Mae Fiona Liddell, Arweinydd Strategol Helplu Cymru, yn myfyrio ar ei thaith 22 mlynedd gyda’r tîm gwirfoddoli yn CGGC.
Roeddwn wrth fy modd i ymuno ag CGGC yn 2003 am brosiect tair blynedd gyda’r Gronfa Gymunedol yn cefnogi mudiadau â marchnata a recriwtio gwirfoddolwyr. Ychydig a wyddwn i y byddem yn aros am gyhyd, gan weithio mewn naw rôl olynol i gyd.
Nawr, wrth i mi agosáu at fy ymddeoliad ar ddiwedd mis Mawrth, rwy’n tacluso ffeiliau ac yn dod ar draws pethau sy’n fy atgoffa o rai o’r newidiadau mawr rwyf wedi’u gweld yn ystod y cwpwl o ddegawdau diwethaf.
TIRWEDD WAHANOL
Mae’r dirwedd wirfoddoli wedi newid yn enfawr. Nid yw’r stereoteip o fenywod canol oed sy’n ‘gwneud da’ yn eu cymuned yn wir mwyach. Mae ystod ehangach o bobl yn gwneud ystod ehangach o weithgareddau, a’r rheini yn cael eu galw wrth amrywiaeth o wahanol labeli.
Pwy ohonom ni oedd wedi clywed am ‘ficro wirfoddoli’ (hyrddiau o weithgarwch er budd y gymuned) neu ‘wirfoddoli ysbeidiol’ (gwirfoddoli untro neu achlysurol’) 20 mlynedd yn ôl? Mae’r rhain yn dermau adnabyddus nawr.
Mae eraill yn cynnwys cyfranogiad cymunedol anffurfiol, gweithredu cymdeithasol dan arweiniad y gymuned a chymorth rhwng cymheiriaid. Yn fwy dadleuol, mae llawer o gyrsiau addysgol, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru, yn ei gwneud hi’n ofynnol i’w myfyrwyr wirfoddoli – ‘a yw hynny’n ddigon “gwirfoddol” i gyfri fel gwirfoddoli?’ gofynna rhai.)
GWELLA EICH PORTFFOLIO
Mae colegau a phrifysgolion, yn ogystal â chyflogwyr, yn hoffi gweld profiad o wirfoddoli nawr fel modd o ddangos sgiliau, gwerthoedd ac ymrwymiad. Mae hyn yn golygu y gallwch adeiladu portffolio personol gwell (boed hwnnw ar gyfer LinkedIn, cais am swydd neu hyd yn oed gwefan chwilio cymar) trwy gynnwys enghreifftiau da o wirfoddoli.
Rydym yn gwybod cymaint yn fwy am gymhellion gwahanol gwirfoddolwyr* a phwysigrwydd cydnabod y rhain. Mae anhunanoldeb a’r awydd i helpu pobl eraill yn parhau i fod yn rheswm cyffredin dros wirfoddoli, ond mae ennill sgiliau, magu hyder, creu cysylltiadau cymdeithasol neu chwilio am rywbeth i ladd amser hefyd yn rhesymau.
GWNEUD RHEOLI GWIRFODDOLWYR YN BROFFESIYNOL
Gallaf gofio cyflwyniad y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cyntaf ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr, a ddilynwyd yn fuan gan nod ansawdd y DU, Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr*. Mae’r ddau wedi chwarae eu rhan mewn codi’r ansawdd a’r disgwyliadau o ran rheoli gwirfoddolwyr a phrofiadau gwirfoddolwyr.
Yng Nghymru, gwelwyd ymdrechion aflwyddiannus i sefydlu corff proffesiynol ar gyfer rheolwyr gwirfoddolwyr a sefydlu cymhwyster gradd meistr. Yn Lloegr, lansiwyd y Gymdeithas Rheolwyr Gwirfoddolwyr yn 2007. Caiff rheolwyr gwirfoddolwyr yng Nghymru, sy’n gweithio’n bennaf gyda mudiadau cymharol fach, eu cefnogi gan rwydweithiau lleol a chenedlaethol a redir gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol ac CGGC.
