Mae Eleanor Jones, Rheolwr Arloesi Cymunedol Macmillan yn CGGC, yn amlinellu pwysigrwydd ein prosiect ar y cyd newydd a’r rheswm pam ei bod hi wedi ymgymryd â’r rôl.
CEFNDIR
Rwyf yn unig blentyn, wedi fy magu yn Ystrad Mynach, cymuned yn y cymoedd. Cefais fy llorio pan fu farw fy nhad yn 2001 a daeth hyn â mam (yn y llun uchod) a minnau hyd yn oed yn agosach at ein gilydd.
Pan gafodd mam wybod fod ganddi ganser endometriaidd ym mis Chwefror 2004, roeddem yn benderfynol o’i ymladd. Ar 11 Mawrth aeth i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael hysterectomi ac, yn anffodus, canfuwyd bod y canser wedi symud i organau eraill, felly aeth hi i Felindre i gael gofal diwedd oes.
ATGOFION HAPUS YN YSTOD Y CYFNOD ANODDAF
Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Mam gyda mi i brynu fy ffrog briodas ac fe nes i a fy ngŵr hyd yn oed ddyweddio yn ystafell deulu Felindre gyda mam yn bresennol. Atgofion a fydd yn para am oes. Mae’r atgofion hynny’n deillio o un person, sef Michelle Pengelly, Nyrs Macmillan wych yn Felindre.
Rwy’n amau a wnaeth Michelle sylweddoli erioed cymaint o effaith y cafodd hi ar fy mywyd, ond fe roddodd hi rywbeth i mi na allwn i fyth fod wedi ei ddychmygu, atgofion hapus ar yr adeg anoddaf erioed. Daeth mam adref ddiwedd mis Ebrill a bu farw yn fy mreichiau ar 13 Mai 2004, dri mis ar ôl cael diagnosis.
FY SWYDDOGAETH NEWYDD
Yn ystod 2023, dechreuodd CGGC broses ailstrwythuro enfawr, a daeth rôl newydd ar gael, a’i nod yw gwella tegwch mynediad at wasanaethau gwybodaeth a chymorth canser. Mae hyn yn rhywbeth sydd wir yn agos at fy nghalon. Cefais y swydd ac rwyf bellach yn mynd ati i gwrdd â phobl a gobeithio y bydd yn arwain at newidiadau a fydd yn galluogi pobl i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd ei hangen arnynt.
Y PROSIECT
Mae Cymorth Canser Macmillan yn cynnig ystod enfawr o wasanaethau gwybodaeth a chymorth canser ond nid yw pob aelod o’r gymuned yn manteisio ar y ddarpariaeth. Fy rôl i yw darganfod pam. Beth yw’r rhwystrau? Beth yw’r datrysiadau? Mae’r gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar nodweddion gwarchodedig neu bobl a allai fod â rhwystrau eraill sy’n eu hatal rhag cael mynediad i’r wybodaeth sydd ar gael.
Mae cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn yn hanfodol i bobl â chanser a’u teuluoedd. Nod y prosiect hwn yw helpu pawb sydd â chanser i gael gafael ar y gwasanaethau gwybodaeth a chymorth sydd eu hangen arnynt, pan fyddant eu hangen fwyaf.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu tan fis Ionawr 2025 ac ar hyn o bryd rydw i’n ymweld â’r gymuned yn cwrdd â phobl ac yn cael eu hawgrymiadau ar sut i wella.
SUT GALLWCH CHI HELPU
Os hoffech chi ddweud eich dweud, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi. Gallwch anfon e-bost ataf i ar ejones@wcva.cymru, fy ffonio ar 02920 436 597 neu drwy lenwi’r holiadur hwn:
Rhagor o wybodaeth am brosiect arloesi cymunedol Macmillan.
