Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae gwirfoddolwr ifanc, Laura Moulding, yn siarad am sut y gwnaeth gwirfoddoli ei helpu hi i ddod o hyd i’w llais a newid ei bywyd.
Eleni, roeddwn i’n dathlu pum mlynedd ers gwneud cais a hyfforddi ar gyfer fy rôl wirfoddoli gyntaf erioed fel hyrwyddwr ar gyfer Amser i Newid Cymru. Byddaf wastad yn dweud, hyd yn oed heddiw, bron na ddigwyddodd y sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr hynny o gwbl.
Roeddwn i’n orbryderus tu hwnt ac yn teimlo mor isel, bu bron i mi ddweud, ‘Dwi’n methu gwneud hyn’. Ond i mi, yr hyn a’n gwthiodd i oedd gwybod y gallai fy llais helpu rhywun arall a oedd yn cael anhawster gyda’i iechyd meddwl.
Rwy’n cofio eistedd yn yr ystafell gyda thua 15 o bobl ynddi; gwnaethon ni ddechrau gyda chyflwyniadau. Alla i ddim hyd yn oed cofio beth a ddywedais, roedd cymaint o ofn arna i. Yn sydyn, mewn amrantiad, roedd y sesiwn gyntaf drosodd ac roeddwn i’n eistedd yn yr ail sesiwn hyfforddi gyda’m stori ar ddalennau niferus o bapur A4, yn rhannu fy stori gyda grŵp o ddieithriaid. Doeddwn i erioed wedi crynu cymaint yn fy mywyd!
Siaradodd y swyddogion ymgysylltu cymunedol â mi ar ei ôl a dweud pa mor dda oeddwn i wedi gwneud ac nad oeddwn i ar fy mhen fy hun gyda’r hyn roeddwn i’n mynd drwyddo a’r hyn roeddwn i wedi bod yn ei wynebu. Hwn oedd y tro cyntaf roeddwn i wedi cydnabod yn go iawn nad oeddwn i ar fy mhen fy hun. Nid ystafell llawn dieithriaid oedd hi, ond pobl a oedd yn deall sut deimlad oedd hi i gael anhwylder meddyliol a gorfod wynebu gwarth a gwahaniaethu.
PUM MLYNEDD O WIRFODDOLI
Bum mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n parhau i wirfoddoli i Amser i Newid Cymru, Mind Cymru a Mind ac rwyf wedi rhannu fy mhrofiadau o flaen cynulleidfaoedd yn rheolaidd. Hyd yn oed yn ystod y pandemig, rwyf wedi rhannu fy mhrofiadau ar-lein.
Fe wnes i fagu’r dewrder i ddod yn Gynrychiolydd y Cyfryngau ar gyfer Mid Cymru a chyrhaeddais y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyfryngau Mind. Rwyf wedi bod ar y radio, y teledu, ac mewn papurau newydd ledled y DU. Rwyf hefyd yn gwirfoddoli nawr fel cynorthwyydd gweinyddol ar gyfer Amser i Newid Cymru. Bum mlynedd yn ôl, pan fues i bron a dweud na, fydden ni erioed wedi breuddwydio y byddai’r fath beth yn digwydd.
Un peth y byddaf i’n ei gofio am byth o’m hamser fel gwirfoddolwr i Amser i Newid Cymru yw’r adeg y daeth rhywun ataf i mewn digwyddiad. Roedden ni dim ond wedi bod yn siarad am ychydig pan wnaeth hi ddechrau sôn am ei phrofiadau ag iechyd meddwl, a’r gwarth yr oedd hi wedi’i hwynebu. Dywedodd wrthyf mai hon oedd y sgwrs gyntaf roedd hi wedi’i chael gydag unrhyw un am ei hiechyd meddwl mewn mwy na 40 o flynyddoedd.
Fe wnes i wrando, gwnaethon ni siarad, fe wnes i gysylltiadau rhwng ei stori hi a fy un i a’i hatgoffa nad oedd ar ei phen ei hun. Dwi ddim yn therapydd, ond y diwrnod hwnnw, gallai’r fenyw honno ddim diolch digon i mi am wrando. Dyma pam rwy’n gwirfoddoli. Os alla i helpu dim ond un unigolyn, yna mae bob amser yn werth chweil.
TWF PERSONOL
Yr hyn nad oeddwn i wedi sylweddoli oedd y twf personol y bydden ni hefyd yn ei gael o wirfoddoli. Ydw, rwy’n dal i ddioddef gyda’m hanhwylder meddyliol. Rwy’n parhau i ddioddef o orbryder ac iselder, ond gwnaeth gwirfoddoli ddangos i mi’r hyn rwy’n gallu ei wneud. Cyn i fi ddechrau gwirfoddoli, roeddwn i’n sicr na fydden i’n gallu gwneud unrhyw beth gyda’m mywyd i. Ond mae gwirfoddoli wedi fy helpu i ganfod pwy ydw i. Mae wedi rhoi mwy o ddewrder i mi roi cynnig ar bethau newydd. Mae wedi fy ngwneud i’n gryfach wrth wynebu sefyllfaoedd anodd.
Yn 2019, enillais wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn CGGC yng Ngwobrau Elusennau Cymru. Rwy’n cofio cerdded i’r llwyfan, cael lluniau wedi’u tynnu a dweud ychydig o eiriau. Gadewais y llwyfan a’r peth cyntaf a wnes i oedd beichio wylo. Pam? Oherwydd prin ychydig o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n teimlo’n hollol ddiwerth. Ond gwnaeth y wobr hon newid fy safbwynt ar yr hyn rwy’n ei wneud a sut rwy’n edrych ar fy hun. Fydden ni, yr unigolyn yr wyf i heddiw sy’n gwneud yr holl bethau gwahanol hyn, ddim yma heb wirfoddoli.
I wybod mwy am sut gallwch chi gynorthwyo gwirfoddolwyr gyda’u hiechyd meddwl, edrychwch ar ein taflen wybodaeth, Deall Iechyd Meddwl a Gwirfoddoli.