Mae gwirfoddolwr gwrywaidd yn chwarae gyda theganau wedi'u stwffio gyda merch ifanc mewn clinig iechyd

Helplu Cymru – pum mlynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd: 09/04/24 | Categorïau: Dylanwadu,Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Bum mlynedd yn ôl, gwnaethom ddechrau rhaglen i ehangu ac ymwreiddio gwirfoddoli o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Myfyria Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru CGGC, ar yr etifeddiaeth hyd yma.

DECHREUADAU A THWF

Dechreuodd Ein prosiect Helplu Cymru bum mlynedd yn ôl. *Helpforce oedd yn gyfrifol am y gwaith a sbardunwyd yng Nghymru (a hefyd yn yr Alban ac Iwerddon), gyda dwy flynedd o gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac (yn achos Cymru) gan Lywodraeth Cymru.

Ar y dechrau, roedd yn rhan o ddau dîm: y tîm gwirfoddoli yn CGGC a thîm staff Helpforce a oedd yn cwrdd bob mis yn Llundain. Roedd y gwaith o gynllunio a goruchwylio yn cael ei reoli ar y cyd gan y ddau fudiad. Ffurfiwyd grŵp llywio Helplu Cymru, gan ddwyn ynghyd unigolion o bob sector a oedd â diddordeb mewn datblygiad strategol gwirfoddoli o ran iechyd a gofal cymdeithasol.

Nawr, cefnogir Helplu Cymru gan dair blynedd o gyllid gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o brosiect Iechyd a Gofal CGGC. Mae’r ffocws yn parhau i fod ar wirfoddoli – o fewn mudiadau statudol a gwirfoddol ac mewn cymunedau.

O dan arweiniad a chadeiryddiaeth gefnogol dau Gomisiynydd Bevan, Fran Targett a Mary Cowern, mae ein Rhwydwaith Helplu Cymru (fel y’i gelwir ef bellach) yn trafod datblygiadau arloesol ac yn galluogi llawer o gysylltiadau anffurfiol sy’n wirioneddol helpu i wneud i bethau ddigwydd.

GWAITH PEILOT AC EFFAITH COVID-19

Yn ôl yn 2020/21, aethom ati law yn llaw â Helpforce i gefnogi tri phrosiect peilot ar wirfoddoli a gofal diwedd oes fel rhan o raglen ehangach yn y DU gyda Marie Curie. Gwnaeth tri bwrdd iechyd a oedd yn cymryd rhan geisio addasu ac ymwreiddio rolau gwirfoddoli sydd wedi’u profi a’u mireinio gan Marie Curie dros y blynyddoedd. Mae eu gwaith nhw wedi helpu i ehangu’r profiad a’r dystiolaeth sydd gennym o effaith positif gwirfoddoli o fewn lleoliadau gofal iechyd.

Gwnaeth y brigiad o achosion pandemig COVID-19 achosi heriau ac oediadau difrifol i’r prosiectau hyn. Ond mewn ffyrdd eraill, cyflwynodd y pandemig rai cyfleoedd positif i Helplu Cymru.

Gwnaeth yr ymateb gwirfoddoli lleol yn ystod y pandemig newid y drafodaeth genedlaethol ynghylch gwirfoddolwyr yn sylweddol. Ar yr un pryd, roedd Helplu Cymru yn cael ei dynnu i mewn i sgyrsiau lefel uwch ar gynllunio ar gyfer argyfwng – a gwnaeth hyn agor y drws i gydberthnasau gweithio newydd â nifer o gyrff llywodraethol.

Cangen arall o waith a dyfodd o’r pandemig oedd gwirfoddoli mewn cartrefi gofal. Yn 2021, dechreuwyd gweithio gyda Age Cymru, ar gais Arolygiaeth Gofal Cymru, i alluogi gwirfoddolwyr i gynorthwyo perthnasau i ymweld â phreswylwyr cartrefi gofal o dan gyfyngiadau COVID-19. Mae’r gwaith hwn wedi parhau ac wedi datblygu, drwy nifer o gylchau cyllido.

Nawr, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ceisio datblygu model ar gyfer cefnogi gwirfoddoli o fewn lleoliadau gofal cymdeithasol ac mae ymgynghorwyr wedi’u penodi i ymgymryd â’r gwaith hwn.

