llawer o sectorau. Yn wir, o ganlyniad i’r gynhadledd, ymunodd CGGC a’r Fforwm â mudiadau eraill i gydlynu llythyr ymateb brys ar y cyd (Gwefan Saesneg yn unig) i Lywodraeth y DU yn galw ar y Bil i gael ei dynnu’n ôl, a chafodd hyn ychydig o sylw ym Mhwyllgor y Bil Cyhoeddus.

YR ANGEN I GRYFHAU EIN CYDWEITHREDIAD

Serch yr heriau hyn, ymhlith eraill, gwnaeth y gynhadledd ddechrau a diwedd yn optimistaidd. Yn ei anerchiad agoriadol, siaradodd Murray Hunt, cyfarwyddwr y ‘Bingham Centre for the Rule of Law’ am ‘wawr ôl-Brexit’ a fydd yn caniatáu mwy o le i ddylanwadu a magu consensws.

Yn yr un modd, yn sesiwn taflu syniadau olaf y gynhadledd gyfan ar y dydd Gwener, lleisiodd y cynrychiolwyr alwadau o’r newydd i weithio o fewn ac ar draws sectorau a rhanbarthau o’r DU. Credwyd fod angen hyn er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau cynyddol ar gapasiti ac adnoddau ein sector yng ngŵydd newid mor arwyddocaol. Efallai y bydd hefyd angen ffurfio partneriaethau a strategaethau newydd – a mynegwyd cryn ddiddordeb mewn gweithio ar draws busnesau, undebau masnach a’r sector gwirfoddol.

Gwnaeth cyfathrebu rhwng mudiadau a chyda’r cyhoedd hefyd ddod i’r golwg fel thema allweddol. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd ar rannu dulliau cyfathrebu strategol a chael cymaint â phosibl o effaith drwy weithio’n glyfar ar draws mwy o fudiadau sy’n canolbwyntio ar bolisi a’r rheini sydd ar y rheng flaen.

Er ei fod yn amlwg bod yr heriau a drafodwyd yn y gynhadledd unwaith eto yn pwyso’n drwm ar feddyliau pobl – roedd pawb yn cytuno bod y partneriaethau a’r cydberthnasau a ffurfiwyd i fynd i’r afael â’r rhain yn achos mawr i ddathlu.

RHAGOR O WYBODAETH

Disgwylir i adroddiad ar y gynhadledd gael ei gyhoeddi yn ystod 2023. Yn y cyfamser, os hoffech chi ymuno â’r trafodaethau hyn neu rai eraill, cofrestrwch ar restr bostio Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru CGGC yma.