Gwirfoddolwyr a phobl o'r sector gwirfoddol yng Nghymru yn ymuno â phobl enwog o Gymru a'r Prif Weinidog Keir Starmer yn 10 Downing Street ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi.

Gwirfoddolwyr wrth wraidd dathliad Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd: 04/03/26 | Categorïau: Dylanwadu,Gwirfoddoli,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Matthew Brown

Siarada Matthew Brown, Dirprwy Brif Weithredwr CGGC, am y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi diweddar yn 10 Stryd Downing a’r rôl mae gwirfoddoli yn ei chwarae yn niwylliant, bywyd cymunedol a hunaniaeth genedlaethol Cymru.

SBOTOLAU CENEDLAETHOL AR WIRFODDOLI YNG NGHYMRU

Cafodd gwirfoddolwyr eithriadol o bob cwr o Gymru, gan gynnwys enillwyr ac eilyddion o Wobrau Elusennau Cymru, eu croesawu i 10 Stryd Downing am ddathliad Dydd Gŵyl Dewi arbennig, gan amlygu’r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymunedau bob dydd. Daeth y digwyddiad ag elusennau, arweinwyr cymunedol ac enwogion o Gymru ynghyd, gan gynnig ennyd prin i benderfynwyr y DU glywed am effaith gwirfoddolwyr o lygad y ffynnon.

NEGES GAN Y PRIF WEINIDOG

Yn ystod y derbyniad, talodd y Prif Weinidog deyrnged i sector gwirfoddol ffyniannus Cymru, gan gydnabod sut mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cryfhau llesiant, gwydnwch a bywyd cymunedol ledled y wlad.

Gwnaeth ei sylwadau atgyfnerthu’r hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod: gwirfoddoli yw’r conglfaen i Gymru deg a thosturiol.

SBOTOLAU AR FALCHDER CYMRU

Cyflwynwyd y Prif Weinidog gan Ben Davies, Capten tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Siaradodd yn wefreiddiol am y balchder y mae ef a’i dîm yn ei deimlo yn cynrychioli Cymru a’r ymdeimlad dwfn o hunaniaeth sydd wedi’i wreiddio yn iaith a diwylliant Cymru – gwerthoedd sydd hefyd yn ysbrydoli llawer o wirfoddolwyr yn eu gwasanaeth i eraill.

ARDDANGOS DIWYLLIANT CYMRU

Mwynhaodd y gwesteion berfformiadau gan gôr meibion o Ogledd Cymru a dathliad o gynnyrch Cymreig, gan gynnwys yr hufen ia poblogaidd, Joe’s Ice Cream. Amlygodd yr amser hwn sut mae diwylliant, bwyd a cherddoriaeth wedi’u gweu ym mhrofiad gwirfoddolwyr a’r cymunedau y maen nhw’n eu cefnogi.

CYSYLLTU GWIRFODDOLWYR AG ARWEINWYR CYMREIG

Un o uchafbwyntiau’r noson oedd cyfle i wirfoddolwyr gwrdd ag enwogion o Gymru, gan gynnwys Katherine Jenkins, Alun Wyn Jones, Amy Dowden a Fiona o The Traitors, ynghyd ag Aelodau Seneddol Cymreig ac aelodau Cymreig o Dŷ’r Arglwyddi. Bu’r sgyrsiau hyn yn gyfle pwerus i rannu storïau gwirfoddolwyr gyda’r bobl sy’n llywio bywyd cyhoeddus.

ENNYD O FALCHDER CENEDLAETHOL

Gwnaeth hyd yn oed Larry’r Gath ddangos ei wyneb, er mawr lawenydd i’r rheini a oedd yn bresennol.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn adeg i anrhydeddu diwylliant, iaith a hunaniaeth Cymru. Gwnaeth dathliadau eleni ein hatgoffa ni mai gwirfoddolwyr sydd wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud Cymru yn genedl fywiog, gref a gwydn. Cafodd eu hymroddiad, eu haelioni a’u hysbryd eu cydnabod yn un o leoliadau cyhoeddus pwysicaf y DU – fel y dylai.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Ein Gwobrau Elusennau Cymru yw un o’r ffyrdd rydyn ni’n codi proffil gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr a bod ymhlith y cyntaf i wybod pan fydd y cyfnod enwebu ar agor.

Llun gan Simon Dawson / Rhif 10 Stryd Downing