Gwirfoddolwyr yn amddiffyn menywod yn ystod y pandemig

Gwirfoddolwyr yn amddiffyn menywod yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd: 02/06/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Alex Congreve

Mae Alex Congreve o Cymorth i Fenywod Caerdydd yn esbonio’u cenhadaeth i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, a sut y bu iddynt dderbyn achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Mae Cymorth i Fenywod Caerdydd (CWA) yn falch iawn o fod yn sefydliad achrededig Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr, gan ennill y dyfarniad am y trydydd tro ym mis Ebrill 2020.

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, ac yn gobeithio bod y wobr hon yn amlygu ein hymrwymiad i gynnwys ein gwirfoddolwyr mewn ffordd ystyrlon, barchus a gwerthfawr.

Yr hyn a wnawn

Mae Cymorth i Fenywod Caerdydd yn gweithio tuag at weld pob ffurf ar drais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol yn dod i ben.

Ein cenhadaeth yw trawsnewid ymateb cymdeithas i drais yn erbyn menywod a merched, ac yn arbennig i drais yn y cartref a thrais rhywiol, a hynny trwy’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i’r sawl yr effeithir arnynt.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys llety mewn argyfwng, gwaith 1:1 a gwaith grŵp, fforwm ar-lein i’r sawl sydd wedi dod trwyddi, cwnsela, gwaith allgymorth, ymgyrchu, amrywiaeth o weithdai rhannu sgiliau, a chyfleoedd eraill i wirfoddoli.

Sefydlwyd gan wirfoddolwyr

Sefydlwyd ein mudiad gan wirfoddolwyr yn 1975, a dywed Cadeirydd ein Hymddiriedolwyr, Dr Rachel Minto, ‘Cafodd ein llochesi eu sefydlu gan wirfoddolwyr; ni fyddai hynny wedi digwydd o gwbl heb y gweithredu gwirfoddol’.

Mae gwirfoddolwyr yn rhan ganolog o’r gwaith o gyflawni gwasanaethau Cymorth i Fenywod Caerdydd, ac maent wedi bod yn ffynhonnell gymorth hollbwysig i ni dros y blynyddoedd.

Rydym wastad yn ymdrechu i ddarparu awyrgylch cefnogol a chroesawgar i’n gwirfoddolwyr, a bydd ennill yr achrediad hwn gan Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr yn ein helpu i brofi, gwella a hyrwyddo ein hamrediad eang o gyfleoedd gwirfoddoli.

Dyma sydd gan un o’n gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’n tîm cyfryngau cymdeithasol i’w ddweud, “Mae gwirfoddoli gyda Cymorth i Fenywod Caerdydd yn gwneud i mi deimlo fy mod i wir yn gallu meithrin ymwybyddiaeth am faterion megis trais yn y cartref a hawliau merched, gan helpu i ysgogi newid.

Efallai nad yw hyn ar raddfa eang, ond mae’n teimlo’n fuddiol ac yn werthfawr.

Yn aml, mae gwirfoddoli’n cael ei ystyried yn rhywbeth diflas, sy’n cael ei wneud er mwyn ‘edrych yn dda’, ond nid dyna fy mhrofiad i o wirfoddoli gyda Cymorth i Fenywod Caerdydd. Mae’n gyffrous ac yn rhoi boddhad mawr i mi – rwyf wrth fy modd!”.

Heriau yn ystod y pandemig

Yn y cyfnod ansicr hwn, mae ein sefydliad yn addasu’n gyflym i gyfleoedd gwirfoddoli sy’n fwy rhithwir, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i’n tîm gwirfoddoli am fod mor hyblyg ac addasol i’r newidiadau annisgwyl hyn.

Er gwaethaf yr heriau y mae’r cyfyngiadau wedi eu hachosi, maent wedi rhoi i ni gyfleoedd gwirfoddoli a phrosiectau newydd a phwysig, ac mae lle i ganmol ein gwirfoddolwyr am ymateb i’r her mor sydyn.

Yn bwysig, rydym wedi canolbwyntio ar wirio llesiant ein tîm gwirfoddoli trwy gysylltu’n gyson ar Zoom, anfon negeseuon e-bost a ffonio, a thrwy symud ein cyfleoedd gwirfoddoli i amrywiol lwyfannau ar-lein.

Dywedodd un o’n gwirfoddolwyr mewn arolwg llesiant gwirfoddolwyr yn ddiweddar: “Rwy’n meddwl eich bod chi i gyd yn gwneud cymaint … ac rwy’n cael llawer iawn o foddhad o’r profiad! Mwy nag yn unman arall!”

Os hoffech chi wirfoddoli gyda ni, ewch i’n gwefan  neu cysylltwch â ni !

Wedi’r pandemig

Pan fyddwn yn dod allan o’r cyfnod hwn, rydym yn bwriadu dathlu’r wobr hon (mewn modd cyfrifol, wrth gwrs!) gyda’n gwirfoddolwyr a’n staff.

Rydym hefyd yn gobeithio adfywio ein caffi cyngor a’n prosiectau garddio therapiwtig, dau brosiect dan arweiniad gwirfoddolwyr sydd, yn drist iawn, wedi gorfod cael eu rhoi i’r neilltu am y tro.

Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym mor ddiolchgar i’n tîm anhygoel a gwydn o wirfoddolwyr, sydd wedi addasu’n wych i ffyrdd newydd a gwahanol o wirfoddoli.

Rydym yn hynod o falch o fod wedi cael y wobr Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr hon, sy’n cydnabod gwaith caled aelodau cymuned Cymorth i Fenywod Caerdydd – boed yn staff neu’n wirfoddolwyr!

Dilynwch ni ar:

Twitter: https://twitter.com/cardiffwaid

Instagram: https://www.instagram.com/cardiffwomens_aid/

Facebook: https://www.facebook.com/CardiffWomensAid/