bees swarming over honeycomb

Gwirfoddoli – goblygiadau i’r strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd: 20/08/19 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyhoeddi strategaeth gweithlu hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru at ddibenion ymgynghori. Mae Fiona Liddell yn edrych ar y potensial ar gyfer gwirfoddoli ac i ba raddau mae’r strategaeth ddrafft yn cefnogi hyn.

Dim ond 22 tudalen o hyd yw’r strategaeth ddrafft, ac mae copi llawn ar gael yma.

Y prif themâu

Mae nodau cyffredinol y strategaeth yn glir: galluogi systemau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio, helpu pobl i fyw’n dda yn eu cymunedau, a darparu gofal yn nes at gartrefi neu yng nghartrefi pobl.

Mae’r rhain wedi’u seilio ar y nod pedwarplyg, sydd wedi’i nodi yn Cymru Iachach, sef atal salwch, gwella profiad cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, cynyddu gwerth drwy arloesi, gwelliant ac arfer gorau, a chyfoethogi gallu ac ymgysylltiad y gweithlu.

Daeth saith o themâu allweddol i’r amlwg yn sgil yr ymgynghoriadau cychwynnol, ac maen nhw’n cael eu cyflwyno yn y strategaeth ddrafft hon: gwerthfawrogi a chadw ein gweithlu, gweithio di-dor, digidol, denu a recriwtio, addysg a dysgu, arweinyddiaeth a ffurf y gweithlu.

Ble mae’r cyfeiriad at wirfoddoli?

Mae’r cyflwyniad yn pwysleisio’r ffaith bod angen i ni weithio gyda’n gilydd a chydnabod yr amrywiaeth o bobl sy’n cyfrannu at iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cyflogi gan sefydliadau statudol, preifat a thrydydd sector, yn ogystal â gwirfoddolwyr a gofalwyr.

Mae’r prif uchelgais wedi’i nodi fel hyn (tudalen 5) ‘Erbyn 2030 bydd gennym y nifer cywir o bobl ymglymedig, brwdfrydig a gwerthfawr yn cynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr a all gynnig gofal iechyd a chymdeithasol hyblyg a chwim a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru.’

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu crybwyll yn benodol, mewn perthynas â thair o’r saith thema allweddol:

Gweithio di-dor: mae’r weledigaeth yn cynnwys ‘Cynorthwyo gweithio mewn partneriaeth ranbarthol i ddatblygu a darparu modelau gofal newydd a chynorthwyo i sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen ar y gweithlu er mwyn cyflenwi’r modelau newydd hyn’ a ‘Cynorthwyo addysg a datblygiad sgiliau ar draws y gweithlu cyfan, a buddsoddi yn natblygiad pawb yn cynnwys gofalwyr a gwirfoddolwyr’.

Felly, efallai bod rôl i wirfoddolwyr mewn ‘modelau gofal newydd’, er nad yw hynny’n cael ei nodi’n benodol. Mae’r ail bwynt yn ymwneud ag addysg a dysgu, isod.

Addysg a dysgu: y weledigaeth yw ‘Darparu cyfleoedd dysgu ac addysgol rhagorol drwy bob cam o yrfa aelodau’r gweithlu, yn cynnwys myfyrwyr israddedig, prentisiaid, gwirfoddolwyr a gofalwyr’. Awgrymir camau posib i ehangu mynediad, datblygu gofynion cymhwysedd cyffredin, a chydnabod y profiad a’r sgiliau a gafwyd drwy lwybrau heb fod yn rhai traddodiadol.

Felly, yn y strategaeth ystyrir bod gwirfoddolwyr yn aelodau posib o weithlu’r dyfodol ac yn darged ar gyfer addysg a dysgu, gyda hynny mewn cof.

Yn olaf, mewn perthynas â ffurf y gweithlu, tynnir sylw at y ffaith bod angen cydnabod cyfraniad ac arbenigedd gwirfoddolwyr a gofalwyr. Awgrymir cam posib i ‘Comisiynu rhaglen waith i fesur ffurf a chyfraniad gwirfoddolwyr a gofalwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol’.

Felly, mae’r strategaeth yn cydnabod bod angen gwell tystiolaeth am effaith gwirfoddolwyr. Gallwn adeiladu ar y dystiolaeth sydd wedi’i chyhoeddi’n barod, fel Can volunteering help to create better health and care (Mai 2017).

Dylanwadu ar yr agenda

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac AaGIC yn gwahodd ymatebion i’r ddogfen ymgynghori erbyn canol mis Medi. Mae CGGC yn cydlynu ymateb ar ran y trydydd sector. Dyma fy syniadau cychwynnol, fel man cychwyn. Byddwn wrth fy modd yn clywed eich barn chi.

Cyfeirir at wirfoddolwyr a gofalwyr gyda’i gilydd bob tro, gan gydnabod bod y ddau ohonynt yn ategiad pwysig i’r gweithlu. Ond mae gwahaniaeth sylfaenol yn y ffyrdd mae gofalwyr a gwirfoddolwyr yn cyfrannu at ganlyniadau strategol (sydd o bosib yn destun ar gyfer blog arall!).

