Happy Business people Putting Their Fist On Top Of Each Other

Gwydnwch – beth sydd mewn gair?

Cyhoeddwyd: 04/04/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Sian Eager

Yma, mae Sian Eagar, Swyddog Gwydnwch CGGC, yn siarad am ddatblygu ein dull o gynorthwyo’r sector â gwydnwch eu mudiadau.

Mae gwydnwch yn air sydd wedi’i ddefnyddio fynych wrth ddadansoddi ymateb y sector gwirfoddol i’r pandemig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

I CGGC, roedd cefnogi gwydnwch y sector gwirfoddol yng Nghymru yn flaenoriaeth strategol allweddol cyn y pandemig ac mae’n parhau i fod wrth wraidd ein gwaith.

Wrth i’r sector gwirfoddol yng Nghymru wynebu heriau newydd yn sgil adfer o’r pandemig, Brexit a digwyddiadau byd-eang, byddwn ni’n mynd ati yn CGGC i ddefnyddio’r cysyniad o wydnwch fel ffordd o rymuso a galluogi mudiadau gwirfoddol i hybu eu hachos a gwasanaethu eu buddiolwyr yn y ffordd orau bosibl.

DEALL GWYDNWCH

Fel pwynt dechrau ar gyfer datblygu ein dull o ymdrin â gwydnwch, comisiynodd CGGC waith ymchwil i edrych ar ddealltwriaeth bresennol y sector gwirfoddol o’r cysyniad. Cafodd y gwaith ei wneud gan Grow Social Capital ac mae gwybodaeth am eu canfyddiadau wedi’i rhannu yn y blog hwn: Our 13 insights into resilience (Saesneg yn unig).

Gwnaeth yr ymchwil ddangos i ni fod eisoes diddordeb a gwerthfawrogiad go iawn o’r angen am wydnwch yn y sector gwirfoddol ac o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag adeiladu hwn o fewn mudiad gwirfoddol. I rai, roedd arwyddocâd mwy negyddol i’r cysyniad a beirniadodd yr ymatebwyr y ffordd y gellir ei ddefnyddio ar brydiau.

Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn y mae mudiadau yn ei ddweud wrthym am wydnwch, a gwnaeth canfyddiadau’r gwaith ymchwil ddarparu platfform i CGGC adeiladu ein rhaglen waith mewn modd a fydd, gobeithio, yn atseinio gyda’r sector ar hyd a lled Cymru.

EIN HYMATEB I’R 13 O FEWNWELEDIADAU

Diffiniad o wydnwch

Un o nodau’r gwaith ymchwil oedd profi diffiniad CGGC o wydnwch mudiadau. Ar sail y canfyddiadau, rydyn ni wedi mireinio ein diffiniad o wydnwch y sector gwirfoddol:

‘Gallu mudiad i gynllunio ar gyfer, ymateb i, ac addasu i newid, gan ei alluogi i oroesi a ffynnu nawr ac yn y dyfodol.’

Byddwn ni hefyd yn hyrwyddo gwydnwch fel cysyniad rhagweledol, sy’n ymwneud â bod yn hyblyg ac addasu a galluogi mudiadau i ddatblygu a ffynnu. Dengys y gwaith ymchwil i ni fod angen i CGGC gyfleu’r dehongliad cadarnhaol hwn o wydnwch mewn modd cryf a chlir (ac osgoi casgliadau bod gwydnwch yn tanseilio’r sector neu’n gofyn iddo wynebu adfyd ar ei ben ei hun).

Nodweddion gwydnwch

Cam nesaf ein gwaith ar wydnwch yw pennu amrediad o nodweddion neu rinweddau y gall mudiadau gwirfoddol weithio arnynt er mwyn cynyddu eu gwydnwch. Fe wnawn ni alw’r rhain yn ‘nodweddion gwydnwch’. Canfu’r gwaith ymchwil fod y meysydd y gwnaethom ni eu nodi ar y dechrau yn atseinio’n gryf gyda’r sector, ond awgrymodd ymatebwyr rai nodweddion ychwanegol y byddwn ni’n ceisio eu cynnwys yn ein model.

Y daith i gynyddu gwydnwch

Mae CGGC yn sylweddoli y bydd mudiadau ar wahanol gamau o’u datblygiad a chyda gwahanol anghenion a blaenoriaethau. Bydd yr anghenion a’r blaenoriaethau hyn hefyd yn amrywio dros amser. Nod CGGC yw defnyddio ein diffiniad o wydnwch, a’r nodweddion gwydnwch a nodwyd gennym ni, fel sylfaen i adeiladu rhaglen gymorth a fydd yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i fudiadau gwirfoddol ar bob cam o’u taith i gynyddu gwydnwch.

Y darlun ehangach

Er bod rhaglen cyngor a chymorth CGGC yn canolbwyntio ar wydnwch mudiadau, rydyn ni’n gwerthfawrogi na ellir gwahanu hyn yn gyfan gwbl o wydnwch unigolion, cymunedau a’r sector ehangach.

Mae pob un ohonom yn rhan o ecosystem â rhyngddibyniaethau sylweddol. Mae ein tîm polisi yn CGGC yn parhau i weithio ar y materion mawr hynny, gan sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed, a chyfraniad mudiadau gwirfoddol yn cael ei gydnabod – mewn sgyrsiau ynghylch Codi’r Gwastad, costau byw, hawliau dynol a’r ymateb dyngarol i’r rhyfel yn Wcráin, ymhlith pethau eraill.

HERIAU I DDOD

Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi wynebu llawer o heriau ac mae mwy i ddod. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod ansicr a brawychus, ac wrth i’r rhyfel barhau yn Wcráin, gwyddom y bydd effeithiau hirdymor a fydd hefyd yn cael eu teimlo yn ein sector ni yng Nghymru.

Bydd gallu mudiad i ymateb i’r heriau hyn, gan lynu at ei weledigaeth a’i genhadaeth, yn gofyn am wydnwch, ac mae CGGC yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo’r sector fel y gallwn ni wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

MWY AM WYDNWCH

I glywed mwy am waith CGGC ar wydnwch, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr lle byddwn ni’n rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau pellach.

Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn clywed am eich profiadau o’r hyn sydd ei angen i gynyddu gwydnwch mudiad a’r rhwystrau i wneud newid parhaus. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhannu eich stori, anfonwch e-bost ataf – seagar@wcva.cymru.