Gweithio mewn modd hybrid, iechyd meddwl yn y gweithle a llywodraethu da. Dyma rai o’r pynciau a gynigir gan un o’n noddwr gofod3 eleni, Darwin Gray. Cawn wybod mwy gan yr Uwch-gydymaith, Rachel Ford-Evans.
Mae tîm Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol Darwin Gray wrth eu boddau i fod yn cyflwyno pedair gweminar yn gofod3 eleni.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth i’n cleientiaid ddod i’r golwg yn raddol ar ôl cynnwrf y pandemig, rydyn ni wedi gweld mudiadau yn mynd i’r afael â chwestiynau anodd yn ymwneud â gweithio gartref, iechyd meddwl, bwlio ac aflonyddu yn y gweithle. Bydd ein gweminarau yn mynd i’r afael â’r problemau anodd hyn, ac yn cyflwyno arferion llywodraethu da i ymddiriedolwyr elusennau. Ein nod yw eich paratoi chi fel y gallwch chi ateb cwestiynau anodd gan staff ar y pynciau hyn, datblygu eich polisïau ac atal dadleuon sy’n cynnwys eich cyflogeion rhag codi neu waethygu.
Er bod ein sesiynau poblogaidd yn gofod3 2021 wedi canolbwyntio’n benodol ar ddiffodd tân a rheoli’r difrod, bydd ein gweminarau eleni yn edrych ar sut mae arferion wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu yn yr hirdymor o ganlyniad i COVID-19 a’r hyn y dylai mudiadau feddwl amdano a’u gwneud er mwyn cadw i fyny.
Rydyn ni eisiau i’n sesiynau hyfforddi fod yn anffurfiol a rhyngweithiol, ac mae bob amser croeso i’r rheini sy’n mynychu ofyn cwestiynau i ni yn ystod neu ar ôl y sesiynau neu rannu eu profiadau eu hunain gyda ni.
Dyma’r pynciau y byddwn ni’n ymdrin â nhw…
DYFODOL GWEITHIO GARTREF A’R GWEITHLE: CAEL Y GYMYSGEDD GYWIR
Dydd Mawrth 21 Mehefin 2022, 10am
Rydyn ni’n credu nad oes un dull cywir o lunio polisi gweithio hybrid. I rai mudiadau, ni fydd gweithio o bell yn bosibl o gwbl, a bydd angen i’r cyflogwyr hyn allu cyfathrebu’r negeseuon cywir i’w cyflogeion presennol yn ogystal ag ymgeiswyr swyddi posibl er mwyn cadw i fyny â marchnad recriwtio heriol. I eraill, mae gweithio gartref yma i aros – ond mae angen ystyried goblygiadau cyfraith cyflogaeth yn yr hirdymor.
Yn ein barn ni, bydd datblygu polisi a strategaeth eglur ar y mater hwn yn allweddol i gyflogwyr yn 2022.
Yn y weminar hon, byddwn ni’n siarad am y gyfraith cyflogaeth a’r goblygiadau adnoddau dynol o newid lle gwaith rhywun, a yw’n bosibl i gymell cyflogai cyndyn i ddod i’r gweithle, a byddwn ni’n rhoi arweiniad ar ddatblygu polisi eglur ar weithio gartref sy’n briodol i’ch mudiad.
Byddwn ni hefyd yn trafod y dulliau ymarferol o reoli cyflogeion pan maen nhw’n gweithio o bell a beth i’w wneud os yw hyn yn effeithio ar eu cynhyrchiant.
BWLIO AC AFLONYDDU YN Y GWEITHLE – BETH I’W WNEUD A PHEIDIO Â’I WNEUD
Dydd Mercher 22 Mehefin 2022, 10am
Mae adroddiadau o fwlio ac aflonyddu yn y gweithle yn parhau i lifo i mewn, ond mae’r mathau o ymddygiadau a welir yn 2022 yn dechrau edrych yn wahanol i’r achosion nodweddiadol cyn COVID. Yn ogystal â chynnydd mewn seiberfwlio ac aflonyddu ar-lein, mae llawer o fudiadau yn darganfod bod agweddau ac ymddygiadau eu cyflogeion wedi newid ar ôl treulio misoedd lawer mewn cyfnod clo.