GWEITHLU A GWIRFODDOLI

Dechreuodd Helplu Cymru siarad o blaid cynnwys gwirfoddoli yn y strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn 2020 (gweler Cam Gweithredu 32). Cafodd gwirfoddoli hefyd sylw o fewn y cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol (gweler Cam Gweithredu 6) ac yn fwy diweddar, yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu (gweler tudalen 20).

Er nad yw’n briodol cynllunio ar gyfer gwirfoddolwyr a’u defnyddio yn yr un modd ag y byddem ni’n trin staff, rydyn ni wedi bod yn siarad o blaid meddwl yn strategol am wirfoddoli ochr yn ochr â meddwl am ddatblygu’r gweithlu. Trafodwyd hyn mewn blog yn 2021, A yw gwirfoddolwyr yn rhan o’r gweithlu?

O safbwynt ‘gweithlu’, mae angen i ni fynd ati’n gyntaf i wella’r dealltwriaeth o gyfraniad gwirfoddolwyr, drwy waith ymchwil a thrwy ddatblygu ffynonellau dibynadwy o ddata sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae angen i ni gynllunio ar gyfer yr adnoddau (gan gynnwys amser staff) sydd eu hangen i recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr.

Mae creu llwybrau o wirfoddoli i mewn i yrfaoedd yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol nid yn unig yn fuddiol i wirfoddolwyr unigol; mae hefyd yn fuddiol i’r system ehangach. Mae *rhaglen Gwirfoddoli i Yrfa Helpforce UK (sy’n cynnwys cyllido prosiectau yng Nghymru) yn cyfrannu tystiolaeth a phrofiad at ein meddylfryd yn y maes hwn.

YR ETIFEDDIAETH?

Yn 2019, gwnaethom negodi a chyhoeddi Siarter cydberthnasau gwirfoddoli a’r gweithle, ar y cyd â TUC Cymru. Mae hwn yn sylfaen ddefnyddiol ar gyfer trafod datblygiadau o ran gwirfoddoli, yn enwedig mewn gweithleoedd wedi’u hundeboli fel y GIG.

Gwnaeth Grant adfer gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws gan Lywodraeth Cymru ein galluogi i weithio gyda Chomisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru a Richard Newton Consulting i ddatblygu Fframwaith ar gyfer Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r adnodd rhyngweithiol hwn yn edrych ar chwe chwestiwn allweddol sydd angen i fudiadau sy’n ymwneud â gwirfoddoli eu hateb – waeth a ydynt yn gomisiynwyr, mudiadau darparu, cyrff seilwaith (fel Cynghorau Gwirfoddol Sirol) neu grwpiau cymunedol. Mae’r offeryn hunanasesu o fewn y Fframwaith wedi’i ddatblygu ymhellach gan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg i gefnogi datblygiad dull rhanbarthol o ddatblygu gwirfoddoli.

Mae blogiau ac astudiaethau achos wedi’u hysgrifennu a gwaith ymchwil perthnasol wedi’i gefnogi a’i rannu. Mae’r rhain wedi’u postio ar dudalen we Helplu Cymru.

Yn y modd hwn, rydyn ni wedi cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ac wedi datblygu rhai adnoddau a fydd, gobeithio, yn helpu i ymwreiddio gwirfoddoli’n fwy cadarn o fewn ein systemau iechyd a gofal. Rydyn ni wedi cadw gwirfoddoli ar yr agenda o ran datblygiadau strategol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi dathlu rhai enghreifftiau gwych o ble a sut mae gwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth.

SYMUD YMLAEN

Flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i gefnogi datblygiadau o ran cartrefi gofal, strategaeth gweithlu (gan gynnwys llwybrau gwirfoddoli i yrfa) ac yn rhesymoli ffynonellau data, ymhlith meysydd eraill.

Rydyn ni’n bwriadu cynnal cwpwl o sesiynau yn gofod3 ar 5 Mehefin 2024, i drafod materion llosg sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr mewn perthynas ag iechyd a lles yng Nghymru. Byddai’n braf eich gweld chi yno!

Os hoffech wybod mwy am Helplu Cymru neu dderbyn diweddariadau ar gylchlythyr, cysylltwch â Fiona drwy anfon e-bost at fliddell@wcva.cymru.

*Saesneg yn unig