DATBLYGIAD DIGIDOL
Mae ceisiadau drwy’r post a thaenlenni Excel wedi’u disodli gan fwyaf gan adnoddau digidol ar gyfer recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.
Roedd gwefan cynharaf Gwirfoddoli Cymru, a ddefnyddiwyd i hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli, yn gyntefig o’i chymharu â gwefan heddiw. Gall gwirfoddolwyr gofrestru’n uniongyrchol ar gyfer cyfleoedd nawr, yn hytrach na thrwy ganolfannau gwirfoddoli, ond yn bwysig iawn, mae cymorth personol yn parhau i fod ar gael i’r rheini sydd ei eisiau neu ei angen. Yn aml, mae gan lawer o fudiadau DU gyfan mwy o faint eu systemau gwe eu hunain ar gyfer rheoli gwirfoddoli.
Un canlyniad o’r datblygiadau hyn yw’r potensial i gasglu data y gellir ei ddefnyddio i adeiladu tystiolaeth dros wirfoddoli a phledio’r achos dros fuddsoddiad strategol.
Gellir gwneud mwy o gyfleoedd gwirfoddoli ar-lein bellach, sy’n eu gwneud yn hygyrch, waeth beth yw lleoliad neu symudedd rywun. Mae’n ychwanegu at yr amrediad o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan.
IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Ddeng mlynedd yn ôl (heb sôn am 20) ni fyddem erioed wedi dychmygu’r lefel o ymgysylltiad sydd gennym nawr gyda chyrff iechyd a gofal y sector cyhoeddus, fel Byrddau Iechyd neu Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ers hynny, mae Helpforce*, a Helplu Cymru wedi gwneud camau breision mewn dylanwadu ar y naratif a’r arferion gwirfoddoli o fewn y GIG. Rydym hefyd yn dechrau gwneud hynny yng ngofal cymdeithasol y sector cyhoeddus ac yn anelu at fodelau gofal lle y mae’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn bartneriaid mwy cyfartal, a lle mae’r gwasanaethau wedi’u hintegreiddio’n well, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn agosach at adref. Mae gan wirfoddolwyr ran arbennig i’w chwarae mewn cyflawni agenda Cymru Iachach.
Gwnaeth pandemig COVID-19 orfodi partneriaethau a ffyrdd o weithio newydd a rhoi mwy o hygrededd i rôl y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr. Rydym wedi gallu adeiladu ar hyn ers hynny.
GAIR I GLOI
Mae’r rhan fwyaf o’m bywyd gweithio wedi ymwneud â’r meysydd iechyd, datblygu cymunedol neu wirfoddoli. Mae’r chwe blynedd ddiwethaf yn arwain Helplu Cymru wedi cyfuno nifer o feysydd sydd o ddiddordeb personol i mi, felly mae’r adeg hon wedi bod yn arbennig o wobrwyol i mi.
Gallaf eich sicrhau chi y byddaf yn parhau i chwifio’r faner dros wirfoddoli ar ôl i mi stopio gweithio am dâl ym mis Mawrth. Byddaf yn parhau i wirfoddoli a bydd y mewnwelediadau a’r profiadau rwyf wedi’u cael yn ystod fy amser ag CGGC yn parhau i fod yn werthfawr. Byddaf, ar brydiau o leiaf, yn ymuno â’r fintai stereoteipiedig o fenywod canol oed sy’n ‘gwneud da’ yn eu cymuned!
Yn y cyfamser, rwy’n ffyddiog y bydd Helplu Cymru, fel rhan o brosiect iechyd a gofal cymdeithasol ehangach CGGC, yn parhau i wneud gwahaniaeth positif i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan bwyll bach!
Sut olwg fydd ar wirfoddoli yn yr 20 mlynedd nesaf? Wel, pwy a ŵyr!
Erthygl berthnasol:
Helplu Cymru – pum mlynedd yn ddiweddarach
*Saesneg yn unig