Gofynnwyd i Lafur Cymru, Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru lunio blog ar ein cyfer ni yn seiliedig ar eu gweledigaeth am ddyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru. Byddwn ni’n eu postio drwy gydol yr wythnos hon. Heddiw, byddwn ni’n dechrau trwy’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn diolch i’r sector am ei waith anhygoel yn ystod y pandemig.
Ers amser hir, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn rhan annatod o’n cymunedau a’n gwasanaethau lleol ar draws Cymru – chi yw’r glud amhrisiadwy sy’n dal ein cymunedau at ei gilydd.
Nid yw’r agwedd anhygoel hon wedi bod yn fwy amlwg nag yn ystod y 15 mis diwethaf lle y gwelwyd pobl o bob oedran a phob cefndir – fel chi – yn mynd i’r afael â’r heriau anferthol y cyflwynodd pandemig Covid-19 i ni i gyd.
Mae hefyd yn bwysig nodi’r ymateb syfrdanol i’r llifogydd a effeithiodd ar nifer o gymunedau yng Nghymru ychydig cyn i’r pandemig gyrraedd ein gwlad. Hefyd, pwysleisiodd yr ymateb hwn i’r rhai mewn angen brys pa mor bwysig yw pob gwirfoddolwr a phob math o wirfoddolwr i wydnwch ein cymunedau.
Mae’r heriau y mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hachosi hefyd wedi pwysleisio grym a photensial gweithredu gwirfoddol ac ysbryd cymunedol ac mae wedi cyrraedd pob cornel o’n cenedl wych.
Roedd Wythnos Gwirfoddolwyr eleni a gynhaliwyd ym mis Mehefin yn arbennig o ingol. Roedd hi’n gyfle priodol iawn i ddweud DIOLCH anferthol wrth bob person ac wrth bob mudiad sydd wedi rhoi o’i amser i helpu, i gefnogi, ac i ailadeiladu ein cenedl.
Diolch yn fawr i chi.
Edrych ymlaen
Rwy’n falch bod gennym ni ddiwylliant gwirfoddoli mor gryf yng Nghymru. Trwy isadeiledd cymorth hirsefydlog – gan gynnwys llwyfan Gwirfoddoli Cymru CGGC a gynhelir mewn cydweithrediad â Chynghorau Gwirfoddol Sirol – gall ein gwirfoddolwyr a’n mudiadau gydweithio’n agos ac yn llwyddiannus â gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol, a byrddau iechyd.
Drwy gydol y pandemig, rydych chi wedi parhau i gyflenwi gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau ar draws ystod anferthol o feysydd, yn aml, yn wyneb adfyd ac er gwaethaf ansicrwydd dros incwm a achoswyd gan lai o gyfleoedd i godi arian.
Roeddwn i’n falch iawn ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gallu gwneud cefnogi’r sector gwirfoddol yn flaenoriaeth gan gynnig pecyn o gymorth a dyfodd i dros £32 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Ond, rydyn ni’n gwybod nad yw’r holl broblemau y tu ôl i ni ac, ar yr un pryd, mae’r sector gwirfoddol yn wynebu heriau mawr o hyd. Mae mudiadau gwirfoddol, o’r elusennau mawr i grwpiau cymunedol anffurfiol, wedi gorfod newid darpariaeth gwasanaethau dros nos. Mae angen capasiti ar y mudiadau hyn i addasu ac i adeiladu gwydnwch ar gyfer y sefyllfaoedd annisgwyl yr ydym yn eu hwynebu o hyd.
Pan oedden ni yn nyfnderoedd argyfwng o hyd, dechreuais broses gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i archwilio pa rôl y gallai gwirfoddolwyr a’u mudiadau ei chwarae wrth adfer o’r pandemig.
Rwy’n awyddus ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o gynyddu i’r eithaf manteision y newidiadau cadarnhaol rydyn ni wedi’u profi o ran gwirfoddoli, gweithio mewn partneriaeth, a gweithredu lleol a allai gynnig buddion go iawn nawr ac yn y dyfodol.
Dyna pam bod gennym ni elfen strategol a ariennir i’n Grant Gwirfoddoli Cymru, a weinyddir gan CGGC, i gefnogi prosiectau a fydd yn helpu i gyflenwi buddion sylweddol hirdymor ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru trwy ddatgloi potensial, chwalu rhwystrau, a plannu newid. Gallwch chi ddod o hyd i fanylion am y grant newydd a’r Cynllun Adfer ar ôl COVID-19 yma.
Mae’r Prif Weinidog a minnau’n awyddus i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach, a thecach ac i ddod o hyd i ffyrdd o fanteisio ar y newidiadau cadarnhaol rydyn ni wedi’u profi – gan adeiladu ar y cyfleoedd a’r momentwm y mae’r pandemig wedi’i greu o amgylch gwirfoddoli a gweithio mewn partneriaeth.
Wrth wneud hyn, gallwn ni wireddu ein huchelgeisiau cyffredin o adfer sy’n profi cymunedau cynaliadwy a bywiog ar draws Cymru gyfan. Gyda chi, gwirfoddolwyr ein cenedl, wrth ei chalon – fel bob tro.
DARLLEN MWY
Mae angen i ni groesawu cyd-gynhyrchu, gan symud y tu hwnt i’r rhethreg… gan Mark Isherwood AS
Mae gwirfoddoli yn rhan gynhenid o’r wlad hon ac rwy’n falch o hynny gan Peredur Owen Griffiths AS