Mae Aimee Parker wedi bod yn gweithio gyda thair o gymunedau Cymru er mwyn dychmygu a chynllunio ‘Dyfodol Gwell’ fel rhan o brosiect Dyfodol Gwell Cymru. Yma mae’n sôn am ddefnyddio methodoleg y dyfodol gyda Bwyd Dros Ben Aber.
Mudiad cymunedol sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth yw Bwyd Dros Ben Aber. Mae’n nhw’n cymryd camau i leihau gwastraff bwyd yn yr ardal drwy ailddyrannu bwyd dros ben i’r gymuned.
Estynnodd Heather McClure, sylfaenydd Bwyd Dros Ben Aber, wahoddiad i aelodau o’r gymuned gymryd rhan yn y gweithdai gweledigaeth a gafodd eu cynnal ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021. Bu 22 o gynrychiolwyr o ystod eang o grwpiau a mudiadau cymunedol ledled Aberystwyth yn rhan o’r digwyddiadau.
Y DYFODOL FEL TAITH
Fel gweithgaredd torri’r iâ yn ystod y gweithdy cyntaf, gofynnwyd i’r cyfranogwyr feddwl am y dyfodol fel taith ac i ystyried pa gerbyd bydden nhw’n ei ddefnyddio a sut beth fyddai eu taith nhw. Roedd teithio’n araf deg, mwynhau’r golygfeydd a derbyn nad yw’r ffordd yn esmwyth bob amser yn sicr yn themâu cyffredin. Cafodd pobl a chyd-dynnu eu crybwyll yn llawer o’r teithiau, yn ogystal â bwyd a rhannu.
Rhannodd y cyfranogwyr yn grwpiau llai gan ddefnyddio olwynion y dyfodol i ‘freuddwydio’n fawr’. I gael rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a’r broses, darllenwch fy mlogiad am fethodoleg .
BREUDDWYDDIO’N FAWR
Roedd y sgyrsiau a gafwyd yn ystod yr ymarferiad breuddwydio’n fawr yn gyfoethog ac yn galonogol, ac yn creu darlun o ddyfodol â chymuned weithgar a gwybodus. Roedd dysgu yn un o’r themâu a grybwyllwyd gan bob grŵp, yn bennaf cyfleoedd am ddysgu anffurfiol a chymunedol.
Roedd gan y gymuned weledigaeth o rannu gofodau, ac o weithio ar y cyd mewn gofodau a llefydd. Mae’r gymuned yn angerddol dros eu hamgylchedd ac maen nhw am weld bywyd gwyllt yn ffynnu a’u system fwyd yn gweithio’n dda.
Maen nhw am weithio tuag at greu byd lle mae pobl yn mwynhau’r amgylchedd yn hytrach na phoeni amdano. Maen nhw eisiau cyfleoedd i adeiladu eu heconomi leol, i ddarparu swyddi a buddion i bobl leol.
GWIREDDU BREUDDWYDION
Yn ystod y sesiwn nesaf (yr ail weithdy), trafodwyd sut byddai modd troi’r breuddwydion yma’n weithredoedd, a pha gamau y gallai cymuned Aberystwyth eu cymryd ar y cyd er mwyn dechrau gwireddu’u breuddwydion.
Roedd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar y canlynol:
- datblygu Gofod ‘hwb’ i’w rannu
- datblygu system fwyd gylchol
- hyrwyddo systemau lles, a
- creu cronfeydd arian gwydn ar gyfer buddsoddi’n lleol.
Roedd y dull tri gorwel yn galluogi’r grwpiau i ystyried lle maen nhw a sut mae hynny’n wahanol i’r fan yr hoffen nhw ei chyrraedd. Fel rhan o’r drafodaeth yma, cafodd y grwpiau eu hannog i ystyried pa newid cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd yn eu cymunedau.
Gofynnwyd iddyn nhw hefyd ystyried beth fyddai’n cael yr effaith fwyaf, pwy fyddai angen bod yn rhan o hynny, a beth fyddai canlyniad ‘da’ ymhen pum mlynedd.
MAE’R DAITH YN PARHAU
Roedd Heather yn frwdfrydig iawn am y prosiect, ac roedd hi’n teimlo ei fod wedi bod yn gyfle gwerthfawr i’r gymuned, un o’r pethau pwysig iddi hi oedd gweld pa mor fawr oedd y darlun wedi datblygu yn ystod y broses.
Fodd bynnag, maen nhw’n gweld hyn fel cychwyn y broses, ac yn pwysleisio’r angen i sicrhau cefnogaeth llawer o bobl ar hyd y daith gyda nhw. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i’r weledigaeth lwyddo.
Roedd hi’n bleser gweithio gyda’r gymuned yn Aberystwyth, ac i ddeall rhagor am eu gweledigaethau a’u dyheadau. Mae Heather o Bwyd Dros Ben Aber wedi llwyddo i gyflawni cymaint yn ystod yr ychydig flynyddoedd ers sefydlu’r fenter ac mae’n unigolyn ysbrydoledig. Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol ac yn gobeithio y byddan nhw’n llwyddo i wireddu’u breuddwydion!
RHAGOR O WYBODAETH AM BROSIECT DYFODOL GWELL CYMRU
Rydyn ni’n awyddus i weld y prosiect yn cael mwy o effaith yn ehangach, ac rydyn ni wedi datblygu’r gyfres yma o flogiadau yn ogystal â phodlediadau, flogiau a phecyn cymorth, ac mae’r cyfan ar gael yn fan hyn.