Mae menyw ifanc yn rhoi llaw ar ysgwydd menyw hŷn sy'n eistedd i lawr

Gwirfoddoli i gael sgiliau yn y maes iechyd a gofal

Cyhoeddwyd: 18/10/23 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru CGGC, wedi bod yn canfod sut mae un mudiad yn galluogi pobl ifanc i gael profiad drwy wirfoddoli a lleoliadau addysgol.

Yn aml, bydd y rheini sy’n anelu at yrfa yn y maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn troi at wirfoddoli i gael profiad perthnasol. Mae’n cryfhau eu ceisiadau am gwrs neu swydd. Mae’n eu galluogi i gael blas ar eu galwedigaeth ac i ddatblygu’r ‘sgiliau pobl’ hollbwysig hynny.

Mae profiad o’r fath yn dod yn fwyfwy angenrheidiol. Mae pobl sydd wedi cwblhau cwrs rhagarweiniol mewn gofal cymdeithasol, er enghraifft, yn mynd i gyfweliad gwaith ac yn cael gwybod bod angen iddynt ‘gael mwy o brofiad’.  ‘Anogir’, ‘disgwylir’ neu ‘gofynnir’ i’r rheini sy’n astudio cyrsiau sy’n ymwneud ag iechyd a gofal gael profiad allgyrsiol perthnasol.

SGILIAU A GWIRFODDOLI CAERDYDD

Mae Sgiliau a Gwirfoddoli Caerdydd (SVC) (Saesneg yn unig) yn gweithio’n agos gyda thair phrifysgol yng Nghaerdydd a chyda nifer o bartneriaid eraill gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Gall pobl ifanc wirfoddoli o fewn portffolio o brosiectau o dan yr enw ymbarel, ‘cynllun lleoli’r GIG’.

Mae’r cyfleoedd yn cynnwys gwirfoddoli ar wardiau cleifion mewnol (wardiau dementia, unedau asesu a wardiau iechyd meddwl aciwt) ac mewn tai adsefydlu sy’n cefnogi pobl ar ôl cyfnodau o anhwylder meddyliol.

Dywedodd Adrienne Earls, Rheolwr SVC wrthyf:

‘Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd am fwy nag 20 mlynedd, yn cefnogi gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd gwahanol. Ein nod yw ychwanegu lefel ychwanegol o ofal a chyfleoedd i gleifion drwy weithgareddau a drefnir gan wirfoddolwyr.’

Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithredu mewn timau, o dan oruchwyliaeth arweinydd gwirfoddolwyr. Maen nhw’n ymrwymo i gymryd rhan am un flwyddyn academaidd.

GWIRFODDOLI NEU LEOLIAD ADDYSGOL?

Gofynnais i Adrienne ynghylch disgwyliadau’r prifysgolion y maen nhw’n gweithio gyda nhw – ac a yw hyn yn peryglu natur gwirfoddoli.

‘Mae sefydliadau gwahanol yn mynd ati mewn ffyrdd gwahanol’, eglurodd:

‘Mewn un [prifysgol], caiff gwirfoddolwyr eu hannog i wirfoddoli. Y cwbl sydd angen iddyn nhw ei wneud yw dod atom ni, ac fe wnawn ni drafod â nhw ynghylch yr hyn y bydden ni’n hoffi ei wneud.

‘Mae gan un [prifysgol] arall gyrsiau sy’n cynnig modiwl lleoliad fel rhan o’r radd. Mae angen bodloni gofynion penodol, fel nifer yr oriau a gwblhawyd, neu gyflwyniad terfynol a fydd yn cael ei weld a’i asesu gan ein staff. Mae’r brifysgol yn cymeradwyo ein cyfleoedd fel rhai sy’n addas i’w dibenion ac yn talu costau gwiriadau DBS.

‘Mewn achosion eraill, mae’r brifysgol yn mynd ati’n gyffredinol i annog myfyrwyr i wneud 70 awr o wirfoddoli, ond mae’n amrywio o un cwrs i’r llall, ac yn dibynnu ar a yw’n cael ei argymell neu’n orfodol i basio eu gradd. Yn aml, ni fydd y brifysgol yn talu costau DBS.’

RHEOLI LLEOLIADAU CYMHLETHDOD O LEOLIADAU

Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau yn creu heriau i SVC fel mudiad trefnu, ac maen nhw’n ymdrechu’n daer i reoli’r rhain.

Mia Bromley sy’n gyfrifol am gynllun lleoli’r GIG yn SVC. Dywedodd:

‘Gofynnir i wirfoddolwyr ar eu ffurflen gais ‘A ydych chi’n ymgymryd â’r cyfle hwn fel rhan o’ch astudiaethau?’ Os byddant yn ticio ‘ydw’, byddwn ni’n trefnu i gael sgwrs gyda nhw.

