Casgliad o bwmpenni

Gwirfoddolwyr, pwmpenni a helfeydd sborion

Cyhoeddwyd: 09/12/21 | Categorïau: Cyllid,Gwirfoddoli, Awdur: Sian Baker Maurice

Fe wnaeth Sian Baker Maurice, Rheolwr Datblygu Cynllun Grant Gwirfoddoli CGGC, wneud ei ffordd o’r Barri i Lanidloes yn ddiweddar i brofi’r Ŵyl Bwmpen a drefnwyd gan y ‘Wilderness Trust’ a’i chefnogi gan 50 o wirfoddolwyr.

Mae’r 18 mis diwethaf wedi amlygu pwysigrwydd gwirfoddolwyr i gymunedau. I sicrhau bod y gwaith da yn parhau a rhoi profiad gwell i bob gwirfoddolwyr, gweinyddodd CGGC Gynllun Grant Gwirfoddoli Cymru 2021/22 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gyda’r prosiectau bellach ar waith, euthum i weld y rheini a dderbyniodd Grant Gwirfoddoli Cymru, ‘The Wilderness Trust’ a’u Gŵyl Bwmpen dan arweiniad gwirfoddolwyr.

TREF Y BWMPEN

Wrth ymlwybro i fyny i Lanidloes, edrychais i fyny ar y cymylau llwyd gan groesi ‘mysedd y byddai’n cadw’n sych. Roedd y cymylau’n parhau i fihafio pan oeddwn i’n parcio, a gwnaeth fy nghriw bychan (un gŵr, dau blentyn ac un pwg) wneud ein ffordd at y stryd fawr gaeedig, a oedd eisoes yn fwrlwm o bobl.

Ar bob ochr i’r ffordd, roedd llawer o stondinau gwahanol yn cynnig basgedi gwiail, bwyd stryd, gemau plant, ac wrth gwrs pwmpenni, a’r cwbl i gyfeiliant cerddorion lleol a oedd yn cau offerynnau yn y babell berfformio. Fe fwynheais i gyrri gafr blasus tu hwnt a chafodd y plant rholiau selsig o’r siop gig leol.

Wrth i mi wau fy ffordd drwy’r dorf, yn gwbl yn ôl dymuniad pwg rhyfeddol o gryf, chwaraeodd y plant gêm o fachu’r bwmpen a chael eu hwynebau wedi’u paentio. Gydag ungorn o lywiau’r enfys a blodau haul Van Gogh bellach wedi cymryd lle fy mhlant, gwnaethon ni ddechrau’r helfa sborion.

HELFA SBORION

Gwnaeth yr helfa sborion ein tywys o gwmpas yr holl ŵyl. Cawsom gyfle i siarad â llawer o wahanol wirfoddolwyr yn ystod hon (a oedd hefyd, fel mae’n digwydd, yn cael anhawster dod o hyd i Eglwys Sant Idloes), pob un ohonyn nhw’n llawn balchder am lwyddiant y diwrnod ac yn edrych ymlaen at barêd y nos a’r perfformiadau stryd.

PROSIECT YR ARDD GROG

Daeth yr helfa sborion i ben ym Mhrosiect yr Ardd Grog (Saesneg yn unig). Mae’r adeilad yn Bethel Street, sydd angen cryn dipyn o waith trwsio, wedi’i gymryd ymlaen gan The Wilderness Trust ac mae wrthi’n cael ei ailwampio i fod yn hwb cymunedol. Y tu mewn, roedd byrddau pren hir yn annog pobl i fwyta, siarad a chwerthin gyda’i gilydd. Yr ochr draw i’r ystafell roedd gweithdy pypedau, y gwnaeth yr ungorn amryliw a’r blodau haul blymio i mewn iddo ar unwaith.

Trosglwyddais y pwg blinedig i’r gŵr a chefais gyfle i dreulio ychydig o funudau yn sgwrsio â Luc a Fran o The Wilderness Trust.

Wrth siarad â Luc a Fran, roedd yn amlwg faint o waith roedden nhw wedi’i wneud ar y diwrnod, ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb yr ymateb aruthrol gan y gymuned a arweiniodd at fwy na 50 o wirfoddolwyr yn cynnig helpu.

Gwnaethon ni siarad am y cynlluniau i ddod ar gyfer Prosiect yr Ardd Grog, mae mwy o waith adeiladu a chynnal a chadw i’w wneud, ond mae grwpiau eisoes yn gwneud ymholiadau ynghylch defnyddio’r cyfleusterau.

Gwnaeth Luc fy nghyflwyno hefyd i aelod mwyaf newydd y tîm, a gafodd ei recriwtio drwy Gynllun ‘Kickstart’. Roeddwn i’n genfigennus ei fod yn cael gweithio mewn gŵyl Bwmpen ar ei ddiwrnod cyntaf, ond gyda The Wilderness Trust, ond megis dechrau mae’r gweithgareddau diddorol ac amrywiol y bydd yr unigolyn ‘Kickstart’ yn gallu gweithio arnynt.

AMSER GWELY!

Gan adael Fran a Luc i baratoi ar gyfer adloniant yr hwyr, roedd yn rhaid i fy nheulu a finnau ddechrau dychwelyd am adref. Prin oedden ni wedi cyrraedd yr A470, cyn i mi sylweddoli mai fi oedd yr unig un a oedd ar ddihun o hyd, roedd pawb arall wedi llwyr ymladd ar ôl yr holl weithgareddau a’r cyffro, yn bendant yn arwydd o ddiwrnod gwych.

GRANTIAU GWIRFODDOLI CYMRU

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i dudalen grantiau Gwirfoddoli Cymru.