Mae Kathryn Thomas, Rheolwr Prosiect yn Nhîm Profiad y Claf a Chynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn egluro pam eu bod wedi ymwreiddio llwybrau gwirfoddoli i yrfa fel rhan o’u cynnig gwirfoddoli.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) wedi bod yn buddsoddi mewn recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae gwirfoddolwyr yn aelodau gwerthfawr o’r tîm gofal iechyd, yn rhoi cwmnïaeth i gleifion a phobl sy’n agored i niwed yn y gymuned. Mae gwirfoddoli yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu ac yn meithrin cysylltiadau o fewn y gymuned ehangach.
Rydyn ni wastad wedi ceisio cynorthwyo gwirfoddolwyr i gael cyflogaeth os gallwn ni, ond daeth gwaith blaenorol yn y maes hwn i ben gyda phandemig COVID. Felly pan ddaeth cyfle i gael cyllid gan Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett a chyfle i weithio gyda Helplu i sefydlu llwybrau gwirfoddoli i yrfa gwell, gwnaethom achub ar y cyfle.
CYNHWYSIANT I BAWB
Cafodd ein rhaglen gwirfoddoli i yrfa ei lansio yn 2022 ac mae’n eistedd yn gysurus gyda’n hymrwymiad parhaus i gael cynhwysiant i bawb.
Gwnaethom ddechrau trwy fagu cysylltiadau helaeth yn y gymuned, siarad â myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Coleg Gwent, disgyblion ysgol uwchradd, cwsmeriaid Canolfannau Gwaith ac ymwelwyr mewn ffeiriau gyrfaoedd. Gwnaethom gysylltiadau â Chynghorau Gwirfoddol Sirol, Gyrfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Ym mhob achos, ein nod oedd plannu’r syniad o wirfoddoli i yrfa ymhlith pobl 16 oed a hŷn.
Trwy dîm anableddau dysgu Coleg Gwent, gwnaethom recriwtio dau fyfyriwr ag awtistiaeth a thrwy Brifysgol Caerdydd, mae 75 o fyfyrwyr fferylliaeth yn eu blwyddyn gyntaf yn cael profiad gyda chleifion trwy wirfoddoli ar y wardiau.
Un newid syml ond arwyddocaol i’n proses recriwtio oedd gofyn y cwestiwn canlynol i bawb: ‘a fyddai gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes iechyd?’ Yn aml, mae pobl hŷn, ynghyd â phobl iau, yn dweud bod ganddyn nhw ddiddordeb!
Gallai pobl heb gymwysterau ffurfiol barhau i fod yn frwd dros gynorthwyo pobl ac yn awyddus i gael cyflogaeth. Dyma le gall ein rhaglen gwirfoddoli i yrfa wneud gwahaniaeth go iawn.
BUDDION GWIRFODDOLI
Mae gwirfoddolwyr yn chwilio ymdeimlad o ddiben, o berthyn ac o werth. Maen nhw’n adeiladu grwpiau cyfeillgarwch ac yn gallu gweld ystod eang o yrfaoedd ar waith o fewn lleoliad yr ysbyty – gan gynnwys swyddi gweinyddol, ffisio, porthora, rheoli a nyrsio. Maen nhw’n dysgu sgiliau newydd, yn magu hyder personol ac yn gallu llunio eu syniadau eu hunain ynghylch eu dyfodol.
Rydyn ni’n sicrhau bod pawb mewn amgylchedd lle maen nhw’n teimlo’n gysurus. Mae gwirfoddolwyr iau, er enghraifft, yn dueddol o fod yn hapusach mewn ysbytai cymunedau bach yn hytrach nag ysbytai aciwt prysur.
Gallwn ni gynnig oddeutu 20 o wahanol rolau gwirfoddoli. Caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi a’u recriwtio i fod yn wirfoddolwyr ar wardiau ysbyty a gallant adeiladu ar hynny gyda hyfforddiant ychwanegol i fod yn gymdeithion dementia, cymdeithion diwedd oes, darparu cymorth clyw, cymorth canser neu helpu gydag arolygon cleifion er enghraifft.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag adrannau gwahanol o ysbytai i adolygu a datblygu rolau newydd. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n edrych ar rôl lesiant newydd, Gwirfoddoli â chymorth cyflogwr, i gefnogi staff ABUHB sy’n gweithio ym Mwrdeistref Caerffili. Rydyn ni hefyd yn siarad â’n tîm cymorth alcohol ynghylch gwirfoddolwyr a fyddai’n cefnogi grŵp cyfeillgarwch i bobl a atgyfeirir i’w gwasanaeth.