‘Rydyn ni’n cydweithio â nhw i edrych ar yr hyn sydd gennym ni a fyddai’n bodloni eu gofynion – er enghraifft, ni fyddai rhai lleoliadau yn cynnwys digon o oriau gwirfoddoli, neu efallai y byddai disgwyl i aelod staff goruchwyliol gymeradwyo oriau sy’n rhywbeth na allwn ni, fel trydydd parti, ofyn iddyn nhw ymrwymo iddo.’

‘Os yw “gwirfoddoli” yn rhan o’r radd, yna nid ydyn ni’n ei ystyried yn gwirfoddoli,’ ychwanegodd Adrienne. ‘Ond gallwn ni ei gefnogi’r un fath. Rydyn ni’n trafod pob cais fesul achos. Er mwyn bod yn deg, a phan fydd adnoddau’n caniatáu, bydd SVC yn talu cost gwiriadau DBS os bydd angen.’

MAE GWIRFODDOLI’N NEWID

Dengys y darlun cenedlaethol fod llai a llai o bobl yn gwirfoddoli, ac eto, mae’r angen am brofiad mewn lleoliadau iechyd a gofal yn cynyddu.

Eglurodd Adrienne pam fod cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau addysgol o fudd iddynt:

‘Mae gennym ni ymrwymiadau sy’n gysylltiedig â ffrydiau cyllido i gefnogi nifer o brosiectau, a byddem ni’n ei chael hi’n anodd bodloni rhai o’r ymrwymiadau hyn pe buasem ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr anhunanol yn unig. Mae croesawu myfyrwyr ar leoliad yn rhoi’r gallu i ni gefnogi prosiectau yn y ffordd rydyn ni eisiau – er ei fod yn golygu mwy o waith gweinyddol a goruchwyliaeth i ni.

‘Rydyn ni wedi gweld newid yn agweddau gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Mae mwy o broblemau gyda ni o ran lefelau ymrwymo. Gall hyn effeithio ar y bobl agored i niwed sy’n cael cymorth; y rheini y mae parhad yn hollbwysig iddynt ac sy’n cael eu cynhyrfu gan newidiadau annisgwyl.

‘Pan fydd y lleoliad yn cael ei gydnabod neu pan fydd ei angen fel rhan o daith yrfa pobl, mae’n cynyddu lefel yr ymrwymiad. Gallant weld eu hymrwymiad fel rhan o ddarlun mwy o faint.’

GWERSI I’W DYSGU

Gyda phrofiad SVC, mae’n bosibl cynnig profiad cyson o ansawdd uchel i’r rheini sy’n chwilio am brofiad di-dâl i gefnogi dyheadau gyrfaol. Fodd bynnag, mae angen ystyried disgwyliadau a gofynion pob achos yn ofalus a chael yr hyder i ddweud ‘na’ pan fo’n briodol.

Gall rhai mudiadau, fel SVC, reoli amrywiaeth o drefniadau a disgwyliadau trwy ddefnyddio dulliau cymysg o bennu cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau addysgol. Bydd gan eraill feini prawf tynnach o ran pa mor bell y maen nhw’n gallu neu’n barod i fodloni gofynion allanol.

Mae gwahaniaethu rhwng beth yw gwirfoddoli a beth yw lleoliad addysgol yn bwysig oherwydd ar un pen, mae gan wirfoddolwyr asiantaeth i ddewis beth maen nhw’n ei wneud ac ar y pen arall, y corff addysgol sy’n gosod y paramedrau.

MAN ANEGLUR?

Mewn gwirionedd, nid yw’n fater du a gwyn. Mae yna ‘fan aneglur’ lle yr anogir gwirfoddoli yn fawr neu le y bydd hyd yn oed yn ofyniad i ddatblygu mewn gyrfa, ac eto, nid yw’n ofyniad ffurfiol i ennill y cymhwyster addysgol.

Mae angen i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr benderfynu drostynt eu hunain i ba raddau y maen nhw’n cysylltu â phethau. Beth bynnag yw’r penderfyniad, mae profiad gwirfoddolwyr yn hollbwysig. Meddai  Adrienne:

‘Mae angen i ni, fel mudiadau, gynnig cymorth a chyfleoedd eithriadol, ynghyd â gwasanaethau o ansawdd a chydnabyddiaeth o gyfraniad gwirfoddolwyr. Mae ar fudiadau angen gwirfoddolwyr ardderchog yn fwy nag i’r gwrthwyneb!’

Cyrhaeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro’r rownd derfynol yng ngwobr ‘Cydweithrediad Gwirfoddoli’r Flwyddyn – categori partneriaeth Gwobrau Hyrwyddwyr Helpforce yr Hydref hwn, am y cynllun lleoli GIG Iechyd Meddwl y maen nhw’n ei redeg ar y cyd ag SVC.

YNGLŶN Â HELPLU CYMRU

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.

Hoffem glywed eich profiad chi o gynnig cyfleoedd gwirfoddoli er mwyn cefnogi teithiau gyrfaol. Cysylltwch â Fiona Liddell yn fliddell@wcva.cymru.