Dyma ein Swyddog Grantiau – Effaith a Gwirfoddoli, Lilla Farkas, yn rhannu rhai pethau allweddol a ddysgodd o Ddigwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth BAWSO ar ddileu Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.
Ar 6 Chwefror 2025, cefais gyfle i fynd i ddigwyddiad hynod bwerus a phryfoclyd gan Bawso yn Abertawe. Wedi’i gynnal ar y Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)*, gwnaeth y digwyddiad ddwyn ynghyd oroeswyr, llunwyr polisi, cefnogwyr a gweithwyr rheng flaen i gyfnewid gwybodaeth, rhannu profiadau bywyd a thrafod camau ymarferol tuag at ddileu FGM.
Gyda mwy na 230 miliwn o fenywod a merched wedi dioddef FGM yn fyd-eang – ffigur sy’n debygol o gynyddu yn y blynyddoedd i ddod – ni fu erioed cymaint o frys i atal y math hwn o drais ar sail rhywedd. Gwnaeth y digwyddiad bwysleisio gwerth atal, cymorth a newid polisi, gyda siaradwyr yn cynnig cymysgedd o fewnwelediadau personol, trafodaethau a yrrwyd gan ddata a galwadau i weithredu.
LLEISIAU GOROESWYR WRTH WRAIDD NEWID
Gwnaeth Prif Swyddog Gweithredol Bawso, Samsunear Ali, agor y digwyddiad drwy bwysleisio pwysigrwydd gweithio’n uniongyrchol gyda goroeswyr a chymunedau. Amlygodd sut mae Bawso yn integreiddio adborth goroeswyr i mewn i’w gwasanaethau a’u polisïau, a bod dau oroeswr yn eistedd ar fwrdd y mudiad bellach.
Mae gwaith Bawso yn canolbwyntio ar atal a chodi ymwybyddiaeth, gan sicrhau bod menywod yn deall ei hawliau dynol sylfaenol ac yn cael yr adnoddau i herio anghyfiawnderau.
GWASANAETHAU CYMORTH, IECHYD A THRAWMA
Siaradodd Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol (VAWDASV), am effeithiau gydol oes FGM. Yn aml, bydd goroeswyr yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), poen cronig a chymhlethdodau wrth roi genedigaeth, ac weithiau, byddant dim ond yn darganfod maint llawn y niwed flynyddoedd yn ddiweddarach.
Cafodd hyn ei gyfleu’n bwerus mewn fideo yn dangos goroeswyr yn rhannu eu profiadau bywyd a’r effaith barhaol ar eu bywydau. Gwnaeth hefyd bwysleisio’r angen am ôl-ofal a chymorth iechyd meddwl arbenigol, gan alw am gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cymorth i oroeswyr.
Amlygodd y Cyng. Alyson Anthony rôl dyngedfennol gwleidyddiaeth leol mewn mynd i’r afael â VAWDASV drwy bolisi, cyllid a chydweithio â mudiadau gwirfoddol. Pwysleisiodd yr angen am ymyrraeth gynnar a sicrhau bod goroeswyr yn derbyn cymorth priodol. Cydnabu’r heriau o ran bylchau mewn cyllid a chydlynu gwasanaethau, gan gadarnhau pwysigrwydd dull gweithredu unedig.
BYLCHAU MEWN DATA – RHWYSTR I WEITHREDU’N EFFEITHIOL
Gwnaeth Nancy Lidubwi o Bawso bwysleisio’r angen i gasglu data gwell er mwyn hysbysu gwasanaethau a pholisïau. Mae’r data diwethaf ar FGM o gyfrifiad yn y DU yn dyddio’n ôl i 2011, ac nid yw llawer o achosion yn cael eu hadrodd. Mae’r bylchau yn y data yn ei gwneud hi’n anodd i fudiadau fel Bawso gynllunio gwasanaethau a chael y cyllid sydd ei angen ar gyfer rhaglenni atal a chymorth.
Er bod y DU wedi cryfhau ei fframwaith cyfreithiol yn erbyn FGM, mae grymuso yn parhau i fod yn heriol. Dim ond tair euogfarn sydd wedi’u gwneud o dan y Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (2003), sy’n dangos pa mor anodd yw hi i erlyn achosion.
