Yn dilyn trafodaethau yn gofod3, mae Pennaeth Gwirfoddoli CGGC, Flik Walls, yn myfyrio ar y Dull Newydd o Wirfoddoli uchelgeisiol flwyddyn ymlaen.
Am egni anhygoel a brofwyd gennym ni yn gofod3 fis diwethaf! Wrth sefyll mewn ystafell orlawn mewn môr o wynebau brwdfrydig, cefais fy ysbrydoli gan ymdeimlad dwfn o bwrpas a rennir. Ochr yn ochr â’m cydweithwyr gwych, fe wnaethom ni ddod ynghyd i fyfyrio ar garreg filltir dyngedfennol: Y Dull Newydd o Wirfoddoli: Blwyddyn ymlaen.
Pan wnaethom ni lansio’r weledigaeth hon, roedd ein huchelgais yn feiddgar, i wneud gwirfoddoli yn ffordd o fyw i bawb yng Nghymru. Flwyddyn yn ddiweddarach, gallwn ddathlu sut mae’r weledigaeth hon yn mynd ati’n weithredol i lunio gwirfoddoli yng Nghymru.
PAM ‘DULL NEWYDD’?
Mae gwirfoddoli wrth wraidd hunaniaeth Cymru ac mae’n hanfodol i les ein cymunedau. Ond, ni allwn anwybyddu’r realiti bod y dirwedd wedi newid. Mae grwpiau lleol mewn trafferth, ac mae’r ffyrdd y mae pobl yn rhoi eu hamser yn newid. Y Dull Newydd yw ein hymateb cyfunol i’r heriau systemig hyn. Ein nod yw cael y system gyfan, ar draws pob sector, yn gweithio’n gydlynol i gefnogi, diogelu a hyrwyddo gwirfoddoli.
I gyflawni hyn, rydyn ni wedi nodi galluogwyr allweddol sy’n rhaid eu hymwreiddio ar draws meysydd polisi, mudiadau a phrosiectau, sef:
- Arweinyddiaeth benderfynol i lywio’r llong.
- Seilwaith cryf ac adnoddau.
- Cynlluniau cyflawni ac amcanion clir sy’n canolbwyntio ar weithredu.
- Dull sy’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr sy’n ymwneud yn gyfan gwbl ag anghenion datblygedig go iawn pobl.
- Addasrwydd diwylliannol sy’n parchu ac yn adlewyrchu cymdeithas, iaith a threftadaeth unigryw Cymru.
- Cyfathrebu ac ymgysylltu cryf, yn enwedig gyda phobl ifanc a phartneriaid beirniadol.
Y WELEDIGAETH, YN DOD YN FYW
Y rhan fwyaf ysbrydoledig o’n sesiwn gofod3 oedd clywed gan fudiadau sy’n defnyddio Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru i ddod â’r galluogwyr hyn yn fyw. Gwnaethom ni edrych ar dri phrosiect gwahanol sy’n profi y gallwch newid eich effaith drwy newid eich ymagwedd.
Mae pob prosiect wedi cymryd agwedd sylfaenol ar brofiad bywyd, o rwystredigaeth cymuned llawn sbwriel, y broblem o geisio gwirfoddoli fel rhiant plant ifanc, neu’r profiad o fod o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Mae’r profiadau hyn wedi cael eu defnyddio i edrych ar y llwybr i wirfoddoli a’i wella (ac weithiau ei gynnal).
1. CADWCH GYMRU’N DACLUS: TROSI’R NARATIF
Rhannodd Jake Castle o Cadwch Gymru’n Daclus y gwaith diddorol o fynd i’r afael ag ‘Ymddygiad at Sbwriel.’ Rydyn ni i gyd yn gwybod y gofid o ddarllen sylwebaeth negyddol ar-lein, y sylwadau digalon hynny ar gyfryngau cymdeithasol sy’n rhoi’r bai ar y cyngor lleol.
Gan ddefnyddio fframwaith manwl â meddylfryd dylunio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio i drawsnewid yr egni negyddol hwnnw ar-lein yn weithredu adeiladol yn y byd go iawn.
Yn ôl eu canfyddiadau cynnar, er bod diwylliant ar-lein yn gallu bod yn emosiynol iawn ac wedi’i danio gan gamwybodaeth, mae pryder sylfaenol y cyhoedd am yr amgylchedd yn parhau i fod yn anhygoel o uchel. Trwy lunio sgyrsiau’n gynnar ac adeiladu llwybrau clir i weithredu, maen nhw’n ceisio arallgyfeirio rhwystredigaeth ar-lein i wirfoddoli amgylcheddol positif.
