Mae Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, Flik Walls, yn edrych ar sut gallai ailedrych ar eich ymagwedd at gynnwys gwirfoddolwyr arwain at gyfleoedd mwy ystyrlon sy’n ysbrydoli pobl i ddod yn ôl!
Rydyn ni i gyd yn gwybod am yr ymroddiad, y brwdfrydedd a’r amser y mae gwirfoddolwyr yn eu rhoi i’n mudiadau – y cyfalaf dynol sy’n gwau ein cymunedau ynghyd yng Nghymru. Ond, rhaid i ni, fel mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, ddal y drych i fyny’n gyson a gofyn y cwestiwn pwysicaf oll: Ydyn ni mewn gwirionedd yn cael pethau’n iawn iddyn nhw?
Mae’n anodd recriwtio ar hyn o bryd, ac mae cadw (neu sicrhau boddhad gwirfoddolwyr fel rydw i’n hoffi ei alw) yn anoddach fyth. Mae gwirfoddolwyr yn chwilio am fwy na thasg, maen nhw eisiau profiad ystyrlon sy’n cyd-fynd â’u bywydau nhw.
AILEDRYCH AR EICH DULL GWEITHREDU
Os ystyriwch chi eich ymarfer presennol am ennyd,
- Sut ‘deimlad’ yw eich croeso i wirfoddolwyr? A yw gwirfoddolwyr yn teimlo fel rhan werthfawr o’ch tîm ar unwaith, neu a ydynt yn mynd ar goll mewn gwaith papur neu systemau digidol? Mae profiad croesawgar gwych yn allweddol i ymrwymiad mwy hirdymor.
- Beth fyddai gwirfoddolwyr yn dweud wrth eraill y maen nhw’n ei wneud? A all eich gwirfoddolwyr gyfleu’n glir y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud? A ydym ni’n eu galluogi i fynd ati’n uniongyrchol i gysylltu eu hymdrechion â’r genhadaeth, gan sicrhau eu bod yn gweld a theimlo eu gwerth?
- A yw gwirfoddolwyr yn gallu meithrin cydberthnasau dyfnach sy’n eu helpu i deimlo eu bod o bwys? A ydych chi’n cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr dyfu, dysgu sgiliau newydd a dyfnhau eu hymrwymiad dros amser? Gall cydberthynas gref sy’n datblygu helpu gwirfoddolwyr i droi diddordeb dros dro yn frwdfrydedd hirdymor.
BUDDSODDI YN EICH GWIRFODDOLWYR
Mae’r gwirfoddolwyr yn eich mudiad yn buddsoddi eu hadnodd mwyaf gwerthfawr – eu hamser. Sut gallwn ni fuddsoddi’n well yn y gwirfoddolwyr a’u teithiau?
Un ffordd y mae llawer o fudiadau ledled y DU yn dewis gwneud y buddsoddiad hwn yw drwy geisio ennill safonau ansawdd y Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr sydd wedi hen ennill ei phlwyf.
Os hoffech wybod mwy am y safonau ansawdd, ymunwch â ni am sesiwn ddiddorol, llawn gwybodaeth ddydd Mercher 3 Rhagfyr 2025 rhwng 10am a 12.15pm