Yn ystod y drafodaeth banel, codwyd cwestiwn ynghylch a yw’n well canolbwyntio ar atal yn hytrach nac erlyn. Roedd y consensws yn glir: mae’r ddau yn hanfodol. Er bod deddfwriaeth yn chwarae rhan dyngedfennol, mae atal trwy addysg, ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â chymunedau yn hanfodol i stopio FGM cyn iddo ddigwydd.
PLISMONA A MESURAU DIOGELU
Siaradodd cynrychiolydd o Heddlu De Cymru am eu gwaith ar geisio trechu cam-drin ar sail anrhydedd, priodasau gorfodol ac FGM. Mae swyddogion yn cael hyfforddiant arbenigol, ac mae Tîm Gorchmynion Ataliol yn edrych ar ddigwyddiadau’n ddyddiol er mwyn rhoi mesurau diogelu ar waith. Mae’r ap ‘Vulnerability’ yn cefnogi swyddogion rheng flaen drwy eu tywys drwy’r camau angenrheidiol a’u cysylltu â gwasanaethau perthnasol. Mae digwyddiadau ymgysylltu â goroeswyr gan Bawso hefyd wedi rhoi mewnwelediadau allweddol i wella cymorth yr heddlu i ddioddefwyr.
RHAID I DDYNION FOD YN RHAN O’R DATRYSIAD
Amlygodd nifer o siaradwyr mai ymarfer diwylliannol, nid crefyddol, yw FGM, a chaiff ei barhad ei hybu’n aml gan bwysau cymdeithasol. Gwnaeth Hillary Logohe, gwirfoddolwr gyda Bawso, siarad yn frwd am y rôl dyngedfennol y mae dynion yn ei chwarae mewn herio a chwalu’r arferion diwylliannol niweidiol sy’n cefnogi FGM. Trwy gynnwys dynion yn y sgyrsiau pwysig hyn, gallwn newid agweddau cymdeithasol a sicrhau bod y cyfrifoldeb dros newid yn cael ei rannu ar draws cymunedau.
MYND I’R AFAEL AG FGM YN UGANDA
Siaradodd Rooda Ahmed, Rheolwr Prosiect FGM, am y cynnydd sylweddol y mae Bawso wedi’i wneud o ran mynd i’r afael ag FGM yn ardal Sebei, Uganda, drwy brosiect a gyllidwyd gan gynllun Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Trwy bartneru â Phrosiect Grymuso Cymunedol Sebei, mae Bawso yn gweithio’n agos gydag arweinwyr lleol, ysgolion a chymunedau i godi ymwybyddiaeth a herio arferion diwylliannol niweidiol.
Mae allgymorth y prosiect yn cynnwys ymgyrchoedd o ddrws i ddrws, sioeau radio a gweithdai i hynafiaid a phlant ysgol, ac mae mwy na 700 o fyfyrwyr wedi’u haddysgu ar beryglon FGM a’u grymuso i weithredu.
Mae gwaith Bawso yn Uganda yn fuddiol i Gymru hefyd drwy sesiynau ymgysylltu cymunedol yn Abertawe a Chaerdydd. Mae’r prosiect wedi codi ymwybyddiaeth o FGM mewn ysgolion lleol, fel Ysgol Uwchradd Pentrehafod, a chyda grwpiau cymunedol, fel rhan o’u gwaith ehangach ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Mae Bawso hefyd wedi creu deunyddiau addysgol dwyieithog ar FGM, gan rannu’r adnoddau hyn gyda chymunedau yng Nghymru a chyda’u partneriaid yn Uganda. Mae’r ymdrechion hyn yn helpu i gysylltu’r ddau ranbarth a chefnogi nodau ehangach Cymru i drechu trais yn erbyn menywod a merched.
MAE GWAITH I’W WNEUD O HYD
Roedd y digwyddiad yn agoriad llygad i’n hatgoffa nad rhywbeth pell i ffwrdd yw FGM, mae’n digwydd yn y DU hefyd. Nid yw’r un awdurdod lleol yng Nghymru yn rhydd rhag FGM, ac er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, mae angen gwneud mwy i ddiogelu menywod a merched mewn perygl. Mae lleisiau goroeswyr, ymgysylltu cymunedol, ewyllys gwleidyddol a chydweithio ar draws sectorau i gyd yn dyngedfennol i’r frwydr hon.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Sebei ar wefan Bawso. I gael gwybod mwy am ein cynllun grant Cymru ac Affrica, ewch i dudalen y cynllun.
*Saesneg yn unig