LLWYBR GWIRFODDOLI I YRFA
Os bydd gwirfoddolwyr yn mynegi diddordeb mewn gyrfa yn y maes iechyd, yna unwaith y byddant yn cwblhau o leiaf 30 awr o wirfoddoli gyda mentora, hyfforddiant a chymorth, byddant yn cael cyfleoedd i wneud mwy o wirfoddoli neu brofiad gwaith ar draws meysydd eraill o ddiddordeb iddynt.
Caiff lleoliadau eu trefnu mewn modd pwrpasol, mewn ymgynghoriad â phob unigolyn a’n tîm profiad gwaith. Rydyn ni’n cefnogi gwirfoddolwyr i wneud y cysylltiadau angenrheidiol ac i gyflwyno ceisiadau yn ôl yr angen. Mae swyddi gwag mewnol yn ogystal â lleoliadau profiad gwaith yn agored i wirfoddolwyr.
Rydyn ni wedi creu rôl newydd â thâl ar gyfer Cynorthwyydd Llesiant Band 2. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y rôl, dim ond profiad – ac mae eu profiad gwirfoddoli yn bodloni’r gofyniad hwnnw i’r dim, Ond mae angen help ar wirfoddolwyr yn aml i gydnabod a chyfleu’r sgiliau y maen nhw wedi’u datblygu.
STRAEON LLWYDDIANT
Hyd yma, mae dau wirfoddolwr wedi cael swyddi y tu allan i’r bwrdd iechyd, mae un wedi dechrau ar gwrs nyrsio prifysgol a phump wedi’u penodi i swyddi o fewn y bwrdd iechyd (fel Cynorthwyydd Llesiant, Gweithiwr Cymorth Iechyd a Gofal ac o fewn fferyllfa, meddygfa deuluol a’r gronfa adnoddau, yn ôl eu trefn).
Mae rhai ohonynt yn parhau i wirfoddoli gyda ni.
Mae’r holl bethau hyn yn cefnogi ‘cynllun pobl’ y bwrdd iechyd drwy gyfrannu at gynaliadwyedd gweithlu. Er bod ein tîm y tu allan i’r adran gweithlu, rydyn ni wedi datblygu cysylltiadau gwaith agosach. Byddwn bellach yn adrodd i’r pwyllgor Pobl a Diwylliant, fel y gallwn ni godi ymwybyddiaeth ymhlith uwch-reolwyr a chynrychiolwyr undebau o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, gan gynnwys sut rydyn ni’n cefnogi’r syniad o weithio gyda’r bwrdd iechyd fel gyrfa ddewisol.
BLE NESAF?
Rydyn ni wedi bod yn lwcus ei bod hi wedi bod mor hawdd i ni ymwreiddio gwirfoddoli i yrfa o fewn ein prosesau. Roedd ein gwasanaeth gwirfoddolwyr eisoes wedi hen ennill ei blwyf. Gyda newidiadau bach ac ewyllys da cymaint o bartneriaid, gallwn ni gefnogi llawer mwy o unigolion nawr tuag at eu gyrfa ddewisol, naill ai o fewn y bwrdd iechyd neu yn rhywle arall.
Rydyn ni’n parhau i hyrwyddo’r prosiect gwirfoddoli i yrfa er bod y prosiect a gyllidwyd wedi dod i ben yn ffurfiol, ac yn parhau i weithio gyda mudiadau mewnol ac allanol i ddatblygu opsiynau newydd i wirfoddolwyr. Mae swydd weinyddol bwrpasol a gyllidwyd gan y prosiect yn cael ei chyllido gan y bwrdd iechyd bellach er mwyn galluogi’r gwaith i barhau.
Yn bwysicach oll, byddwn ni’n parhau i gefnogi ein gwirfoddolwyr, gan roi’r profiad gorau iddynt i’w helpu ar eu taith gwirfoddoli i yrfa.
HELPLU CYMRU
Daw’r astudiaeth achos hon o brosiect Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae tudalen Helplu Cymru ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.
Darganfod mwy am rhaglen Helplu Gwirfoddoli i yrfa (Saesneg yn unig).
AROLWG RECRIWTIO A CHADW GWIRFODDOLWYR
Rydym ar hyn o bryd yn ceisio ymatebion i’n harolwg recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
I gwblhau’r arolwg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/gwirfoddolwyr-volunteer-2023