Yma, mae David Cook ac Amanda Harvey-Cooke o CGGC yn edrych ar fuddion cefnogi Hapus.
ADDEWID CGGC
Mae’n bleser gan CGGC gefnogi ymgyrch Hapus, ymgyrch i ysgogi sgyrsiau a gweithrediadau ynghylch llesiant meddyliol.
Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn. I gefnogi Hapus, mae CGGC yn addo:
- Annog ein staff, a’n gwirfoddolwyr ledled Cymru, i gofleidio ‘5 Ffordd i Hapusrwydd’ Hapus – Cysylltu, Dysgu, Bod yn Egnïol, Rhoi a Chymryd Sylw ac arwain trwy esiampl i ysbrydoli pobl eraill.
- Grymuso ein pobl i gydweithio â chymunedau a mudiadau ledled Cymru er mwyn creu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol sy’n meithrin llesiant meddyliol.
- Cynnig cyfleoedd parhaus i dyfu’n bersonol a dysgu gydol oes, gan baratoi ein tîm i wneud cyfraniadau ystyrlon i ymgyrch Hapus.
- Meithrin diwylliant o garedigrwydd, diolchgarwch ac ymwybyddiaeth ofalgar o fewn CGGC, gan ymestyn y gwerthoedd hyn i’n rhyngweithiadau â phartneriaid, cymunedau a phobl Cymru.
CYFLEOEDD LLESIANT YN CGGC
Rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd gwaith cefnogol a boddhaus i’n staff.
Mae gennym ddigonedd o opsiynau i helpu staff CGGC i wella eu llesiant, gan gynnwys:
- Gweithio’n hyblyg: Gall staff addasu eu hamserlenni i greu cydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd personol.
- Gweithio hybrid ac o bell: Mae opsiynau i weithio gartref yn helpu i leihau straen ac yn gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
- Ap ‘My Possible Self’: Adnodd digidol sy’n cynnig strategaethau hunangymorth ar gyfer meddwl iach.
- CareFirst: Gwasanaeth sy’n cynnig cwnsela, gweminarau ar iechyd da ac arweiniad ariannol.
- Cynllun arian iechyd: I helpu staff gyda chostau sy’n ymwneud â deintyddiaeth, optegwyr, ffisiotherapi a mwy.
- Ciniawau rhannu tamaid (‘pot-luck’): Mae’r rhain yn annog cysylltiad cymdeithasol a chyfeillgarwch ymhlith staff.
- Annog staff i fod yn awyr agored: Rydym yn awyddus i staff fynd allan a mynd am dro, a hyd yn oed yn annog ‘cyfarfodydd cerdded’.
- Gweithgareddau llesiant yn y Diwrnod Staff: Yn 2025, byddwn yn cynnig gweithgareddau llesiant ac ymwybyddiaeth ofalgar i helpu staff i ailffocysu ac ymlacio.
- Sesiynau gemau bwrdd: Ffordd hwyl o feithrin cysylltiadau ac ymlacio yn ardal ginio’r staff.
- Boreau coffi Macmillan: Cefnogi achos gwych a hybu rhyngweithio cymdeithasol.
- Gweithgareddau Diwrnod Amser i Siarad: Annog trafodaethau agored am iechyd meddwl.
- Cystadleuaeth ffotograff Cinio gyda Golygfa: Annog staff i fynd allan a thynnu llun o ble maen nhw’n cael cinio.
- Sesiynau galw heibio yng ngogledd Cymru: Cynnig cymorth a chysylltiad hygyrch i staff yn yr ardal.
- Hapusrwydd: Gofynnir i staff ynghylch lefel gyffredinol eu hapusrwydd yn ein harolwg staff.
SYNIADAU AR GYFER MENTRAU PELLACH
Er mwyn cryfhau ein hymrwymiad i lesiant meddyliol, mae CGGC yn ystyried nifer o fentrau newydd, gan gynnwys, trefnu cyfleoedd gwirfoddoli i staff yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr er mwyn hybu morâl ac ymgysylltiad cymunedol. Mae CGGC hefyd yn ystyried cynnal digwyddiadau bwyta’n iach a chyflwyno cynllun ffrwythau wythnosol wedi’i sybsideiddio ar gyfer y swyddfa, trefnu digwyddiadau figan a heb glwten i hyrwyddo opsiynau deietegol cynhwysol a dosbarthiadau ioga ac ymlacio misol.
Mae rhai o’r mentrau newydd eraill yn cynnwys:
- Bydd Rheolwyr Llinell yn cael hyfforddiant yn fuan ar gefnogaeth empathig.
- Cynllunio gweithgareddau awyr agored yn ystod y misoedd cynhesach i annog gweithgarwch corfforol a seibiannau awyr iach.
- Annog clybiau hobïau a arweinir gan staff, yn y cnawd ac yn rhithwir, er mwyn meithrin cymuned a diddordebau a rennir.
- Rhoi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar waith i amlygu’r agweddau gwahanol ar iechyd a lles meddyliol.
- Pwysleisio pwysigrwydd egwylion rheolaidd ac annog staff i gymryd eu gwyliau blynyddol drwy gydol y flwyddyn.
- Edrych ar ymarferoldeb wythnos waith pedwar diwrnod er mwyn gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
- Caniatáu i staff gael diwrnod ychwanegol o wyliau ar eu pen-blwydd.
DIWYLLIANT O LESIANT
Mae ymrwymiad i lesiant meddyliol wedi’i ymwreiddio yn niwylliant CGGC. Rydym hefyd yn cydnabod y gall ein pobl deimlo o dan bwysau’n aml i gyflawni gwaith cyson, o safon uchel. Ni allwn gael gwared â phwysau yn y gweithle, ond gallwn greu’r amgylchedd iawn i bobl wneud eu swyddi’n dda a’u helpu i gadw ymdeimlad o les pan fyddant yn gweithio i CGGC. Rydyn ni eisiau i’n staff deimlo’n ddigon diogel i siarad am eu llesiant ac yn annog sgyrsiau â rheolwyr llinell neu ein tîm pobl. Trwy fynd ati’n weithredol i hybu a gweithredu’r mentrau hyn, rydyn ni’n gobeithio creu gweithle lle y mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i flaenoriaethu eu hiechyd meddwl.
Trwy Hapus, rydym yn ymrwymedig i ddarparu adnoddau, cymorth a chyfleoedd i wella iechyd meddwl ein staff.
Gyda’n gilydd, byddwn yn cael effaith barhaol ar lesiant meddyliol ac yn hyrwyddo dyfodol mwy iach a hapus i bawb.