Gwrando a Rhannu: Sgyrsiau gyda Chymunedau

Cyhoeddwyd: 17/12/20 | Categorïau: Awdur: Hannah Ormston

Mae Hannah Ormston, Swyddog Polisi a Datblygiad ‘Carnegie UK Trust’, yn adrodd ar rai o ganfyddiadau eu gwaith ymchwil newydd, Prosiect Gwrando COVID-19 a Chymunedau: Ymateb Cyffredin (Saesneg yn unig), ledled Cymru a’r DU gyfan.

‘Mae’r pendil yn siglo, a’n rôl ni yw ei ddal er mwyn ei atal rhag siglo yn ôl i’r drefn arferol.’ – Cyfranogwr Covid-19 a Chymunedau

Ar ôl naw mis o fyw gyda realiti COVID-19, rydyn ni wedi cael llygedyn o obaith yn ystod yr wythnosau diwethaf: y newyddion am frechlyn a fydd yn cael ei gyflwyno’n raddol ledled y DU. D’oes syndod felly bod hyn wedi sbarduno sgyrsiau ynghylch y posibiliadau o ddychwelyd i ‘normal’ – hynny yw, bywyd fel ag yr oedd i ni cyn mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, drwy gydol y pandemig, mae llawer wedi amlygu (Saesneg yn unig) pam nad dychwelyd i ‘normal’ yw’r canlyniad dymunol mwyach, na’r opsiwn dichonadwy, yn enwedig i’r lliaws a gafodd eu gadael ar ôl cyn i’r pandemig ddechrau.

Mae argyfwng COVID-19 wedi effeithio ar bob dimensiwn o’n bywydau ac wedi ein hatgoffa o’r hyn sydd ei angen i fyw bywyd da. Os ydyn ni eisiau llwyr ddeall ble mae’r bylchau’n parhau, a gweithredu ar y dysgu a rannwyd, mae gwrando ar brofiadau lleol a lleisiau pobl yn y gymuned yn hanfodol. Gydag hyn mewn golwg, ym mis Ebrill 2020 – yng nghanol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud cenedlaethol – dechreuodd Carnegie UK Trust  brosiect gwrando (Saesneg yn unig) gyda chynrychiolwyr o’r trydydd sector a’r llywodraeth leol ledled y DU i ddysgu mwy am ymatebion cymunedau i’r pandemig. Yn y chwe mis a ddilynodd, cawsom fwy nag 80 o sgyrsiau gyda chyfranogwyr o amrediad amrywiol o leoedd: o Ferthyr Tudful a Threorci yng Nghymru; i Paisley, Dwyrain Ayrshire a Dumfries yn yr Alban; Broughshane a Fermanagh yng Ngogledd Iwerddon; a Camden, Caerhirfryn, Scarborough a Todmorden yn Lloegr. Clywsom gan gymunedau – mawr a bach – ynghylch eu profiadau.

Yn ystod y sgyrsiau hyn, disgrifiwyd yr ymatebion lleol i’r pandemig fel ‘organaidd’ ac ‘eithriadol’. Gwnaeth llawer nodi’r uchelgais gyfunol o ddod at ein gilydd i ateb ac ymateb; i fod yn berthynol yn anad dim ac i ‘fod yno’ i’r rheini a oedd angen cymorth. Er enghraifft, clywsom am brofiad trawiadol un cyfranogwr yn Nhreorci, a ddisgrifiodd yr adeg pan gollwyd ffigwr allweddol o’r gymuned yn ystod y pandemig, a darllenodd yr offeiriad lleol y bregeth ar y stryd.

Gwnaeth ein sgyrsiau daflu golau llachar ar waith Cyngor y Gwasanaethau Gwirfoddol (CVS) a wnaeth, gyda’r wybodaeth a’r rhwydweithiau a oedd ganddyn nhw eisoes, ymddwyn fel llinyn euraidd rhwng sectorau a gwasanaethau, gan ailgyfeirio eu dulliau gweithredu’n gyflym. Gwnaethant hefyd ddatgelu bod llawer o’r rhwystrau a oedd yn arfer bodoli wrth geisio cael cydweithrediad rhwng yr awdurdod lleol, y sector gwirfoddol a’r gymuned wedi mwy neu lai diflannu dros nos. Eto i gyd, yn ogystal ag amlygu llawer o alluoedd, gwnaeth y sgyrsiau ddangos bod llawer o anghyfartaledd yn parhau, yn enwedig o ran allgau digidol (Saesneg yn unig), ynysu cymdeithasol ac iechyd meddwl, yr aflonyddwch ar wasanaethau parhaus i’r rheini yn y gymuned adfer, a mynediad at fwyd ac eitemau hanfodol. Ym Merthyr Tudful, ymatebodd cymdeithasau tai i’r anghenion bwyd drwy osod oergelloedd bwyd yn y gymuned i alluogi pawb i gymryd y bwyd oedd arnynt ei angen. Yn Nhreorci, aethant ati i geisio mynd i’r afael â heriau unigrwydd ac ynysu drwy gynnal cwisiau tafarn o bell a bingo ar y stryd, ac anghyfartaledd bwyd gyda busnesau fel tafarndai a bwytai yn cludo prydau bwyd poeth, a threfnwyr blodau yn darparu ffrwythau a llysiau.

Dangosodd y sgyrsiau hyn bod gwerth mewn dwyn ynghyd profiadau cyffredin pobl sy’n gweithio ar hyd a lled y DU, ac o fewn bob sector. Er bod gan bob cymuned ei stori unigryw ei hun – bydd cydweithio, cefnogi ei gilydd a rhannu dysgu yn hanfodol ar gyfer symud ymlaen. Mae Prosiect Gwrando COVID-19 a Chymunedau: Ymateb Gyffredin (Saesneg yn unig) yn cynnig enghreifftiau diriaethol ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer llunwyr polisi, cyllidwyr ac arweinwyr ledled y DU. Mae’n ceisio ysgogi a llywio meddylfryd – ac yn bwysicach oll, camau gweithredu pobl – wrth i ni symud tuag at gynllunio ar gyfer adferiad tymor canolig. Mae ‘Carnegie UK Trust’ yn credu mai’r cam cyntaf sylfaenol yw gwrando, rhannu a bod yn agored i newid.