Mae’n Wythnos Addysg Oedolion ac mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn myfyrio, trwy ei thaith wirfoddoli ei hun, ar y rôl y gall gwirfoddoli ei chwarae fel cyfle i ddysgu, waeth faint yw eich oed neu lle rydych chi mewn bywyd.
Trwy fy nhaith fy hun i a thrwy wirfoddoli, rwy’n sylweddoli faint o rym sydd gan weithgaredd o’r fath i’n paratoi ni ar gyfer dysgu, i’n hysbrydoli ni i dreiddio’n ddyfnach i bynciau ac i ni’n hunain, i ddysgu a deall ein cymunedau (sut bynnag y diffinnir y rheini) yn well a sut i rannu ein dysgu er budd eraill.
Fel plentyn a pherson ifanc, datblygodd fy niddordebau i fod yn weithredu cymdeithasol, wrth i mi ddechrau gwneud gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, ymgyrchu a chodi arian.
Trwy’r profiadau hyn, dysgais sut i gyfathrebu fy niddordebau, i danio diddordeb eraill ac i ddylanwadu ar fy nghymheiriaid (a’u teuluoedd) i gyfrannu at yr achos.
Gellir gweld enghreifftiau tebyg, o blant a phobl ifanc yn dysgu sgiliau newydd, ar hyd a lled Cymru, o Cai, gwirfoddolwr gyda Karma Seas ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i Bilal, a ddechreuodd wirfoddoli pan oedd hi’n 17 oed.
DOD YN WIRFODDOLWR PAN FYDDWCH YN OEDOLYN
Gwnaeth cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol yn gynnar mewn bywyd fy mharatoi ar gyfer gwirfoddoli fel oedolion. Mae hwn yn rhywbeth y mae ymgyrch #byddaf (#iwill) y DU yn ei gefnogi, fel rheswm dros gael pob plentyn a pherson ifanc i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol.
Gwnaeth y flwyddyn y treuliais yn gwirfoddoli cyn mynd i’r brifysgol effeithio’n fawr ar fy mywyd. Dysgais am fy mhotensial, fe wnes i gysylltiadau newydd ac, yn y pen draw, fe lywiodd fy newis gyrfa, oherwydd roeddwn i’n awyddus i greu mynediad at wirfoddoli i eraill fel y gallent hwythau hefyd brofi’r llawenydd o wneud gwahaniaeth.
Gwirfoddoli tra roeddwn i yn y brifysgol oedd y penderfyniad gorau wnes i, yn fy marn i, ymhell uwchlaw unrhyw benderfyniad arall fel dewis cwrs, lle i fyw a pha glybiau eraill wnes i ymuno â nhw (Breg-ddawnsio…ble oedd fy meddwl i?!)
Gwnaeth gwirfoddoli yng nghymuned Abertawe (diolch i staff Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (gwefan Saesneg yn unig) – SCVS – a Discovery Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe (gwefan Saesneg yn unig)) fy ngalluogi i ddysgu am gymuned GO IAWN Abertawe ac ardaloedd cyfagos (eu trysorau, pleserau a’u pethau gwahanol), y tu hwnt i fywyd prifysgol a breg-ddawnsio.
MAE GWIRFODDOLI YN AGOR DRYSAU DYSGU ERAILL
Drwy wirfoddoli, cefais fynediad at gyrsiau, rhai achrededig, fel Cymorth Cyntaf, a rhai eraill a oedd yn benodol i’m rôl, fel bod yn gyfeillachwr gwirfoddol, ymhél â phobl ifanc a chwblhau cwrs iaith arwyddion. Bob tro roeddwn i’n gwirfoddoli, roeddwn i’n ychwanegu profiad gwerthfawr i’m CV ac yn dysgu ychydig mwy am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud yn fy mywyd gwaith a’m mywyd personol ar ôl y brifysgol, wrth roi rhywbeth yn ôl i genedl roeddwn i’n dysgu ei charu.
Mae llawer o ddarparwyr addysg yn canolbwyntio ar bethau o’r newydd. Mae mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli yn dod yn fwy gweladwy o fewn y cwricwlwm ehangach, ac mae hyn wedi pwysleisio gwerth ‘dysgu trwy brofiad’ ac adeiladu eich cysylltiadau a llwybrau i mewn i addysg ffurfiol. Mae Kelly, myfyriwr yng Nghaerdydd, yn rhannu sut gwnaeth ei lleoliad mewn mudiad gwirfoddol ei helpu i gael mynediad i addysg bellach.
Yn bersonol, gwirfoddoli drwy’r brifysgol wnaeth fy ngalluogi i gael fy swydd gyntaf, a ddechreuodd ddiwrnod ar ôl i mi raddio, gydag SCVS, fel Cynghorydd Gwirfoddolwyr Ieuenctid – fy swydd ddelfrydol ar y pryd! Dim ond i wirfoddolwyr a staff yr hysbysebwyd y rôl hon, felly ni fydden ni wedi clywed amdani pe na fydden i’n wirfoddolwr!