O ran gwirfoddoli, yn sicr mae lle i gynllunio, rheoli a datblygu hyn yn rhagweithiol, yn unol ag anghenion ac ethos sefydliad. Mae pobl yn gwirfoddoli am amrywiaeth o resymau gwahanol; yn eu plith mae dyhead i gyfrannu rhywbeth defnyddiol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae gweledigaeth glir o ran ble a sut mae gwirfoddoli’n cyfrannu at gyflawni nodau sefydliad yn debygol o arwain at brofiadau gwirfoddoli sy’n rhoi mwy o foddhad. Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer datblygu’r gweithlu – sydd mewn perygl, yn y strategaeth ddrafft, o gael ei anwybyddu.

Gellir deall pam fod amwysedd ynglŷn â chyfraniad gwirfoddoli mewn strategaeth gweithlu. Nid yw gwirfoddolwyr yn rhan o’r prif weithlu ac ni ddylid dibynnu ar wirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau craidd, fel sydd wedi’i nodi’n glir yn ein dogfen Ddrafft sydd newydd gael ei hadolygu – Siarter i egluro a chryfhau’r berthynas rhwng staff cyflogedig a gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, gall gwirfoddoli ddarparu capasiti ychwanegol sy’n helpu i wella profiad cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, a darparu gwasanaethau mwy holistaidd, integredig sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Fy mhrif bwynt, mewn ymateb i’r ymgynghoriad, yw bod angen i strategaeth gweithlu gynllunio ar gyfer arwain trefniadau gwirfoddoli a datblygu staff, er mwyn sefydlu amgylchedd lle gall gwirfoddoli ffynnu a chael yr effaith fwyaf ar wasanaethau.

Pam? Yn gyntaf, mae angen cynllunio’n strategol ar gyfer gwirfoddoli, a sicrhau bod adnoddau ar gael. Mae hyn yn golygu cynnal trafodaethau â staff uwch a gweithredol yn rheolaidd, yn ogystal â gydag undebau llafur a gwirfoddolwyr i benderfynu a datblygu rolau gwirfoddoli priodol. Mae’n cynnwys dylanwadu ar ddiwylliant sefydliad i wneud yn siŵr bod pawb yn deall rôl gwirfoddolwyr, yn meddu ar ddisgwyliadau realistig, ac yn gallu eu cefnogi’n briodol. Mae’n cynnwys datblygu a chynnal perthnasau gyda gwirfoddolwyr allanol sy’n cynnwys sefydliadau, ymrwymo i gytundebau gweithio ar y cyd priodol i sicrhau ansawdd a pharhad gofal, gan ddefnyddio’r adnoddau cymunedol sydd ar gael. Heb arweiniad gan y rheolwyr, ni fydd gwirfoddoli yn effeithio ar gynllunio, dylunio a datblygu iechyd a gofal.

Yn ail, mae angen arweiniad i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr (gweler Investing in Volunteers); i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys ac yn cyfrannu gymaint ag y bo modd, sicrhau diogelwch cleifion a gwirfoddolwyr a sicrhau bod gwirfoddoli’n agored i amrywiaeth eang o bobl. Mae systemau gwirfoddoli penodol yn hanfodol ar gyfer sicrhau gwasanaeth proffesiynol gan sicrhau bod anghenion a chymhellion gwirfoddolwyr yn cael eu parchu ar yr un pryd. Mae brith o fanteision yn sgil cael hyn yn iawn, gan gynnwys harneisio egni a syniadau ffres a meithrin diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal.

Yn drydydd, rydym ni angen arweiniad o ran gwirfoddoli i ddatblygu arferion a dulliau gwerthuso a fydd yn rhoi tystiolaeth gredadwy, nid yn unig o ran y gwahaniaeth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, ond gwell dealltwriaeth o’r gweithgareddau a’r ymyriadau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff. Drwy gael hyn yn iawn, byddwn yn cefnogi datblygiad creadigol modelau gweithio newydd sy’n canolbwyntio mwy ar y claf, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth.

Er mwyn datblygu cyfleoedd gwirfoddoli, dylid mynd ati i’w cynllunio’n strategol ar wahân i’r broses o ddatblygu’r gweithlu cyflogedig, ond fe ddylent fod yn gysylltiedig. Wedyn, byddwn ar y trywydd iawn o ran gwireddu potensial gwirfoddoli i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol.

Os hoffech ymateb i’r erthygl hon neu gyfrannu eich barn ynghylch y ddogfen ymgynghori i’w gynnwys yn ymateb CGGC, anfonwch e-bost at Fiona fliddell@wcva.cymru erbyn 6 Medi.

image

Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu yng Nghymru.

Mae Helpforce yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 CGS), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu’r potensial o wirfoddoli i gefnogi iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol.