RNLI volunteers in flooded highstreet

Gwirfoddolwyr yn barod i helpu mewn argyfwng

Cyhoeddwyd: 06/12/22 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae angen i wirfoddolwyr gael eu hintegreiddio’n well mewn cynlluniau cenedlaethol ar gyfer argyfyngau sifil ledled Cymru. Mae fframwaith newydd yn amlinellu’r hyn sydd ei angen.

Mae gwirfoddolwyr yn adnodd hanfodol pan ddaw hi i ymateb i argyfyngau lleol neu genedlaethol. Yn aml y rhai cyntaf ar y safle, gallant roi help a chefnogaeth brys tan fydd y gwasanaethau brys yn cyrraedd.

STORI LIVIA

Dechreuodd Livia wirfoddoli gyda’r Groes Goch Brydeinig mewn canolfan frechu torfol yn ystod pandemig COVID-19. Ysgrifennodd:

‘Rwyf wedi bod â diddordeb brwd yn yr amgylchedd meddygol ers tro byd ac roeddwn i eisiau bod o gymorth. Dechreuais helpu yn Venue Cymru, yn croesawu pobl ac yn cynorthwyo â’r ciw, yn dosbarthu masgiau ac yn gwirio cymhwysedd pobl.

Unwaith, daeth menyw ifanc i mewn yn crynu mewn ofn wrth feddwl am frechiadau. Arhosais gyda hi a bu modd i mi gyflymu ei thaith drwy’r ciw. Pan ddaeth ei thro i gael y brechiad, ni ellais fynd i mewn gyda hi, ond fe chwifiodd ei llaw arnaf wrth iddi adael – roedd hi’n iawn.

Yn ddiweddarach, cefais gylchlythyr gan y Groes Goch Brydeinig, yn gwahodd pobl i ystyried dod yn Wirfoddolwr Ymateb Brys. Mae’r rôl newydd hon yn golygu bod ar alwad ar adegau cytunedig ac yn barod i roi cymorth ymarferol a seico-gymdeithasol i bobl ar ôl digwyddiad.

mae bod yn wirfoddolwr yn gyfrifoldeb mawr. Gallwn ni yrru cerbyd y Groes Goch sydd â batris, goleuadau, blancedi, dillad, dŵr ac offeryn berwi dŵr – a bocs o ffurflenni i’w cwblhau. Rydyn ni’n gwirfoddoli mewn parau.

Y frigâd dân, neu wasanaethau brys eraill, sydd fel arfer yn cyrraedd y safle’n gyntaf. Gallwn ni gael ein galw i roi cymorth emosiynol a logistaidd. Synnais gymaint o gyfrifoldeb roedden ni’n ei gael, pan oedd angen.

Ond fel gwirfoddolwyr, rydyn ni’n cael ein paratoi’n dda, a mae cefnogaeth staff ar gael 24/7. Mae llawer o hyfforddiant, gan gynnwys efelychu sefyllfaoedd brys mewn sesiynau chwarae rôl. Mae rhywfaint ohono’n orfodol a rhywfaint yn ddewisol. Rwy’n teimlo fy mod yn fwy na pharod, ond mae elfen o bryder wrth i mi fynd i’m galwad cyntaf, yn gobeithio y bydda i’n gwneud popeth yn iawn.’

FFRAMWAITH NEWYDD

Gwnaeth y Groes Goch Brydeinig arwain prosiect yn ddiweddar i ddatblygu fframwaith i wella’r gwaith o gydlynu gwirfoddolwyr a galluogi sgiliau gwirfoddolwyr i gael eu defnyddio’n llawn wrth ymateb i argyfyngau sifil. Cefnogwyd y fenter gan Grŵp Gwydnwch Cymunedol Cymru, (fforwm sy’n cynnwys partneriaid o’r trydydd sector, Llywodraeth Cymru a’r pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol (LRF) yng Nghymru), sydd wedi’i gyllido gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru a’i ymgymryd gan ‘Richard Newton Consulting’.

Nod y fframwaith terfynol yw sicrhau bod y sector gwirfoddol yn cael ei gynrychioli’n uniongyrchol ar fforymau cynllunio allweddol ac o fewn timau adfer o ddigwyddiadau penodol. Mae’n argymell dibynnu ar strwythurau presennol yn hytrach na rhai newydd, gan gynnwys defnyddio mwy o wirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar argyfyngau o fudiadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol.

‘Mae gwirfoddolwyr wedi bod ar y rheng flaen yn yr ymatebion i lifogydd, COVID-19, Wcráin, Affganistan ac yn ddiweddar, marwolaeth EM Y Frenhines Elizabeth II’, meddai Kate Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Croes Goch Brydeinig Cymru.

‘Mae’r sector gwirfoddol yn cael ei adnabod fel rhan hanfodol o’r ymateb brys, ond mae angen iddo gael ei integreiddio’n fwy effeithiol yn ein strwythurau cynllunio at argyfwng’.

BETH NESAF?

‘Mae cyfle euraidd am newid’ meddai Henry Barnes, Rheolwr Gweithrediadau Ymateb Brys – Cymru ‘oherwydd mae adolygiad cenedlaethol o strwythurau gwydnwch yng Nghymru yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chydweithwyr cynllunio brys o Fforymau Gwydnwch Lleol. Mae hwn yn rhoi’r cyfle i ni fwydo argymhellion ein hadroddiad i mewn i’r sgwrs’.

Mae adroddiad y prosiect yn amlygu’r angen am fapio a chofnodi gallu a chapasiti mudiadau’r sector gwirfoddol i gyfrannu at ymatebion brys sifil.

Bydd platfform Gwirfoddoli Cymru newydd, a fydd yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2023, yn cefnogi hyn. Bydd gwirfoddolwyr yn gallu cofrestru i ymuno â chronfa o ‘wirfoddolwyr brys’, a chofnodi unrhyw sgiliau perthnasol a allai fod ganddynt. Yn yr un modd, bydd mudiadau â gallu gwirfoddol i ymateb i argyfwng yn cael eu hannog i gofrestru eu manylion ar y platfform. Fel hyn, bydd yn dod yn adnodd hanfodol i gynorthwyo’r rheini sy’n arwain ymatebion brys, gan alluogi gweithredu gwirfoddol lleol cydlynol, wedi’i dargedu.

Gellir lawrlwytho’r adroddiad, Fframwaith ar gyfer Cydlynu gwirfoddolwyr mewn sefyllfaoedd ymateb brys (Cymru) Gorffennaf 2022 yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda’r Groes Goch Brydeinig yma.

Mae fforymau gwydnwch cenedlaethol a lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gryfhau parodrwydd, adeiladu gallu cyfunol a gwella gwydnwch, yn unol â’r gofynion a nodir yn Neddf Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Darllenwch fwy yma.

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.