NI WNAETH FY NGWIRFODDOLI DDIWEDD FAN’NA
Rwyf wedi parhau i wirfoddoli drwy gydol fy mywyd cyflogedig fel oedolyn; fel mentor, hyfforddwr, ymddiriedolwr, mewn digwyddiadau, fel codwr arian, ar baneli beirniadu ac yn datblygu rhwydweithiau. Rwyf wedi dod yn fwy beiddgar yn y rolau rwy’n chwilio amdanynt, neu’n cytuno eu gwneud. Rwy’n gweld y gwerth ychwanegol rwy’n ei roi ac yn ei ennill pan gaf fy herio’n ddigonol (rhywbeth i unigolion neu gwmnïau gnoi cil drosto os ydyn nhw eisiau uwchsgilio fel rhan o deithiau dysgu a datblygu).
Rwy’n cael fy ngofyn fynych, pam? Pam parhau i roi o’th amser am ddim?
Y rheswm pennaf yw fy mod i’n sylweddoli bod gennyf i’r pŵer i gyfrannu at newidiadau, sydd, rwy’n amau, wedi dod o’r gweithredu cymdeithasol roeddwn i’n rhan ohono pan oeddwn i’n blentyn. Ond yr ail reswm, a’r un mwyaf perthnasol i’r Wythnos Addysg Oedolion, yw bod gwirfoddoli yn fy ngalluogi i ddysgu.
Fel mentor, rwy’n dilyn yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw ac yn cadw fy sgiliau mentora fy hun yn fyw ac iach. Fel ymddiriedolwr, rwy’n dysgu sut mae elusen yn gweithredu, sut i ddatrys problemau a rheoli senarios anodd. Fel gwirfoddolwr rhwydwaith, rwy’n dysgu sut i ymhél ag amrywiaeth eang o bobl, rwy’n ennyn pytiau o ddoethineb gan aelodau, ac rwy’n cael fy herio’n barhaus i gadw fy sgiliau digidol yn gyfredol!
MAE GWIRFODDOLI YN RHOI ADNODDAU I CHI DDYSGU AC YN AGOR DRYSAU I GYFLEOEDD NEWYDD
Felly i’r rheini ohonoch chi sy’n darllen y blog hwn ac yn meddwl am wirfoddoli, rwy’n credu mai gwirfoddoli yw un o’r ffyrdd gorau posibl o ddysgu! Mae dysgu arbrofol, ‘dysgu trwy brofiad’, wedi’i ymwreiddio o fewn miloedd o gyrsiau coleg a phrifysgol a bydd yn rhan werthfawr o’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae cyflogwyr hefyd yn sylweddoli potensial gwirfoddoli i uwchsgilio ac ailsgilio, gyda llawer yn cynnig cynlluniau Gwirfoddoli â Chymorth Cyflogwr, lle maen nhw’n galluogi staff i ‘wirfoddoli’ ychydig o’u hamser gweithio.
Mae prosiect cymharol newydd hefyd ar droed ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sydd â’r enw priodol, ‘Gwirfoddoli i Yrfa’, lle y gwireddir gwerth gwirfoddoli fel llwybr i gyflogaeth yn llawn drwy alluogi’r rheini sy’n dymuno cael cyflogaeth yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol – mae llawer o bobl yn cael budd o wirfoddoli mewn rolau fel gwirfoddolwr ward mewn ysbyty neu fel cynorthwyydd gweithgareddau gwirfoddol mewn cartref gofal.
Fy ngeiriau olaf. Gwnewch y naid, chwiliwch am gyfleoedd heddiw ar www.volunteering-wales.net ac fy nghyngor i yw, peidiwch â dim ond meddwl am y sgiliau neu brofiadau rydych chi eisoes yn eu cyflwyno; meddyliwch am y sgiliau yr hoffech chi eu hennill!
RHAGOR O WYBODAETH
Os hoffech chi chwilio am gyfleoedd gwirfoddol – pori trwy gannoedd o gyfleoedd ar hyd a lled Cymru – www.volunteering-wales.net.
Os ydych chi’n fudiad sy’n chwilio am arweiniad a gwybodaeth am recriwtio gwirfoddolwyr, ewch i Hwb Gwybodaeth TSSW (Cefnogi Trydydd Sector Cymru).
Os hoffech chi helpu gwirfoddolwyr i droi eu profiad yn sgiliau ar gyfer cyflogaeth, mae ffeithlun a chyflwyniad defnyddiol ar gael.
Os hoffech chi rannu eich stori am eich addysg gwirfoddoli, cysylltwch â’r tîm Gwirfoddoli yn gwirfoddoli@wcva.cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion yn adultlearnersweek.wales.