Dyn hŷn a dyn mewn cadair olwyn yn plannu coeden mewn cae

Gwirfoddoli mewn tameidiau bach

Cyhoeddwyd: 11/04/23 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae Rheolwr Helplu Cymru, Fiona Liddell, yn myfyrio ar y ffyrdd y gall micro-wirfoddoli greu grym er gwell.

Mae pobl wastad wedi helpu mewn ffyrdd bach yn ogystal ag ymgymryd â’r ymrwymiadau gwirfoddol mawr neu arwrol. Mae mor naturiol i ni fel bodau cymdeithasol fel nad ydyn ni’n sylweddoli’n aml mai ‘gwirfoddoli’ yw hyn.

BETH YW MICRO-WIRFODDOLI?

Mae micro-wirfoddoli yn seiliedig ar y syniad syml fod pobl yn fwy tebygol o ymrwymo i gamau bach byr nag y maen nhw i wirfoddoli mwy hirdymor.

Mae’r cysyniad wedi ennill tir dros y 15 mlynedd ddiwethaf, ac mae micro-wirfoddoli yn dod yn rym byd-eang i gysylltu pobl ag achos cyffredin.

Trwy ddylunio a hyrwyddo cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn tasgau hawdd ar eu telerau eu hunain, ble bynnag y maen nhw a phryd bynnag y maen nhw’n dymuno, gellir harneisio gweithgarwch cyfunol i gyflawni pethau mawr. Er y gall pob cam deimlo fel ‘diferyn yn y môr’, gallwn ni ychwanegu (yng ngeiriau’r Fam Teresa) fod ‘y môr wedi’i lunio o ddiferion’.

CYMORTH DIGIDOL I FICRO-WIRFODDOLI

Mae llawer o ficro-wirfoddoli yn dibynnu ar dechnoleg ddigidol – er enghraifft, rhoi adborth ar lwybr cerdded ar wefan SlowWays (Saesneg yn unig) neu ddefnyddio’r fideo ar ffôn clyfar i helpu rhywun sydd angen cymorth i weld (drwy’r ap Be my Eyes (Saesneg yn unig). Mae nifer o blatfformau digidol wedi’u datblygu i gefnogi micro-wirfoddoli; trafodir rhai ohonynt mewn adroddiad gwerthuso gan y Rhwydwaith Arloesi Iechyd (Saesneg yn unig).

DYSGODD Y PANDEMIG I NI AM YR HYN A OEDD YN BOSIBL

Yn ystod pandemig Covid-19, roedd yr angen am ‘ficro-help’ yn amlwg. Roedd pobl fregus ein cymunedau angen pobl i gasglu eu presgripsiynau, gwneud eu siopa, cerdded eu cŵn neu, yn syml, rhywun i siarad ag ef.

Ar yr un pryd, camodd nifer digyffelyb o bobl ymlaen i helpu (erthygl Saesneg yn unig).

Datblygwyd swyddogaeth dasg newydd ar wefan Gwirfoddoli Cymru, gan alluogi cysylltiad rhwng unigolion a oedd angen help a gwirfoddolwr a allai ei ddarparu.

Yng Nghaerdydd, ar ôl trafodaeth helaeth a chytundeb rhwng partïon perthnasol, a chyda chyllid Llywodraeth Cymru ar gael i gefnogi’r fenter, daeth hwn yn adnodd hanfodol i sicrhau bod meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn cael eu cludo o fferyllfeydd i’r rheini a oedd eu hangen. Bu modd i staff ysbytai a gweithwyr eraill atgyfeirio manylion unigolion oedd angen presgripsiwn wedi’i gludo i Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC). Postiodd C3SC y manylion ar wefan Gwirfoddoli Cymru, lle gallai gwirfoddolwyr ymgymryd â’r dasg. Unwaith y byddai’r dasg yn cael ei chwblhau, byddai’r gwirfoddolwyr yn rhoi adborth ar-lein.

Roedd gennym ni fwy o wirfoddolwyr na’r galw, gyda thua 300 o yrwyr wedi cofrestru yng Nghaerdydd ar un adeg. Yn ystod y pandemig, cwblhawyd cyfanswm o 1,298 o dasgau, a oedd yn gyfwerth â chludo i oddeutu 5,000 o gartrefi (gan fod rhai tasgau yn cynnwys cludo i fwy nag un lle o fewn cymdogaeth). Gallwch chi ddarllen stori wirfoddoli Mike yma (Saesneg yn unig).

Roedd system ar wahân ar waith i gludo cyffuriau a reolir. Golygai hyn y gallai gwirfoddolwyr a oedd yn cludo presgripsiynau drwy wefan Gwirfoddoli Cymru wneud hynny heb fod angen datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Rhoddwyd canllawiau ysgrifenedig iddynt, ynghyd â sesiwn gynefino byr ar-lein cyn eu haseiniad cyntaf.

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo lacio a’r dulliau cludo arferol ddod yn bosibl drachefn, daeth y galw am y math arbennig hwn o ficro-wirfoddoli i ben yn raddol.

Ond mae’r potensial yn parhau. Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd gan y safle newydd, a fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin, ddigon o gwmpas i ddatblygu micro-wirfoddoli yn y dyfodol – efallai, er enghraifft, i wirfoddolwyr allu optio i mewn i dderbyn hysbysiadau am dasgau arbennig, y gellir eu postio gan fudiadau amrywiol. Yn y cyfamser, gall mudiadau eisoes bostio cyfleoedd sydd mor ddwys neu ficro ag y dymunant!

MANTEISIO I’R EITHAF AR FICRO-WIRFODDOLI

Ni ddylai aseiniadau micro-wirfoddoli gymryd llawer o amser na bod yn anodd eu cyflawni. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, efallai y bydd angen mynd trwy broses gofrestru gychwynnol a chael canllawiau neu hyfforddiant sylfaenol, fel oedd yr achos yng Nghaerdydd yn yr enghraifft uchod.

Beth bynnag y bo’r dasg, mae angen iddi fod yn ddiddorol, yn rhyngweithiol ac, yn amlwg, gwneud gwahaniaeth. Gellir rhannu cyfleoedd gwirfoddoli presennol yn dasgau llai i fodloni’r briff hwn.

Yr her yw cynnig tasgau cyflym a chyfleus, gan hefyd roi’r lefel briodol o arweiniad a chymorth.

Mae’n werth cadw mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr a rhoi adborth am y gwahaniaeth cyfunol sy’n cael ei wneud drwy eu camau gweithredu nhw a rhai pobl eraill. Efallai y bydd cymryd rhan mewn micro-wirfoddoli unwaith neu o bryd i’w gilydd yn magu awydd i wybod mwy am eich gwaith a’i gefnogi mewn ffyrdd pellach.

CYMRYD RHAN

Mae’r Diwrnod Micro-wirfoddoli Rhyngwladol yn cael ei ddathlu ar 15 Ebrill bob blwyddyn. Rhannwch eich storïau a lluniau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodMicro. Gallwch chi hefyd ein tagio ar Facebook, Instagram a Twitter @WCVACymru.

Mae cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn yr Help Llaw Mawr (gwefan Saesneg yn unig), ar wŷl y banc ar 8 Mai eleni. Beth am annog eich mudiad i bostio cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru, gan ddefnyddio’r tag HelpLlawMawr? Rhannwch y ddolen yn eang i annog pobl newydd i roi un cynnig ar wirfoddoli.

Byddwn ni’n falch o wybod sut byddwch chi’n dod ymlaen.

YNGLŶN Â HELPLU CYMRU

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.