2. CLWB GWIRFODDOLI TEULUOL: ADDASU I FYWYDAU MODERN
Gwnaethom ni hefyd ddal i fyny â gwaith gwych Maddy Mills o’r *Family Volunteering Club. Os yw gwirfoddoli i ddod yn ffordd o fyw, mae’n rhaid iddo ffitio i mewn i realiti anhrefnus, prysur bywyd teuluol modern. Trwy greu mannau lle gall rhieni, gofalwyr, mam-guod a thad-cuod a phlant ifanc wirfoddoli gyda’i gilydd, maen nhw’n ymwreiddio ymgysylltiad dinesig mewn plentyndod cynnar, gan sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf yn gweld gwirfoddoli fel rhan naturiol o dyfu i fyny yn hytrach na’n ôl-ystyriaeth.
Mae’r Family Volunteering Club yn estyn gwahoddiad i unrhyw un a hoffai *glywed mwy am ganfyddiadau ymchwil eu prosiect ar 15 Gorffennaf 2026.
Efallai na wyddoch chi mai dim ond ffracsiwn o’r gwaith rhyfeddol sy’n canolbwyntio ar wirfoddoli strategol sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r prosiectau gwych hyn. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut gallwch chi ddysgu mwy a chysylltu â’r rheini sy’n adfywio gwirfoddoli yng Nghymru.
3. ADFERIAD CYMRU: CHWALU RHWYSTRAU A CHREU YMDEIMLAD O BERTHYN
Cyflwynodd Yue Qin, Chloe Harrison, Ffion Evans a Claire Jones o Adferiad Cymru gyflwyniad pwerus ar eu hymchwil i gael gwared ar rwystrau i wirfoddoli i unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Trwy grwpiau ffocws myfyriol, gwnaethant ddarganfod mewnwelediadau dwfn i’r hyn sydd ei angen i greu gofod gwirioneddol gynhwysol i wirfoddolwyr.
Y brif neges? Nid yw’n ymwneud â recriwtio yn unig, mae’n ymwneud â pherthyn a chefnogaeth barhaus. Mae angen i wirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin yn gyfartal â staff cyflogedig. Mae argymhellion Adferiad yn cyflwyno glasbrint ymarferol i ni i gyd, gan gynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol i staff, darparu deunyddiau wedi’u cyfieithu, ad-dalu costau teithio a chynnig cymorth anariannol fel prydau bwyd a rennir. Maen nhw bellach yn symud i gam peilot i roi’r ymchwil hon ar waith.
Bydd gan bob un o’r prosiectau hyn ymchwil, dysgu ac ymarfer i’w rhannu. Sicrhewch eich bod yn gwybod y diweddaraf trwy fynd i Hwb Gwybodaeth TSSW. Yma fe welwch chi adnoddau, gwerthusiadau a phecynnau cymorth defnyddiol o bob rhan o’r sector i wella eich ymagwedd at wirfoddoli.
BETH SYDD I DDOD: EIN MAP FFORDD 1-2 FLYNEDD
Dim ond megis dechrau mae’r daith o ymwreiddio’r weledigaeth hon. Yn ystod y 24 mis nesaf, bydd CGGC a’n partneriaid yn canolbwyntio ein hegni ar chwe cholofn strategol:
- Ehangu’r weledigaeth: Sicrhau bod pawb yn deall yr ymgyrch ac yn teimlo’n rhan ohoni.
- Sbarduno mabwysiadu: Annog mwy o fudiadau i fynd ati i newid eu harferion.
- Rhannu gwybodaeth: Adeiladu cymunedau ymarfer gweithredol fel nad ydyn ni’n ail-ddyfeisio’r olwyn ar wahân.
- Paratoi’r sector: Cysylltu mudiadau â’r adnoddau, pecynnau cymorth a’r cymorth cywir.
- Newid diwylliant: Gweithio ar lefel genedlaethol i drawsnewid agweddau cymdeithas tuag at roi amser.
- Mesur llwyddiant: Creu dangosfwrdd cynaliadwy o fesurau i olrhain ein cynnydd cyfunol.
Nid oes gennym ni’r holl atebion eto, ond mae gennym ni gynllun, mae gennym ni rywfaint o adnoddau ac mae gennym ni sector sy’n pryderi mwy fyth am wneud yn siŵr bod gwirfoddoli yma i aros!
EISIAU CYMRYD RHAN?
Mae’r Dull Newydd o Wirfoddoli wedi’i gynllunio i fynd â ni i ddyfodol lle mae gwirfoddoli yn ffordd o fyw. Mae wedi’i gynllunio’n bwrpasol i fod yn ymgyrch fyw sy’n cael ei yrru gan bobl fel chi. Os hoffech chi wneud eich rhan i greu Cymru lle mae rhoi yn ôl wedi’i blethu yng ngwead pwy ydym ni, troi eich myfyrdodau yn weithredu, ac ymuno â phobl eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, ymunwch ag un o’r Cymunedau Ymarfer gwirfoddoli presennol. Mae ein llais a’n pŵer yn gryfach gyda’n gilydd.
Os hoffech siarad am sut gallwch ddod â hyn yn fyw yn eich maes gwaith neu wirfoddoli, dewch i gael sgwrs. Gallwch gysylltu â mi ar fwalls@wcva.cymru.
*Saesneg yn unig