Mae’n ofyniad hanfodol i gyflogwyr gael polisïau cadarn ar waith i ymdrin â bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a chyfle cyfartal: bydd hyn yn eich helpu i osgoi neu amddiffyn honiadau o wahaniaethu os bydd pethau yn mynd o’i le.
Rydyn ni’n ymdrin â honiadau o’r fath ar gyfer ein cleientiaid bob dydd, ac yn y weminar hon, byddwn ni’n amlinellu’r egwyddorion o ddiogelu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y gweithle, sut i osgoi honiadau o aflonyddu, sut i adnabod a chael gwared ar fwlio, a’r canlyniadau posibl os na fydd cyflogwyr yn cymryd camau i wneud hynny.
LLYWODRAETHU DA – BETH YW HYN A SUT GELLIR EI GYFLAWNI
Dydd Iau 23 Mehefin 2022, 10am
Dylai pob cyfarwyddwr anweithredol ac ymddiriedolwr elusen ddeall sut mae ei rôl yn gweithio a’r hyn y mae’n rhaid iddo ei wneud a pheidio â’i wneud o dan y gyfraith elusennau ac o safbwynt llywodraethu da. Fodd bynnag, gwyddom nad yw llawer o fudiadau wedi cadw i fyny â’u hyfforddiant i ymddiriedolwyr yn ystod y pandemig.
Bydd Fflur Jones yn rhoi crynodeb amhrisiadwy ac ymarferol o oblygiadau ymddiriedolwyr ac arferion llywodraethu da i fynychwyr y weminar, ac yn edrych ar y dogfennau llywodraethu y dylai fod gan fudiadau elusennol a sut y dylid dilyn y rhain a’u cadw’n gyfoes.
Mae Fflur nid yn unig yn arbenigo mewn cyfraith elusennau, ond hefyd yn ymddiriedolwr profiadol nifer o fudiadau. Bydd ei chrynodeb yn defnyddio’i phrofiad a’i harbenigedd ac yn gadael ymddiriedolwyr mwy newydd yn teimlo eu bod yn gwybod eu goblygiadau yn ogystal â rhoi diweddariad defnyddiol i’r rheini sydd wedi bod yn gwasanaethu am hirach.
DIOGELU IECHYD MEDDWL GWEITHWYR YN Y GWEITHLE
Dydd Gwener 24 Mehefin 2022, 10am
Ni ellir dadlau’n hawdd fod iechyd meddwl y genedl wedi dioddef yn ystod y pandemig, ac mae llawer o fudiadau wedi canfod fod hyn wedi gorlifo i’r gweithle. Er yr oedd absenoldebau yn ymwneud ag iechyd meddwl eisoes yn cynyddu’n gyflym cyn COVID, mae hyn yn dod yn broblem fwy byth yn 2022 – sy’n cael ei dwysau gan y cymhlethdodau yn sgil gweithio o bell a sut gallai hyn fod yn gysylltiedig â phresenoliaeth.
Mae ein tîm cyfraith cyflogaeth yn arbenigo mewn gwahaniaethu ar sail anabledd a chyda phrofiad helaeth o ymdrin â phroblemau a dadleuon yn y gweithle sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Byddwn ni’n rhannu ein profiad o rai achosion anodd gyda mynychwyr y weminar hon, ac yn dangos i chi sut yr aeth cyflogwyr yr achosion hynny o’i le a sut gellid bod wedi osgoi hyn.
Yn ogystal â thrafod y materion cyfreithiol o ran gwahaniaethu ar sail anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (gan gynnwys pan all salwch meddwl gael ei ystyried yn anabledd ac, os felly, beth mae hyn yn ei olygu i’r cyflogai a’r cyflogwr), byddwn ni hefyd yn siarad am sut i adnabod arwyddion salwch meddwl ymhlith cyflogeion, sut i’w cefnogi pan fydd problemau’n codi a beth mae’r ddyletswydd yn dweud wrthych chi i’w wneud a pheidio â’i wneud wrth wneud addasiadau rhesymol.
YNGLŶN Â GOFOD3
Mae gofod3 – gofod Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol – yn digwydd ar-lein, 20-24 Mehefin 2022
Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol. Hwn yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru ar gyfer y sector gwirfoddol.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n rhan o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gyda dros 70 o wahanol ddosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos (sydd AM DDIM i’w mynychu!), mae rhywbeth at ddant pawb.
I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lleoedd ewch i gofod3.cymru